Lansio gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a diod wrth i’r Ffair Aeaf ddychwelyd

0
240
Welsh Government News

Mae datblygu gwerth diwydiant bwyd a diod Cymru i £8.5bn a chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, erbyn 2025, wrth wraidd gweledigaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn gwneud y cyhoeddiad heddiw wrth iddi ymweld â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sy’n dychwelyd ar ôl cael ei chanslo y llynedd oherwydd y pandemig.

Bydd Y Weledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 yn adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda’r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth.

Mae amcanion y Weledigaeth yn cynnwys:

  • Bob blwyddyn bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru yn tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.
  • Bydd cyfartaledd tair blynedd y Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) fesul awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU.
  • Bob blwyddyn, bydd cyfran y gweithwyr yn y sector bwyd a diod sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i 80% erbyn 2025.
  • Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sy’n dal achrediad (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).
  • Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod sy’n derbyn gwobrau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwe chynnyrch Cymreig arall yn ymuno â Chynllun Gwybodaeth Ddaearyddol y DU.
  • Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.

Mae’r Weledigaeth wedi’i hanelu at bob busnes yn y diwydiant o fanwerthu ac allforwyr i dwristiaeth, o fragwyr a phobyddion i weithgynhyrchwyr a phroseswyr.

Yn ystod cyfnod strategaeth ddiwethaf Llywodraeth Cymru, 2014–2020, cyflawnwyd twf o 30% gyda’r gwerthiant uchaf erioed o £7.5bn yn cael ei gyrraedd erbyn 2019, gan ragori ar y targed o £7bn erbyn 2020. Roedd £550m mewn allforion hefyd, wedi cynyddu o £408m.

Mae Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio hefyd yn cael ei ddatblygu ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod a fydd yn hanfodol i helpu’r diwydiant bwyd a diod i ddatgarboneiddio a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r newid i Gymru Net Sero yn ei gynnig.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’n wych bod yn ôl yn y Ffair Aeaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld wynebau newydd a chyfarwydd.

“Mae llawer wedi digwydd ers y digwyddiad diwethaf ac mae digon yr wyf am ei gyflawni o hyd a dyna pam rwy’n falch iawn o lansio ein gweledigaeth newydd ar gyfer y sector.

“Mae gennym sector bwyd a diod bywiog a llwyddiannus yma yng Nghymru yr wyf yn hynod falch ohono.

“Wrth wraidd popeth rydym wedi’i gyflawni mae wedi bod yn bartneriaeth wirioneddol rhwng busnes, academia a’r llywodraeth. Yn 2019, gofynnwyd i’r diwydiant ein helpu i lunio gweledigaeth newydd. Diolch enfawr i’r busnesau niferus a roddodd o’u hamser, eu mewnwelediad a’u barn sydd wedi helpu i lunio’r weledigaeth newydd hon.

“Mae gan y diwydiant bwyd a diod rôl hanfodol i’w chwarae yn esblygiad economi Cymru ac mae awydd cryf i gynnal y momentwm hwn. Rydym yn glir mai dim ond y dechrau yw’r amcanion a nodir yma. Mae hyn yn hanfodol er mwyn adeiladu ar ein llwyddiant cyffredinol.

“Ni allwn anwybyddu effeithiau Covid-19 a’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ddau yn parhau i effeithio ar y diwydiant, a’r gymdeithas ehangach. Rhaid inni beidio â gadael i’r un ohonynt, fodd bynnag, amharu ar ein nodau hirdymor sef hyrwyddo twf a chynhyrchiant, gan hyrwyddo tegwch mewn gwaith, sicrhau bod busnesau’n cyrraedd y lefelau uchaf o gynaliadwyedd amgylcheddol a’u helpu i gyflawni hyn drwy wella eu henw da a’u safonau. Popeth y mae ein gweledigaeth newydd yn obeithio ei gyflawni.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle