‘Dyn o ychydig eiriau,’ ond pan mae’n siarad, mae’n llwyddo i wella perfformiad tîm ymchwilio cyfan – gan sicrhau bod dioddefwyr trosedd yn cael cyfiawnder, sy’n ennill y wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig yng ngwobrau blynyddol Heddlu Dyfed-Powys.
Mae gwobrau blynyddol Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu talent, ac yn rhoi cyfle i unigolion a thimoedd gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant.
Mae’r seremoni, a gynhaliwyd yn rhithwir ar 18 Tachwedd, wedi arddangos rhywfaint o waith neilltuol yr heddlu, â ffocws arbennig ar y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at flaenoriaethau’r heddlu.
Mae’r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones o ardal Rhydaman, wedi gwasanaethu gyda Heddlu Dyfed-Powys ers 23 mlynedd, a chafodd ei enwebu gan gydweithiwr o’r adran Gweithrediadau Fforensig, sydd wedi gweithio gydag ef ar rai o’r troseddau mwyaf difrifol y mae’r heddlu wedi ymchwilio iddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Sharlene Watkins, Uwch Reolwr yr adran Gweithrediadau Fforensig, “Mae Paul Jones wedi bod yn Uwch Swyddog Ymchwilio ar gyfer nifer o droseddau difrifol yr wyf wedi cael y fraint a’r anrhydedd o fod yn Gydlynydd Lleoliad Trosedd ar eu cyfer yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae ei gefnogaeth a’i anogaeth tuag ataf i a’r tîm wedi bod yn eithriadol. Arhosodd yn broffesiynol drwy gydol yr ymchwiliadau, ac ar yr un pryd, yr oedd yn empathig tuag at yr amgylchiadau a’r teuluoedd cysylltiedig. Mae ei arweinyddiaeth wedi fy ysbrydoli ac rwyf wedi dysgu llawer wrtho ar gyfer datblygu fy sgiliau arwain fy hun.”
Mae’r wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig yn cydnabod unrhyw un, ni waeth beth yw ei swydd neu reng, sy’n ysbrydoli eraill – arweinydd ysbrydoledig sydd wedi’i gymell i gael effaith gadarnhaol ar y bobl o’i gwmpas, wedi’i ddylanwadu’n gryf gan ei werthoedd ei hun a rhai’r sefydliad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Llŷr Williams: “Un o rinweddau gorau Paul fel arweinydd yw’r ffordd y mae’n cael y gorau o bobl. Mae’n glir ynglŷn â’i amcanion a’i ddisgwyliadau o bawb ar y tîm – ac mae ganddo ffydd yn y bobl mae’n gweithio gyda nhw i gyflenwi. Mae’n gweithio’n galed iawn i ysgogi unigolion.
“Mae’n galonogol gweithio gydag ef, oherwydd mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ran ymdrin â digwyddiadau mawr – llofruddiaeth Simon Clark ym Mhentywyn a llofruddiaeth Michael O’Leary yng Nghaerfyrddin i enwi ond rhai. Y mae bob amser yn atebol fel Uwch Swyddog Ymchwilio, ond mae’n deg hefyd, ac yn gwrando ar bawb sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad ac yn derbyn cyngor.
“Mae’n wych gweithio gyda Paul. Medrwch ddibynnu arno i wneud y penderfyniadau iawn dan bwysau, gan ei fod yn dadansoddi ac yn cwestiynu ei hun ac eraill yn gyson er mwyn sicrhau ei fod wedi dod i’r penderfyniad cywir. Mae’n ddyn gwylaidd iawn sy’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon am ysbrydoli eraill a chael y gorau ohonynt.”
Meddai Sharlene Watkins, “Mae Paul yn cadw ei ffocws mewn ymchwiliadau llawn pwysau, ac mae’n ei gwneud hi’n glir ei fod yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb i’r ymchwiliad. Mae’n sylweddoli mai ymdrech tîm sy’n defnyddio sgiliau ac arbenigedd pawb sy’n arwain at ganlyniad llwyddiannus ac yn sicrhau cyfiawnder.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle