Lansio Tocyn Sengl ar gyfer Trên a Bws Rhwng De Cymru ac Aberystwyth

0
265
Transport For Wales News

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio mewn partneriaeth â TrawsCymru i alluogi cwsmeriaid i deithio rhwng De Cymru ac Aberystwyth, gydag un tocyn, gan arbed arian ac amser.

Mae’r bartneriaeth wedi lansio tocynnau integredig ar deithiau trên TrC o Dde Cymru ac Aberystwyth, a gwasanaeth bws T1 TrawsCymru sy’n cysylltu Caerfyrddin ag Aberystwyth trwy Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Yn lle bod angen i gwsmeriaid gyrchu gwahanol wefannau ac apiau i brynu tocynnau ar gyfer teithio ar draws y gwahanol ddulliau trafnidiaeth, gallant nawr brynu tocyn sengl fydd yn ymdrin ag elfennau TrC a TrawsCymru T1 o’u taith oddi ar wefan TrC, ap ac mewn rhai swyddfeydd tocynnau.

Dywedodd Pennaeth Strategaeth Masnachol TrC, Chris Williams: “Rydyn ni’n gwybod bod cwsmeriaid eisiau teithio i’w cyrchfannau mor hawdd, mor gyflym ac mor rhad â phosib, gyda’r lleiaf o ffwdan.  Gan weithio gyda TrawsCymru rydym yn gallu cyflawni hyn i gwsmeriaid sydd eisiau teithio i’r naill gyfeiriad rhwng de Cymru ac Aberystwyth. 

“Bydd y gwasanaethau cydgysylltiedig hyn nid yn unig o fudd i gwsmeriaid sydd am arbed amser ac arian ar eu teithiau, ond bydd hefyd o fudd i gymunedau a busnesau lleol.  Mae hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiadau ynghylch newid yn yr hinsawdd trwy hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus well.”

Ychwanegodd Gethin George o TrawsCymru: “Dyma’r peilot tocynnau integredig cyntaf rhwng bysiau a threnau yma yng Nghymru ac mae’n gyfle gwych i weld arbedion amser a chost i deithwyr sy’n teithio ar hyd y llwybr hwn.  Bydd yn wych gweld pwy sy’n ei ddefnyddio a byddwn yn defnyddio’r data hwnnw i’n helpu i lunio cynlluniau arbrofol tebyg yn y dyfodol.

“Mae gennym gynlluniau i ddatblygu seilwaith newydd a chyflwyno cerbydau allyriadau sero newydd ar y llwybr hwn hefyd a fydd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi’r agenda newid yn yr hinsawdd.” 

Gan deithio o Dde Cymru i Aberystwyth, bydd cwsmeriaid yn dechrau eu taith ar wasanaethau TrC i Gaerfyrddin, yn trosglwyddo i wasanaeth bws TrawsCymru T1 yng Nghaerfyrddin ac yn parhau â’u taith i Aberystwyth ar fws.

Gan deithio o Aberystwyth i gyrchfannau yn Ne Cymru, bydd cwsmeriaid yn dechrau eu taith ar wasanaethau bws TrawsCymru T1 i Gaerfyrddin, yn trosglwyddo i wasanaeth TrC o’u dewis yng Nghaerfyrddin ac yn parhau â’u taith i’w cyrchfan. 

Bellach, bydd cwsmeriaid yn gallu dechrau neu orffen eu taith mewn arosfannau bysiau T1 yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Enghreifftiau o’r arbediad ariannol (yn amodol ar newid):

  • Abertawe i Aberystwyth – £59.20
  • Aberystwyth i Ben-y-bont ar Ogwr – £52.30
  • Aberystwyth i Gaerdydd – £38.40
  • Aberystwyth i Gasnewydd – £32.80

Enghreifftiau o arbed amser (yn amodol ar newid):

  • Tregwyr i Aberystwyth – 2awr 37 munud
  • Abertawe i Aberystwyth – 1awr 42 munud
  • Castell-nedd i Aberystwyth – 1awr 9 munud
  • Pen-y-bont ar Ogwr i Aberystwyth – 23 munud

Gall cwsmeriaid brynu tocynnau neu docynnau integredig ar gyfer teithio ar reilffordd yn unig ar wefan   TrC  ap TrC , neu mewn unrhyw orsaf reilffordd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle