Mae cynhyrchwyr bîff o’r fuches odro’n cyflawni cynnydd byw dyddiol o 1kg/dydd oddi ar y borfa ar system bori cylchdro.
Mae Neil Davies wedi trawsnewid ei system dda byw ers dod yn un o ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, gan newid o gynhyrchu gwartheg bîff sugno i fagu a phesgi gwartheg bîff o’r fuches odro a brynir i mewn.
Mae hefyd yn canolbwyntio ar dyfu mwy o laswellt o ansawdd uwch ar fferm Cefnllan, Llangamarch, trwy dreialu gwahanol dechnegau ail hadu a defnyddio dulliau pori cylchdro yn hytrach na stocio’n sefydlog. Gall gwella arferion rheoli’r pridd a’r da byw gynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal a’i storio a lleihau ôl troed carbon y fferm.
Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar ar fferm Cefnllan, cafodd ffermwyr gyfle i weld y canlyniadau hyd yma a chlywed cyngor arbenigol gan dri o ‘r arbenigwyr sydd wedi bod yn cynghori ar y treialon – yr arbenigwr glaswellt, Charlie Morgan, y maethegydd Hefin Richards a’r ymgynghorydd pori, Sarah Morgan.
Er mwyn cymharu gwahanol ddulliau o ail hadu, cafodd un cae ei aredig yn rhannol a chafodd y gweddill eu drilio’n uniongyrchol gan ddefnyddio gwahanol beiriannau, gyda rhai ardaloedd yn cael eu chwistrellu gyda glyffosad ac eraill heb gael eu chwistrellu.
Roedd canlyniadau’r arbrawf penodol hwn yn dangos bod y rhan a oedd wedi cael ei aredig wedi perfformio llawer gwell na’r gweddill, gan dyfu 80% rhygwellt ynghyd â rhonwellt a meillion.
“Rydym ni’n defnyddio gwaelodlin o 70% fel canran dderbyniol ar gyfer rhygwellt, felly mae 80% yn ganlyniad da iawn,” meddai Mr Morgan.
Ni welwyd unrhyw egin blanhigion meillion na rhonwellt newydd yn y caeau a oedd wedi’u hau gan ddefnyddio techneg drilio uniongyrchol a heb gael eu chwistrellu, ond roedd meillion gwreiddiol eisoes yn bresennol ar bob ardal a driniwyd heblaw am yr un a gafodd ei aredig.
Roedd y cynnydd mewn rhywogaethau chwyn a welwyd ar yr ardaloedd a oedd wedi cael eu chwistrellu’n eithaf arwyddocaol, gan greu cystadleuaeth am oleuni, lle a maetholion.
Dywedodd Mr Morgan bod ail hau trwy aredig oddeutu £150/ha yn ddrytach na drilio uniongyrchol, ond bod y gost yn cael ei ad-dalu’n sydyn gan fod y porthiant yn y caeau hynny’n fwy gwerthfawr.
Er bod aredig yn rhyddhau carbon o’r pridd, awgrymodd bod heriau amgylcheddol i’w hystyried o ran drilio’n uniongyrchol.
“Os mai’r ddadl yw bod y borfa’n llai cynhyrchiol na gwndwn newydd a bod yr hadau’n gallu gwrthsefyll clefydau a sychder yn well, pam cadw’r hen borfa sy’n peryglu’r borfa sydd newydd ei hail hadu,” meddai.
“Mae’n debyg iawn y dylid defnyddio dull chwistrellu neu aredig yn hytrach na dim ond drilio’n uniongyrchol i borfa bresennol.”
Byddai tir glas o ansawdd is hefyd yn golygu y byddai’n rhaid i’r fferm brynu dwysfwyd, a byddai diesel a mewnbynnau’n cael eu defnyddio pe byddai angen trin gwyndonnydd yn amlach os nad ydyn nhw’n perfformio cystal, ychwanegodd Mr Morgan.
“Yr ateb yw peidio ag aredig yn rhy aml ac i ddefnyddio’r cymysgedd iawn o hadau, sef y rhai sy’n mynd i bara,” meddai.
Gall cwblhau Cynllun Rheoli Maetholion ganfod iechyd a ffrwythlondeb y pridd a chyfrifo gofynion gwrtaith, gan arwain at reoli’r maetholion yn fwy effeithiol.
Yn ogystal â thyfu glaswellt o ansawdd uwch, mae’n hanfodol ei fod yn cael ei ddefnyddio gan fod hyn yn gwella ansawdd.
Ar fferm Cefnllan, mae hyn yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio system bori cylchdro dan arweiniad Sarah Morgan, o gwmni Precision Grazing.
Mae’r fferm ar y trywydd iawn i dyfu 9tDM/hectar (ha) yn 2021 o’i gymharu â 6tDM/ha yn 2019 – cynnydd o 3tDM/ha, gan ganiatáu arbedion ar wrtaith a dwysfwyd a chynyddu’r gyfradd stocio. Gall sicrhau’r ffrwythlondeb gorau posibl yn y pridd leihau’r gofynion gwrtaith, gan arwain at fuddion ariannol ac amgylcheddol.
Mae nifer y cilogramau pwysau byw fesul ha (kgLw/ha) wedi cynyddu o 570kgLW/ha yn 2019 i 1,000 kgLW/ha yn 2021; ceir cynlluniau i gynyddu hyn i 1,400 kgLW/ha yn 2022.
Mae cylchdro’r hydref yn cael ei reoli ar hyn o bryd i sicrhau bod digon o laswellt ar gael er mwyn troi’r gwartheg allan yn y gwanwyn.
Cynghorodd Ms Morgan y dylid adeiladu’r gorchudd o fis Medi, er mwyn gallu ymestyn y tymor pori drwy fis Hydref a mis Tachwedd.
Dylid anelu at gau’r caeau gyda gorchudd fferm cyfartalog o fwy na 2,000kgDM/ha ym mis Tachwedd/Rhagfyr er mwyn sicrhau bod glaswellt ar gael erbyn i’r gwartheg gael eu troi allan yn gynnar yn y gwanwyn.
Dylai pob cae gael cyfle i orffwys am o leiaf 100 diwrnod rhwng mis Hydref a mis Ebrill.
Er ei bod hi wedi bod yn flwyddyn heriol ar gyfer rheoli ansawdd glaswellt, gan fod y tywydd wedi arwain at gyfnod brig mewn twf glaswellt ar ddechrau’r haf, mae gwartheg ar fferm Cefnllan wedi perfformio’n dda iawn oddi ar y borfa, gan sicrhau cynnydd pwysau byw dyddiol o 1kg ar gyfartaledd.
Roedd rhai wedi tyfu cystal nes eu bod wedi’u pesgi ychydig wythnosau’n gynt na’r disgwyl.
Rhoddir pwyslais ar dyfu silwair o ansawdd uchel, trwy ddilyn system aml-doriad, ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed. Mae egni metaboladwy (ME) y silwair bellach yn 11.5MJ/kg ar gyfartaledd.
Cynghorodd Hefin Richards fod ansawdd y porthiant yn allweddol ar gyfer economeg menter bîff o’r fuches laeth, i dyfu anifeiliaid ar ddiet uchel mewn porthiant gyda diet besgi uchel mewn starts er mwyn pesgi’n gyflym.
Mae’r dogn cymysg cyflawn (TMR) yn cynnwys 25kg o silwair glaswellt a 1kg o ddwysfwyd ar gyfer anifeiliaid sy’n tyfu, a 23kg o silwair a 7kg o’r dwysfwyd ar gyfer anifeiliaid pesgi.
Mae’r silwair yn cael ei ddadansoddi’n aml ac mae’r dwysfwyd yn cael ei lunio i gydbwyso’r dadansoddiad.
Mae mwynau a burum byw wedi’u cynnwys yn y dogn i helpu gweithgarwch y rwmen a defnydd o’r porthiant.
Mae prynu gwartheg gyda rhinweddau genynnol uchel hefyd yn cyfrannu at berfformiad da; roedd hyn, ynghyd â chanolbwyntio ar iechyd, wedi arwain at grwpiau cyson ar fferm Cefnllan, ac roedd hyn wedi helpu o ran rheoli’r porthiant, ychwanegodd.
“Mae’r grwpiau sydd wedi bod yn dod i’r fferm wedi bod yn gyson, felly mae wedi bod yn hawdd targedu’r porthiant,” meddai Mr Richards.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle