Cefnogi rhyddhau o’r ysbyty’r Diwrnod Hawliau Gofalwyr hwn

0
226

Y Diwrnod Hawliau Gofalwyr hwn (25 Tachwedd), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn codi ymwybyddiaeth o’r Gwasanaeth Rhyddhau Gofalwyr, sydd ar waith ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw un sy’n ofalwr di-dâl ac sydd angen cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol tra bod y person y maen nhw’n gofalu amdano yn yr ysbyty neu’n cael ei ryddhau/trosglwyddo o’r ysbyty. 

Gall cefnogaeth cynnwys help i ddeall y broses rhyddhau, cefnogi sgyrsiau gyda staff a chyfeirio at wasanaethau gofalwyr eraill a all ddarparu cyngor a chefnogaeth benodol. 

Mae’r adborth gan ofalwyr di-dâl yn cynnwys: 

“Gwnaeth cwrdd â’r swyddog gofalwyr wahaniaeth enfawr i mi fel gofalwr yn ystod cyfnod mam yn yr ysbyty. Roedd yn dda gwybod bod rhywun yno i mi.”

A

“Diolch am wneud profiad trawmatig yn llawer haws ac yn ysgafnach.”

Dywedodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae’r Gwasanaeth Rhyddhau Gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i gefnogi a darparu cyngor i ofalwyr di-dâl trwy eu taith i’r ysbyty, p’un ai fel gofalwr a/neu glaf. 

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth a’r trydydd sector ac awdurdodau lleol y prosiect hwn. Mae mor bwysig adnabod gofalwyr yn gynnar a darganfod beth sydd bwysicaf iddynt. Trwy gynnig cefnogaeth iddynt gyda’u rôl ofalu maent yn teimlo’n fwy hyderus yn cefnogi’r rhai sy’n gadael yr ysbyty sy’n dibynnu ar eu gofal gartref. 

“Mae gofalwyr yn cyfrannu cymaint i’n cymunedau ledled y rhanbarth ac mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfle i gydnabod hyn.” 

I gael mynediad at y gefnogaeth hon, gall gofalwyr di-dâl gysylltu â’u swyddog gofalwyr lleol fel a ganlyn. Ar gyfer ysbytai cymunedol, siaradwch a’ch cyswllt ysbyty aciwt agosaf.

Ysbyty Bronglais                                                                            
Beth Davies – 07984 464977 / beth@credu.cymru

Ysbyty Glangwili
Ben Innocent – 07971 597273 / ben.innocent@ctcww.org.uk 

Ysbyty Tywysog Philip                                                                       
Dawn Walters – 07971 597218/ dawn.walters@ctcww.org.uk

Ysbyty Llwynhelyg                                                                     
Karen Butler – 07712 658331 / karen.butler@hafal.org

I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gwybodaeth-i-ofalwyr/ 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle