Wrth i’r byd nodi Diwrnod Byd-eang y Plant, mae Cymru’n falch o ymuno â’r mudiad rhyngwladol i roi stop ar gosbi plant yn gorfforol

0
1957

Caiff Diwrnod Byd-eang y Plant ei gofnodi ar 20 Tachwedd bob blwyddyn a’i nod yw hyrwyddo cydberthynas ryngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd a dathlu hawliau plant. Cyn hir, bydd Cymru’n ymuno â gwledydd eraill o gwmpas y byd i amddiffyn hawliau plant drwy wneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon ymhen 123 o ddiwrnodau, ar 21 Mawrth 2022.

Bydd Cymru’n dilyn y 63 wladwriaeth sydd eisoes wedi gwneud cosbi corfforol yn anghyfreithlon; Sweden oedd y gyntaf ym 1979, a Cholombia yw’r ddiweddaraf ym mis Mai 2021  https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-09/global-journey-to-protecting-children-from-physical-punishment.pdf

Dywedodd Bess Herbert, Arbenigwr Eiriolaeth yn erbyn Cosbi Corfforol yn y Global Partnership to End Violence Against Children, “Rydym yn croesawu’r cam pwysig ymlaen i hawliau plant yng Nghymru drwy weithredu’r ddeddfwriaeth a fydd yn dod i rym ym mis Mawrth 2022. Mae diddymu’r amddiffyniad cosb resymol yn gynnydd hollbwysig i wneud cosbi corfforol yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol, sef argymhelliad allweddol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

“Mae ymchwil yn dweud wrthym fod cosbi corfforol yn gallu arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar fywydau plant yn y tymor byr a’r tymor hir, gyda chanlyniadau a chostau i’r gymdeithas gyfan. Mae astudiaethau’n awgrymu bod dau o bob tri o’r holl blant dan 5 oed yn cael eu cosbi’n gorfforol, a gwelir hyn yn gyffredin ledled y byd. Mae cyfraddau wedi cynyddu’n uwch fyth yn ystod pandemig Covid.”

Prif amcan Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Llywodraeth Cymru yw helpu amddiffyn hawliau plant a rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.  Mae ymgyrch aml-gyfrwng, gynhwysfawr ar waith erbyn hyn i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid a’r cyhoedd cyn i’r Ddeddf ddod i rym yn y gwanwyn.

Nid yw’r newid yn y gyfraith yn creu trosedd newydd, yn hytrach mae’n diddymu hen amddiffyniad cyfreithiol 160 mlynedd a oedd yn anfon y neges ei bod yn dderbyniol i blant gael eu cosbi’n gorfforol gan eu rhieni neu’r rheiny ag awdurdod rhieni. Bydd y  newid yn y gyfraith yn rhoi’r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad ag oedolion.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r sail ar gyfer polisi Llywodraeth Cymru i blant. Mae’n cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol yn anghydnaws â hawliau dynol plant.

Ychwanegodd Bess, “Mae cosbi corfforol yn torri hawliau dynol plant. Mae’r ffaith ei fod yn cael ei dderbyn yn gymdeithasol yn gyffredin yn golygu bod lefel trais wrth fagu plant wedi’i normaleiddio, gan sefydlu statws isel plant mewn cymdeithas a pharatoi’r ffordd ar gyfer mathau eraill o drais a chamdriniaeth.”

Yn dilyn gwahoddiad gan y Global Partnership to End Violence Against Children, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, yn annerch cynulleidfa ryngwladol ar y gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghymru yn yr  UNICEF Global Forum for Children and Youth (CY21) a gynhelir yn rhithwir rhwng 7-9 Rhagfyr.

Nod y Fforwm yw i ddarparu’r llwyfan byd-eang mwyaf awdurdodol i ddod â  phlant a phobl ifanc at ei gilydd ochr yn ochr ag uwch arweinwyr i drafod tystiolaeth, atebion ac ymrwymiadau, gyda phlant ac ieuenctid yn ganolog iddo. Bydd Julie Morgan yn cymryd rhan mewn digwyddiad yn y rhaglen a elwir ‘Together to #ENDviolence – at home, at school, online and within the community.’


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle