Sut y bydd rhoi amser a lle i wartheg yn gwella effeithlonrwydd godro

0
281

Gall newidiadau bychain i’r trefniadau godro gael effaith fawr ar lif y buchod a chyfanswm y llaeth a gynhyrchir ar ffermydd llaeth.

Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar, bu Tom Greenham, milfeddyg i Advance Milking, yn cynnig cyngor ynghylch gwelliannau i’w gwneud er mwyn sicrhau bod gweithgarwch godro yn fwy effeithlon ac yn well ar gyfer iechyd cadeiriau gwartheg.

“Mae’r godro yn cychwyn sawl canllath o’r parlwr; mae’r ffordd y byddwn yn mynd i gasglu’r gwartheg yn cael effaith fawr ar y ffordd y maent yn rhyddhau eu llaeth ac mae’n dylanwadu ar eu hymddygiad pan gânt eu godro,” dywedodd Mr Greenham.

Yn ôl ei gyngor ef, araf yw’r ‘cyflym newydd’ ar gyfer gyrru gwartheg:  “Neilltuwch ddigon o amser i fynd i gasglu’r gwartheg er mwyn eu godro; os byddwn yn eu rhuthro, byddant yn teimlo dan straen a byddant yn arafu.”

Er mwyn i wartheg symud yn eu blaen, ni ddylech sefyll yn eu man dall – sef yn union y tu ôl i’w cynffon.

“Os ydych chi’n dymuno i wartheg symud yn eu blaen, mae pobl yn cymryd eich bod yn cerdded ymlaen gyda nhw, ond mewn gwirionedd, mae hyn yn eu harafu; os byddwch yn cerdded yn groes iddynt, bydd hyn yn cyflymu’r broses,” esboniodd Mr Greenham.

Dylai’r rhan fwyaf o wartheg ddod i mewn i’r parlwr eu hunain.

“Os bydd yn rhaid i ni fynd allan i’r iard gasglu i nôl gwartheg, bydd yr holl wartheg yn newid eu cyfeiriad,” dywedodd Mr Greenham. “Mae angen i ni fod mewn sefyllfa lle nad oes yn rhaid i ni fynd allan gan fod nôl gwartheg yn arwain at sefyllfa lle y mae angen eu nôl yn fwy.”

Os oes modd, dylid sgrinio rhedfeydd gadael wrth redfeydd mynediad, ac o’r iard gasglu, fel na fydd gwartheg sy’n symud i wahanol gyfeiriadau yn gallu gweld ei gilydd.

Yn ogystal, mae Mr Greenham yn argymell y dylid ongli corneli wrth y fynedfa i’r parlwr, fel na fydd unrhyw le i wartheg fynd yn sownd – gan ddefnyddio onglau 45 i 50-gradd yn ddelfrydol er mwyn tywys gwartheg i’r parlwr;  gellir defnyddio gatiau neu fynegbyst i wneud hyn.

“Gall defnyddio byrddau stoc wrth y fynedfa i’r parlwr er mwyn atal yr hyn sy’n digwydd ym mhwll y parlwr rhag tynnu sylw’r gwartheg fod yn ddefnyddiol, ond os defnyddir y gwaith sgrinio hwn yn ystod y cyfnod godro, ni ddylai staff fynd allan o’r parlwr i nôl gwartheg, oherwydd y gall y cyfuniad hwn beri i lif y gwartheg waethygu fwy fyth,” cynghorodd.

Dylid cynllunio’r iard gasglu mewn ffordd sy’n caniatáu lle digonol i bob buwch:  bydd angen i wartheg croesfrid gael tua 1.5m2, a bydd angen i wartheg Holstein ac anifeiliaid eraill gyda ffrâm fwy gael 1.8m2.

Mae gwartheg yn hoffi wynebu dringfa, a ddylai fod yn ystyriaeth wrth gynllunio parlyrau newydd – ond ni ddylai’r esgynfa i’r parlwr fod yn fwy na 2.5 gradd.

Mae’n well osgoi synau uchel: “Mae taro pibell las yn erbyn dur yn effeithiol er mwyn annog gwartheg allan o’r parlwr, ond bydd hyn yn peri i wartheg ymatal rhag dod i mewn,” dywedodd Mr Greenham.

Bydd godrad anghyffyrddus yn effeithio ar lif gwartheg oherwydd y bydd y gwartheg yn disgwyl i’r profiad fod yn un a fydd yn gwneud dolur iddynt, a byddant yn amharod i ddod i mewn i’r parlwr.

“Hyd yn oed pan fyddwn yn meddwl ei fod yn broblem gyda llif y buchod, mae’n aml yn broblem sy’n ymwneud â chyfforddusrwydd godrad,” dywedodd Mr Greenham.

Bydd prawf parlwr dynamig (ffordd o asesu’r parlwr yn ystod y broses odro) yn nodi ffyrdd y bydd modd ei wella a sicrhau ei fod yn fwy effeithlon. Yn ystod prawf dynamig, bydd cofnodwyr olrhain gwactod yn cynhyrchu graffiau sy’n caniatáu i iechyd y safle godro gael ei asesu.

Mae Dr Sotirios Karvountzis o Filfeddygon Mendip wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr llaeth yn Sir Gaerfyrddin ar brosiect profi llaeth dynamig dan Raglen Arloesi Ewropeaidd (EIP) Cymru.

Mae’r meysydd a archwiliwyd yn cynnwys paratoi’r gadair er mwyn sicrhau llif llaeth da cyn gynted ag y gosodir yr unedau godro, ffit y leininau godro ar gyfer maint y deth, llif y llaeth i ffwrdd o ddiwedd y deth a gor-odro.

Dywedodd Dr Karvountzis wrth y weminar y gall sugno parhaus niweidio pen y deth os bydd y clystyrau yn cael eu cadw ar y tethi am gyfnod rhy hir ar ôl i’r gwartheg orffen godro.

Bydd profi tynnu clystyrau yn awtomatig (ACRs) – a gynlluniwyd i atal y gwactod a thynnu’r unedau llaeth oddi ar y tethi pan fydd y fuwch yn gorffen godro – yn nodi anghysondebau, megis rhoi gwactod ar ôl i’r fuwch orffen godro.

“Bydd lefelau gwactod safle godro a gallu gwael i lifo llaeth i ffwrdd o’r deth yn cael effaith niweidiol ar gadair y fuwch,” dywedodd Dr Karvountzis.

Gall y niwed hwn amrywio o’r deth yn ffurfio hyperkeratosis i fastitis a chyfrifiadau celloedd uchel cronig.

“Mae niweidio pen y deth yn peryglu un o amddiffynfeydd pwysicaf y chwarren laeth yn erbyn haint, gyda chanlyniadau economaidd a lles difrifol,” dywedodd Dr Karvountzis.

Mae defnyddio’r leininau clwstwr cywir ar gyfer maint y deth yn hanfodol, er mwyn atal aer gormodol rhag dianc, ond mae’n anodd cyflawni hyn gyda rhai bridiau, cyfaddefodd.

“Mae ceisio sicrhau’r ffit cywir o ran leininau ar gyfer buchesau y mae ganddynt ystod eang o feintiau tethi yn anodd,” dywedodd.

Gall mireinio unrhyw system odro arwain at gadeiriau iachach a gwartheg iachach.

Nid yn unig y bydd lleihau’r defnydd o wrthfiotigau sy’n gysylltiedig gydag iechyd cadeiriau yn lleihau costau meddyginiaeth a gwaith milfeddygol ar y fferm, ond bydd hefyd yn lleihau’r siawns o ddatblygu ymwrthedd i wrthfiotigau i gyffuriau pwysig a ddefnyddir ar y fferm.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle