Rhingyll Plismona Bro mawr ei pharch yn cael ei choroni’n Swyddog Heddlu’r Flwyddyn

0
280
Gemma Davies

Wedi’i disgrifio fel ‘enghraifft berffaith o Swyddog Heddlu Dyfed-Powys rhagorol’, y Rhingyll Gemma Davies sy’n ennill y teitl Swyddog Heddlu’r Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol yr heddlu.

Mae gwobrau blynyddol Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu talent, ac yn rhoi’r cyfle i unigolion a thimoedd gael eu cydnabod am eu hymrwymiad, eu gwaith caled, eu cyflawniadau a’u llwyddiant.

Wedi’u cyflwyno mewn seremoni rithwir at 18 Tachwedd, mae’r gwobrau wedi arddangos peth o waith neilltuol yr heddlu, â ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol i flaenoriaethau’r heddlu.

Mae’r rhingyll Gemma Davies wedi gwasanaethu gyda Heddlu Dyfed-Powys ers 14 mlynedd, ac fe’i henwebwyd am y wobr gan ei rheolwr a’i haelodau tîm, ac mae 33 y mae’n eu goruchwylio ar hyn o bryd yn Nhîm Plismona Bro Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Rhingyll Dros Dro Ian Roach, “Mae Gemma’n swyddog heddlu gwych. Mae’n dosturiol ac mae hi wir yn gwrando. Mae’n meddwl am y cymunedau mae’n eu gwasanaethu, a’i haelodau tîm hefyd. 

“Mae ei safonau fel swyddog heb eu hail – hi yw’r Rhingyll gorau rwyf erioed wedi gweithio gydag ef. Mae’n gweithio ac yn ymdrechu’n ddygn i sicrhau bod cymunedau’n cael eu diogelu, a bod blaenoriaethau’n cael eu bodloni.

“Yr ydym yn cyflawni fel tîm o ganlyniad i frwdfrydedd ac egni Gemma. Mae hi mor drylwyr – mae’n troi pob carreg wrth geisio datrys problem.”  

Mae’r wobr Swyddog Heddlu’r Flwyddyn yn cydnabod rhagoriaeth, ymrwymiad a menter o fewn y swydd.   

Yn ogystal a ennill y wobr yma, fe wnaeth Rhingyll Gemma Davies hefyd gyrraedd y rownd derfynol o’r wobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig ac roedd wedi ei henwebu yn y categori Yma I Chi yn y gwobrau blynyddol eleni.

Dywedodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price, “Bydd Gemma’n ymgymryd ag unrhyw her â gwên ac agwedd gadarnhaol – sy’n heintus ac sydd yn ei dro’n cael ei ddychwelyd gan ei thîm a’i chydweithwyr o asiantaethau partner. 

“Mae Gemma’n arloesol. Un enghraifft o hyn yw’r adeg y cyflwynodd gyfarfodydd rhithwir ar-lein ar gyfer unigolion allweddol yn y gymuned ar ddechrau’r pandemig coronafeirws, a brofodd yn amhrisiadwy o ran sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu hysbysu, eu diweddaru a’u sicrhau ar adeg mor ansicr. Yn wir, roedd y cyfarfodydd hyn mor llwyddiannus, cawsant eu mabwysiadu a’u hailadrodd ledled yr ardal heddlu.

“Mae hi hefyd wedi annog sawl ymgyrch amlasiantaeth mewn ymateb i bryderon cymunedol er mwyn mynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau yn Sir Gaerfyrddin. Gwelwyd un enghraifft nodedig o hyn yn ardal Bynea llynedd, a arweiniodd at atafaelu nifer fawr o blanhigion canabis a oedd werth mwy na £300,000 ar y stryd. 

 hithau wedi’i chydnabod o’r blaen am adeiladu perthnasau a chasglu cudd-wybodaeth mewn amgylcheddau gelyniaethus gan y Tîm Uwch Reolwyr, mae’n angerddol ynghylch hyrwyddo a mabwysiadu ymagwedd datrys problemau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n mynd at wraidd problemau. Yr wyf wedi gweld proffesiynoldeb Gemma drosof fy hun ac yn parhau i wneud hynny’n rheolaidd.

Meddai’r Rhingyll Dros Dro Ian Roach: “Mae Gemma’n wych – ni allech ofyn am Ringyll gwell. Mae pawb yn codi eu golygon ati. Mae’n seren ddisglair sy’n ysgogi pawb mae’n gweithio gyda nhw.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle