Sut mae sesiynau ar-lein yn helpu menywod i fewn i gyflogaeth

0
266
Nicola Kelly from Carmarthen
Mae cyfres o sesiynau ar-lein, sydd am ddim, yn helpu menywod di-waith ledled Cymru i ddod o hyd i gyflogaeth.
 
Yn cael eu redeg gan yr elusen cydraddoldeb rhywedd, Chwarae Teg, mae yna pedair sesiwn sydd wedi’u gynllunio sydd yn addas i unrhyw un sy’n teimlo ei bod yn cael ei dymchwel a’u gorlethu gan yr holl broses o ddod o hyd i swydd.
 
Mae Nicola Kelly o Gaerfyrddin eisoes wedi cymryd rhan yn y gyfres o sesiynau ac yn hapus i’w hargymell i fenywod eraill, gan ddweud: “Dydw i ddim wedi gallu dod o hyd i gyflogaeth ar ôl graddio yn syth i fewn i’r pandemig yn 2020 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn photograffiaeth. Fodd bynnag, rhoddodd y seswin cefnogaeth grŵp ac anogaeth i mi. Mae fy hyder a fy hunan-werth yn uwch, felly rwy’n teimlo’n gyffyrddus wrth ehangu fy chwiliad swydd i gynnwys swyddi na feddyliais am ymgeisio amdanynt o’r blaen. Gwnaeth y sesiynau i mi sylweddoli nad ydw i ar fy mhen fy hun, gallaf ddisodli fy ofnau â phositifrwydd, ac rwy’n ddigon da i ymgeisio am y swyddi.”
 
Mae pob gweithdy, amlinellir isod, yn lle diogel i ddatgelu a datblygu technegau meithrin hyder go iawn a fydd yn galluogi menywod i fynd ati wrth ymgeisio am swyddi a chyfweliadau gydag egni o’r newydd.
 
Creu CV llwyddiannus – arweiniad arbenigol ar sut i greu CV sy’n effeithiol.
Cewch y cyfweliad, cewch y swydd – dysgu sut i gyflwyno ceisiadau am swyddi sy’n addas a phroffesiynol ac a fydd yn cynyddu’ch cyfleoedd o sicrhau cyfweliadau.
Newidiwch eich ffordd o feddwl, cewch ganlyniadau – archwiliwch yr hyn sydd yn eich hatal, dysgwch sut i gadw ffocws a chymhelliant wrth chwilio am swydd.
Hyrwyddwch eich hun a gwnewch i’ch hun sefyll allan – darganfyddwch sut y gall brandio personol a siarad amdanoch chi’ch hun mewn ffordd glir a dilys eich helpu i ddod o hyd i’r swydd iawn.
 
Dywedodd Rina Evans, Uwch Bartner Cyflenwi, Chwarae Teg: “Gall colli eich swydd effeithio’n wirioneddol ar eich hyder, yn enwedig mewn cyfnod o gymaint o newid yn ein bywydau. Dyna pam mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio’n arbennig i ystyried yr effaith y gall diweithdra ei chael ar les rhywun a symud menywod yn agosach at gyflogaeth barhaol neu hunangyflogaeth.”
 
Bydd y sesiynau yn rhedeg tan fis Chwefror 2022, ond cynghorir cofrestri’n gynnar i osgoi colli allan ar le.
 
Am fanylion pellach ac i gofrestru ewch i: https://chwaraeteg.com/prosiectau/llwyddiant-swydd-ar-ol-covid-19/, e-bostiwch engagement@chwaraeteg.com neu ffoniwch 0300 365 0445.
 
 

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle