Oes gennych chi ddiddordeb mewn meincnodi eich busnes moch i wella perfformiad.?
Mae Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio wedi dod at ei gilydd i ehangu’r rhaglen feincnodi ar-lein Mesur i Reoli ar gyfer cynhyrchwyr moch. Am y tro cyntaf yma yng Nghymru gall gynhyrchwyr moch gael mynediad at raglen meincnodi ddwyieithog am ddim er mwyn helpu i wella eu busnes yn barhaus.
Rhaglen gyfrifiadurol yw Mesur i Reoli sydd wedi’i chynllunio’n benodol fel y gall cynhyrchwyr moch yng Nghymru ei defnyddio i feincnodi eu busnes ac mae’n cynnwys cofnodi eu mewnbynnau, eu hallbynnau a pherfformiad y genfaint am flwyddyn benodol.
Mae dadansoddiad y busnes yn dibynnu ar gasglu data corfforol ac ariannol o gofnodion y fferm a’i fewnbynnu i’r rhaglen gyfrifiadurol sydd wedyn yn gwneud dadansoddiad yn seiliedig ar ddangosyddion perfformiadau allweddol (DPA). Mae gwneud hyn yn ei gwneud hi’n bosibl cymharu sut rydych chi’n perfformio yn erbyn busnesau moch eraill neu sut rydych chi wedi perfformio flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer pob math o gynhyrchwyr moch gan gynnwys y rhai sy’n bridio ac yn gorffen eu moch eu hunain, y rhai sy’n prynu perchyll i’w gorffen, y rhai sy’n bridio ac yn gwerthu’r perchyll wrth eu diddyfnu neu gyfuniad o’r holl systemau hyn.
Ar gyfer y fuches fridio mae’r DPA yn cynnwys, er enghraifft, cyfraddau porchell, diwrnodau nad ydynt yn gynhyrchiol a nifer y perchyll sy’n cael eu geni, eu diddyfnu a’u gwerthu. Mae’r dadansoddiad adran gorffen yn cynnwys, ennill pwysau byw bob dydd, diwrnodau i orffen ar gyfartaledd, cymhareb trosi bwyd anifeiliaid. Mae’r ddau yn darparu manylion defnydd porthiant, ymyl gros y fuches, dadansoddiad cost amrywiol a gorbenion.
Mae Menter Moch Cymru hefyd wedi cynllunio llyfr casglu data i hwyluso’r broses o fewnbynnu’r data i’r rhaglen. Mae cynllun y llyfryn yn adlewyrchu tudalennau’r rhaglen Mesur i Reoli gan wneud y trosglwyddiad o lyfr i gyfrifiadur yn gam hawdd.
Dywedodd Eirwen Williams, Pennaeth Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes:
“Mae cofnodi gwybodaeth am berfformiad, a chymharu â busnesau tebyg eraill, yn eich helpu i weld yn glir pa mor dda y mae eich busnes yn gwneud.
“Mae’r system Mesur i Reoli hawdd ei defnyddio yn cynnwys meysydd casglu data cam wrth gam sy’n ei gwneud hi’n haws cofnodi gwybodaeth mewn talpiau bach.
“Bydd cymharu eich perfformiad yn erbyn y ffigurau hyn yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau penodol yn eich busnes ac yn tynnu sylw at feysydd i’w gwella er mwyn eich helpu i gynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb eich busnes,” ychwanegodd.
Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Mae’r rhaglen feincnodi yn rhaglen wych i bob cynhyrchydd moch yng Nghymru ac mae’n ffordd unigryw o fonitro eich busnesau ac ar yr un pryd cymharu eich busnes â busnesau tebyg eraill.
“Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech drafod y rhaglen feincnodi dewch i ymweld â ni ar stondinau Menter Moch Cymru neu Cyswllt Ffermio yn y Balconi Da Byw yn y Ffair Aeaf.”
Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle