Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap newydd

0
399
Transport For Wales News

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn lansio ei ap newydd ar gyfer ffonau clyfar ar 7 Rhagfyr, gan ddarparu mwy o nodweddion defnyddiol a gwasanaeth dwyieithog am y tro cyntaf.

Bydd y nodweddion hyn yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf a phrynu tocynnau’n gyflym ac yn rhwydd ar yr ap. Bydd yn galluogi cwsmeriaid i brynu a rheoli tocynnau o’u ffonau clyfar a dilyn eu taith mewn amser real.

Bydd yr ap hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am deithiau, fel y gall cwsmeriaid gael gwybod pryd y byddant yn cyrraedd pen eu taith, yn ogystal â pha gyfleusterau sydd ar gael ar hyd y daith.

Ar ôl cyflwyno’r ap newydd bydd yr hen ap TfW Rail yn dod i ben, er y bydd tocynnau sy’n cael eu storio ar yr hen ap ar gael i’w defnyddio tan ddydd Mawrth, 1 Mawrth 2022. Bydd angen i bob cwsmer sydd â chyfrif personol ar y wefan ar hyn o bryd agor cyfrif newydd.

Dywedodd Dave Williams, Cyfarwyddwr TG a Gwasanaethau Digidol TrC:

“Mae’r ap newydd ar gyfer ffonau clyfar yn gam mawr ymlaen yn y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i gwsmeriaid. Mae mwy o bobl nag erioed yn defnyddio ein ap i brynu tocynnau a chael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am deithiau. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cynnwys gwasanaeth dwyieithog am y tro cyntaf ac mae’n llawer haws defnyddio’r nodweddion allweddol.

“Dim ond un cam yw hwn ar y llwybr i gyflwyno ap trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y pen draw a fydd yn darparu gwybodaeth am deithiau a thocynnau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau ledled Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle