Bydd Philippa Evans o Hwlffordd yn anelu at nofio dŵr oer 30 o weithiau i godi arian ar gyfer Ward 12 yn Ysbyty Llwynhelyg er cof am ei thad
Dechreuodd Philippa y nofio ar 16eg Hydref, sef blwyddyn ers marwolaeth Gerald ‘Y Cigydd’ Evans, a oedd yn gigydd adnabyddus a hoffus yn Aberdaugleddau.
Fel pe na bai nofio yn y môr 40 o weithiau dros y gaeaf yn swnio’n ddigon anodd, bydd Philippa, 54 oed, yn cael llawdriniaeth ar ei asgwrn cefn yng nghanol yr her, y mae’n gobeithio ei chwblhau erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf!
Dywedodd Philippa, Ymarferydd Cymorth Gofal Iechyd yn Ysbyty Dydd Bro Cerwyn: “Bydd hon yn her enfawr i mi gan y byddaf yn cael llawdriniaeth ar yr asgwrn cefn yn ei chanol hi. Ond roeddwn i eisiau codi arian ar gyfer Ward 12, oherwydd roedden nhw’n anhygoel pryd bynnag roedd dad yn mynd yno. Roedd pawb yn caru fy nhad, roedd bob amser yn gwenu ac yn chwerthin ac ef oedd y tynnwr coes mwyaf. ”
“Cyn y digwyddiad hwn doeddwn i erioed wedi nofio yn y dŵr. Rwyf wedi cwblhau fy nghynllun gwreiddiol o 30 nofio ond wedi cynyddu hyn i 40, er mwyn i mi allu nofio 10 gwaith ar ôl cael fy llawdriniaeth. Bydd y nofio yn digwydd trwy gydol fy adferiad, a fydd yn ei gwneud yn anodd iawn a byddaf yn eu gwneud ar draethau ledled Sir Benfro, gan gynnwys Broad Haven, Little Haven, Abergwaun ac Angle.
“Mae fy mam ac aelodau eraill o’r teulu wedi cymryd rhan p’un a yw wedi bod yn ymuno â mi ar y nofio neu’n helpu gyda’r trefnu – mae wedi rhoi rhywbeth i ni i gyd ganolbwyntio arno. Rwy’n gwybod y bydd Dad yn edrych i lawr ac yn teimlo’n falch ein bod ni i gyd yn dod at ein gilydd ac yn troi negyddol yn bositif.
“Rwyf wedi nofio 11 gwaith erbyn hyn ac rwyf wedi fy synnu gan y gefnogaeth a’r rhoddion a gefais. Mae bod yn y môr am hanner awr yn fy ymlacio yn llwyr”
Gallwch gyfrannu at her Philippa yn https://www.justgiving.com/crowdfunding/30coldwaterswims?utm_term=7pAemKKg8
Mae hi eisoes wedi curo ei tharged o godi £1,500 a bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu rhwng Ward 12 yn Ysbyty Llwynhelyg a @gettheboysalift.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod pawb myn edmygu Philippa.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.
I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle