LLWYDDIANT I FFERMWR IFANC O SIR CEREDIGION YN Y GYSTADLEUAETH PESGI MOCH 2021

0
439
Winner of Menter Moch Cymru and CFFI Cymru Pig Finishing Initiative, Eiry Williams with Melanie Cargill, Project Manager Menter Moch Cymru, judges Ela Roberts a Glyn Davies and YFC representatives William Jones and Caryl Haf.


Heddiw yn Ffair Aeaf Brenhinol Cymru cyhoeddwyd mai Eiry Gwenllian Williams o Geredigion yw’r ffermwr ifanc sydd wedi ennill Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFFI Cymru 2021.

Mae Eiry yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon. Enillodd y gystadleuaeth gyda’r canlyniad wedi’i gyhoeddi fel rhan o ddigwyddiadau’r Ffair Aeaf a gynhaliwyd fore Mawrth, Tachwedd y 30ain.

Mae’r gystadleuaeth yn fenter flynyddol ar y cyd rhwng Menter Moch Cymru a CFfI Cymru a’r nod yw annog y genhedlaeth nesaf o geidwaid moch a chael ffermwyr i feddwl am foch fel opsiwn arallgyfeirio hyfyw. Yn ystod y pedair blynedd mae’r fenter wedi bod yn rhedeg, mae llawer o fusnesau moch newydd a llwyddiannus wedi’u sefydlu.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Y chwe unigolyn yn rownd derfynol y gystadleuaeth eleni oedd Dylan Phillips o Bwlch y Rhandir, Llangwyryfon, Eiry Williams o Dy Newydd Langwyryfon, Luned Jones o Lanwnnen, Llanllwni, Elliw Roberts o Gaergybi ar Ynys Môn, Sally Griffiths o Presteigne, Maesyfed a Laura Evans o Gwynfa, Llangwyryfon.

Yn gynnar ym mis Medi, cafodd pob cystadleuydd yn y rownd derfynol bum mochyn wyth wythnos oed o’u brîd dewisol eu hunain i’w fagu. Roedd y moch yn cael eu pwyso bob pythefnos fel bod eu cyfradd twf a’u defnydd o borthiant yn cael eu cofnodi ac roedd yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cael eu cynnwys mewn rhaglen hyfforddiant pwrpasol i’w helpu gyda’u menter newydd.

Heddiw yn y Ffair Aeaf cynhaliwyd her olaf y gystadleuaeth eleni pan arddangosodd pob un o’r chwe chystadleuydd eu moch mewn dosbarthiadau dangos byw.

Roedd Eiry wrth ei bodd o fod yn enillydd y gystadleuaeth: “Nes i erioed feddwl y baswn i’n ennill. Mae wedi bod yn gyfle anhygoel a dwi wedi mwynhau bob eiliad o’r gystadleuaeth. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i Menter Moch Cymru a CFFI Cymru am roi’r cyfle imi gael cychwyn cadw moch a fy mwriad yw parhau i gadw moch yn y dyfodol. Mae’r holl brofiad wedi bod yn hwyl ac yn addysgiadol.”

Fel rhan o’r gystadleuaeth dewisodd y beirniaid Glyn Davies a Ela Roberts, Luned Jones fel enillydd y dosbarth unigol, ac Eiry Williams fel enillydd y gystadleuaeth parau.

Dywedodd Ela Roberts bod y gystadleuaeth unwaith eto eleni yn llwyddiannus iawn: “Mae’r cystadleuwyr i gyd wedi gwneud ymdrech arbennig gyda’r moch. Mae’n wych cael gweld y moch a’u cyffwrdd eleni. Mae wedi bod yn agoriad llygad ac yn brofiad arbennig i’r cystadleuwyr.”

Wrth longyfarch yr holl gystadleuwyr dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch bod pob un ohonynt wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda’u sgiliau moch.

“Hoffwn longyfarch Eiry ar ei llwyddiant eleni wrth ennill y gystadleuaeth pesgi moch. Mae wedi bod yn gystadleuaeth wych unwaith eto eleni. Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni redeg y fenter hon mewn cydweithrediad â CFfI Cymru, a hoffwn longyfarch yr holl gystadleuwyr ar eu llwyddiant yn eu menter newydd. Hoffwn ddymuno pob lwc iddynt. “

Dywedodd Cadeirydd Materion Gwledig CFFI Cymru, William Jones: “Hoffem longyfarch yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol, ac yn arbennig Eiry ar gyflawniad gwych. Rydym yn hynod ddiolchgar i Menter Moch Cymru am roi cyfle mor wych i’n haelodau ddysgu sgiliau gwerthfawr. Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Menter Moch Cymru eto’r flwyddyn nesaf i hyrwyddo cadw moch fel menter yn y dyfodol i’n haelodau.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle