Roedd yn noson lwyddiannus iawn i dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda thri enillydd a phump yn ail yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2021 eleni.
Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol mewn seremoni rithwir ddydd Mercher 10 Tachwedd 2021 i ddathlu cyflawniadau rhagorol yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol, gan gynnwys eu dylanwad cadarnhaol ar arfer nyrsio gorau a gwella’r gofal a roddir i unigolion a chymunedau yng Nghymru.
Llongyfarchiadau mawr i Christine Brookes, Myfyriwr Nyrsio / Gweithiwr Cymorth Nyrsio Ysgol, enillydd y wobr Myfyriwr Nyrsio; Anwen Mai Jones, Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol yng Ngheredigion am ennill y wobr Nyrsio Cymunedol; a Sue Rees BEM, Uwch Ymarferydd Nyrsio (Atal Heintiau Cymunedol) am ennill y wobr Gwella Iechyd Unigolion a Phoblogaeth.
Yn ail ar y noson oedd:
- Suzanne Davies, Nyrs Glinigol Rhiwmatoleg yn Ysbyty Llwynhelyg, Sir Benfro yn y categori Arloesi a Digido mewn Nyrsio
- Betsan Ifans, Nyrs Feithrin / Gweithiwr Cymorth Ymwelwyr Iechyd yn Abergwaun, Sir Benfro yn y categori Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
- Sarah Kingdom-Mills, Hwylusydd Addysg Cartrefi Gofal yn y categori Cefnogi Addysg a Dysgu ar Waith
- Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus yn y categori Gwella Iechyd Unigolion a Phoblogaeth
- Rebecca McDonald, Nyrs Gofal Lliniarol Paediatreg / Nyrs Plant Cymunedol yng nghategori Nyrsio Paediatreg Suzanne Goodall
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Rwy’n falch iawn bod Christine, Anwen, Sue, Suzanne, Betsan, Sarah, Bethan a Rebecca wedi cael eu cydnabod yn y seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog hon.
“Rwy’n hynod falch ohonynt, a’n holl staff nyrsio, am y gofal o ansawdd uchel y maent yn parhau i’w ddarparu bob dydd i’n cleifion. Mae’n arbennig o ysbrydoledig i’r holl lwyddiannau hyn gael eu hennill trwy waith caled ac ymrwymiad llwyr wrth wynebu heriau pandemig byd-eang.”
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am waith gwych y rhai ddaeth i’r brig:
Gwobr Myfyriwr Nyrsio – Enillydd: Christine Brookes, Myfyriwr Nyrsio / Gweithiwr Cymorth Nyrsio Ysgol
Wrth astudio ar raglen 4 blynedd y bwrdd iechyd ‘Tyfu Eich Hun’, mae Christine wedi cefnogi gweithrediad Canolfan Reoli COVID-19 yn y swyddogaeth brofi a’r rhaglen frechu.
Datblygodd Christine becynnau adnoddau, sydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg, i helpu cyd-fyfyrwyr a myfyrwyr sy’n cychwyn yn y Bwrdd Iechyd i lywio eu gwaith.
Cododd agwedd gadarnhaol Christine galon cydweithwyr mewn cyfnod o bwysau mawr, tra bod ei hyblygrwydd yn dangos ymrwymiad eithriadol i’w phroffesiwn yn y dyfodol.
Meddai Christine: “Rwy’n teimlo’n anrhydeddus fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol, fodd bynnag, rwyf wedi caru pob lleoliad. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr a dysgu gan fentoriaid, cydweithwyr a chyd-fyfyrwyr anhygoel trwy gydol fy hyfforddiant.
“Rwy’n falch o gynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe a byddaf yn parhau i gofleidio pob cyfle dysgu, i barhau i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. Roedd yn syndod hyfryd cael fy enwebu, ac rwy’n ddiolchgar iawn.”
Gwobr Nyrsio Cymunedol – Enillydd: Anwen Mai Jones, Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol, Ceredigion
Mae Anwen wedi gwasanaethu cymuned diabetes Ceredigion ers blynyddoedd lawer fel nyrs arbenigol diabetes cymunedol (CDSN), gan feithrin dull unigryw o ofal cymunedol. Mae ei dull arloesol yn cynnwys gweithredu gofal ar sail tystiolaeth i gleifion ac annog cydweithwyr yn gyson i ail-werthuso’r gofal a gynigir.
Hyrwyddodd gydweithrediad agos â meddygfeydd teulu yng Ngheredigion, gan ddod â gofal yn agosach at gartrefi cleifion a galluogi meddygon teulu i gyrraedd eu targedau gwasanaeth diabetes a dangos gwelliant ansawdd.
Mae dull Anwen wedi arwain at well boddhad cleifion, costau rhagnodi sefydlog a mwy o hyder wrth reoli diabetes. Mae’r newidiadau hyn i gyd wedi’u gyrru gan angerdd Anwen i hyrwyddo gofal unigol, a rhannu gwybodaeth arbenigol yn eang ymhlith staff, cleifion a gofalwyr.
Meddai Anwen: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i dderbyn y wobr hon. Mae’n anrhydedd fawr ac yn gyflawniad mwyaf fy ngyrfa nyrsio. Sicrhaodd y cydweithio ar y cyd rhyngof fi a chydweithwyr gofal sylfaenol a chymunedol welliant i’r gwasanaeth diabetes lleol, gan ddangos budd integreiddio a chyfathrebu. Gobeithio, trwy ennill y wobr hon, y byddaf yn ysbrydoli cydweithwyr nyrsio i werthuso, adlewyrchu a gwella’r gofal y maent yn ei ddarparu trwy gael y weledigaeth i gwestiynu a gwella gwasanaethau.”
Gwobr Gwella Iechyd Unigolion a’r Boblogaeth – Enillydd: Sue Rees BEM, Uwch Ymarferydd Nyrsio (Atal Heintiau Cymunedol)
Roedd Sue mewn sefyllfa arbenigol i arwain ar her ac ymateb i atal heintiau COVID-19 cymunedol. Cynhyrchodd fodel atal heintiau a gwnaeth wahaniaeth achub bywyd ar nifer fawr o achlysuron.
Wrth i’r pandemig agosáu, roedd gan Sue wybodaeth hanfodol a rôl unigryw yng Nghymru fel uwch ymarferydd nyrsio ym maes atal heintiau cymunedol, gyda chylch gwaith strategol ar gyfer y Bwrdd Iechyd.
Ar ôl ymddeol o’i rôl llawn amser yn 2018, dychwelodd i’r gwaith am dri diwrnod yr wythnos. Rhannodd arbenigedd ar draws y gymuned er budd cleifion, preswylwyr, staff gofal iechyd a phartneriaid.
Roedd ei gwaith eang yn cynnwys gweithredu polisïau atal heintiau COVID-19, comisiynu unedau sgrinio, hyfforddi personél byddin Prydain, a chefnogi achosion mewn cartrefi gofal, ysbytai cymunedol, lleoliadau gofal sylfaenol ac ysgolion. Hefyd, datblygodd brosesau a pholisi mewn gwersyll lloches lleol.
Heb os, arbedodd y gweithredoedd hyn, ynghyd â chynlluniau rheoli achosion fywydau. Mae Sue wedi cyfathrebu model atal heintiau COVID-19 gyda chydweithwyr ledled Cymru ac mae’n gobeithio ei gyflwyno i gynulleidfaoedd ehangach.
Meddai Sue: “Mae’n anrhydedd aruthrol fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ac ennill y Wobr Gwella Iechyd Unigolion a Phoblogaeth. Mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith ymateb dwys COVID-19 yn y gymuned.
“Fel nyrs am 39 mlynedd mae’r wobr hon yn fraint ac mae’r cyflawniad hwn yn bwysig o fewn fy ngyrfa nyrsio anhygoel a gwerth chweil. Rwy’n falch iawn bod fy ymrwymiad ac angerdd dros atal a rheoli heintiau a nyrsio wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN.”
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am waith y rhai ddaeth yn ail. (yn agor mewn dolenTa newydd)
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle