Anrhydedd staff heddlu ar gyfer SCCH sydd bob amser yn mynd uwchlaw a thu hwnt i’w ddyletswydd

0
293
Piotr Glowczyk

Mae SCCH sydd wedi creu argraff ar gydweithwyr a’u hysbrydoli wedi’i enwi fel Aelod Staff Heddlu’r Flwyddyn yng Ngwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys.

Mae Piotr Glowczyk, sy’n gweithio yn Llanelli, wedi’i ganmol am ei waith cyffredinol fel SCCH ac am wneud mwy o ymdrech pan oedd angen er mwyn sicrhau diogelwch dioddefydd herwgipio.

Wrth enwebu Piotr ar gyfer y wobr hon, dywedodd ei Ringyll, Ben Ashton: “Mae Piotr yn swyddog rhagweithiol iawn, ac mae bob amser yn anelu i fod y cyntaf allan o’r drws ar ddechrau ei sifft. 

“Y mae’n ymwybodol iawn o’r problemau cyffuriau yn ei ward, ac mae ei batrolau rhagweithiol o gwmpas yr ardaloedd wedi arwain at nifer o gofnodion cudd-wybodaeth yn cael eu cyflwyno ganddo.

“Y mae’n aml yn canfod ei hun yn rhan o erlidiau ar droed a dal drwgdybieidion, ac yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatrys troseddau.”

Mae Piotr yn aml yn cyfieithu ar gyfer dioddefwyr a thystion Pwylaidd yn ystod cyswllt cychwynnol er mwyn helpu i hwyluso ymholiadau. 

Mae hyn yn ei dynnu i ffwrdd o’i waith, ac weithiau ei fywyd teuluol, ond mae’n gwneud hyn yn ddidrafferth ac yn cofleidio’r gallu i gyfathrebu ac ymgysylltu ag aelodau Pwylaidd o’r gymuned.

Mae’n cyflawni’r swydd hon er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Un enghraifft o hyn oedd marwolaeth sydyn. 

Helpodd Piotr i gyfieithu, a threfnodd bod ffrind yn aros gyda gwraig yr ymadawedig hefyd, gan weithio tu hwnt i’w sifft er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o’r radd flaenaf yn cael ei ddarparu. 

Mae’r ymrwymiad hwn hyd yn oed yn syrthio ar ei ddiwrnodau gorffwys.

Galwyd Piotr i mewn i’r gwaith pan oedd herwgipiad tybiedig wedi digwydd. 

Roedd pedwar drwgdybyn Pwyleg yn y ddalfa, ac nid oedd manylion a lleoliad y dioddefydd yn hysbys. Ag yntau â gwybodaeth dda am y gymuned, roedd Piotr yn medru ymgysylltu â nhw ac olrhain y dioddefydd i sefydlu ei fod adref yn ddiogel ac iach o fewn oriau.

Mae ei waith hefyd wedi ennyn sylw rhai swyddogion uwch. Dywedodd y Prif Arolygydd Jolene Mann: “Yr wyf bob amser yn clywed pethau gwych am Piotr a’i ymrwymiad i’r swydd.

“Y mae’n gwneud gwaith ardderchog, ac nid yw ei ymrwymiad a’i broffesiynoldeb parhaus yn mynd heb sylw.  

“Mae ei ymgysylltiad â’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu’n ddi-ail. Heb os, mae’n adnabod ei gymunedau – ond yn fwyaf nodedig, mae ei gymunedau’n ei adnabod ef.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle