Disgyblion yn codi’r caead ar garthffos llawn cyfrinachau wrth lansio eu llyfr newydd i ddathlu Diwrnod Toiledau’r Byd

0
345
Dwr Cymru Welsh Water News
  • Mae Dwr Cymru wedi cynorthwyo disgyblion Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf i lansio llyfr y maent wedi ei greu i blant, dan y teitl ‘Carthffos llawn Cyfrinachau’.
  • Mae’r llyfr, sy’n cael ei lansio ar Ddiwrnod Toiledau’r Byd, dydd Gwener yr 19eg o Dachwedd, yn cynrychioli ffrwyth ymdrechion y disgyblion ers iddynt ddechrau gweithio gydag awdur a darluniwr ar Ddiwrnod Llyfr y Byd nôl ym mis Mawrth.

Bu’r cwmni cyfleustodau nid-er-elw’n gweithio gyda disgyblion Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac awdur a darlunydd lleol trwy fenter gyhoeddi P.E.T.R.A (Rhieni’n Ymrwymo i Godi Dyheadau), er mwyn creu llyfr stori i blant am yr effaith niweidiol o roi eitemau amhriodol i lawr y tŷ bach. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli’r difrod y gall rhoi pethau fel weips, ffyn gwlân cotwm a chewynnau i lawr y tŷ bach ei achosi. Ar ôl eu fflysio, gallant fynd yn sownd yn y pibellau carthffosiaeth gan achosi bloc sy’n gallu gwneud i’r garthffos orlifo. Mae hyn yn gallu niweidio’r amgylchedd lleol os yw’r garthffos yn gorlifo ar dir neu i mewn i afonydd, neu’n waeth byth i gwsmeriaid, os yw’r garthffos yn gorlifo i mewn i gartref rhywun.

Cafodd prosiect y llyfr ei ddatblygu mewn partneriaeth â thîm Gofalu am Gaerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd wedi cynorthwyo Dŵr Cymru gydag amrywiaeth o weithgareddau yn y gymuned yn ardaloedd Rhymni a Bargoed.  Mae Dŵr Cymru wrthi’n gweithio ar draws yr ardal gan fuddsoddi £10 miliwn mewn gwaith i uwchraddio’r pibellau dŵr yfed er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn yr ardal yn parhau i dderbyn cyflenwadau dŵr o safon ryngwladol am ddegawdau i ddod.

I ddathlu cwblhau’r llyfr, dychwelodd y disgyblion – sydd wedi symud ymlaen i’r ysgol uwchradd erbyn hyn – i’w hysgol gynradd i gael copi print o’r llyfr, clywed y stori’n cael ei hadrodd yn fyw, a chymryd rhan mewn gwasanaeth ysgol rhyngweithiol hwyliog gan Dîm Addysg Dŵr Cymru.

Mae’r llyfr i blant yn llawn dychymyg. Stori ddifyr Tim y Morleidr yw hi. Trwy ryw hap mae’n ei ffeindio’i hun yn hwylio trwy’r carthffosydd ac ar hyd y ffordd mae’n cwrdd â mymis, gofodwyr a siarcod – ond pwy fydd yn ei gynorthwyo i ffeindio’i ffordd nôl i’r Môr Mawr?  Mae’r stori’n cyfleu rheol y 3P – sef Pi-pi, Pŵ a Phapur yn unig ddylai fynd i’r tŷ bach – mewn ffordd gofiadwy, wrth roi cip difyr ar brosesau meddwl plant unarddeg oed hefyd.

Yn yr achlysur, dywedodd un o’r disgyblion, a fu’n un o gyd-awduron y llyfr: “Ar ôl gweithio mor galed ar y stori, mae hi’n hyfryd cael dod nôl i fy ysgol gynradd i gael copi o’r llyfr terfynol. Rydw i’n hapus iawn bod llawer o’n syniadau wedi cyrraedd y llyfr, ac mae fy nghopi i’n rhywbeth y byddaf i’n ei gadw’n ddiogel ac yn gofalu amdano nes y byddaf i’n hen.” 

Dywedodd Siôn Griffiths, Rheolwr Addysg a Chymuned Dŵr Cymru: “Er bod ein gwaith buddsoddi’n dod â manteision i gwsmeriaid, rydyn ni’n hoffi chwilio am gyfleoedd i gyflawni prosiectau sy’n gallu dod â manteision cymdeithasol ehangach i’r gymuned lle bynnag y byddwn ni’n gweithio – ac mae’r prosiect yma’n enghraifft berffaith o hynny. Wrth gwrs, y disgyblion yw sêr y sioe. Buon nhw’n gweithio’n galed dros ben ar y stori, ac maen nhw’n llwyr haeddu’r clod maen nhw’n ei gael heddiw.”

“Yn y pendraw, byddwn ni’n anfon y llyfrau at ysgolion a hybiau cymunedol mewn ardaloedd prosiect. Mae’r prosiect yma’n esiampl go iawn o sefydliadau’n dod at ei gilydd i weithio gyda chymuned er budd y gymuned.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle