Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian marathon Kirsty Griffiths’

0
486
Marathon Kirsty – Kirsty ar ddechrau ei marathon ar bromenâd Aberystwyth

Da iawn i Kirsty Griffiths o Aberystwyth, a gododd £750 i Elusennau Iechyd Hywel Dda trwy redeg rhith-Marathon Llundain er mwyn hyrwyddo rhoi organau.

Dywedodd Kirsty, sy’n gweithio fel Technegydd Corffdy yn Ysbyty Bronglais, ei bod eisiau her i’w helpu i golli pwysau a’i bod hefyd eisiau cefnogi’r gwaith anhygoel y mae’r Timau Arbenigol Rhoi Organau yn ei wneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Marathon Kirsty – Kirsty ar ddechrau ei marathon ar bromenâd Aberystwyth

“Byddwn i wrth fy modd pe bai’r arian yn mynd tuag at gefnogi teuluoedd rhoddwyr organau a’r gwasanaeth rhoi organau,” meddai. “Roedd fy chwaer a fy nhad yn rhoddwyr organau a chodais yr arian hwn er cof amdanynt.

Dywedodd Kirsty iddi gael ychydig o anffawd ar ddiwrnod marathon. Oherwydd methiannau ap a thywydd gwael, fe orffennodd 36 milltir ar bromenâd Aberystwyth yn lle 26.2 milltir!

“Ond, roedd y gefnogaeth a gefais yn anhyhoel,” meddai Kirsty. “Daeth teuluoedd y mae rhoi organau wedi effeithio arnynt i gwrdd â mi a cherdded milltir gyda mi i helpu i godi ymwybyddiaeth.

Marathon Kirsty – Kirsty yn cwrdd â Hawys, sy’n aros am drawsblaniad aren, a’i mam

“Cyffyrddodd un teulu yn benodol â fy nghalon. Mae Hawys Richards, 13 (yn y llun gyda Kirsty), ar ddialysis am naw awr y dydd wrth iddi aros am drawsblaniad aren. Trwy wyntoedd mawr y dydd, ymunodd â mi am 2.8 milltir i godi ymwybyddiaeth o roi organau.

Gwir ysbrydoliaeth a nhw oedd arwyr pennaf y dydd.

“Rwyf am ddweud diolch enfawr i bawb a roddodd. Diolch o galon i fy nheulu am eu cariad a’u cefnogaeth, yn enwedig fy ngŵr Griff, am fy nghadw i fynd.”

Marathon Kirsty – Kirsty yn ystod ei marathon

Dywedodd Rea John, Nyrs Arbenigol, Rhoi Organau: “Mae stori Kirsty yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae angen siarad am roi organau gyda theulu a ffrindiau fel y gallant gefnogi eich penderfyniad i helpu i achub bywydau eraill. ”

“Mae straeon fel un Kirsty yn rhoi gobaith i bobl ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi organau. Rhodd bywyd ac etifeddiaeth yw cofio ein hanwyliaid. ” Mae amser o hyd i gyfrannu at ymgyrch Kirsty yn www.justgiving.com/Kirsty-Griffiths14


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle