Stephanie a Sion yn beicio i godi dros £500 ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili ac elusen Bliss
Flwyddyn ar ôl i’w mab Elgan gael ei eni’n gynamserol a derbyn gofal newyddenedigol brys yn Ysbyty Glangwili, mae Stephanie a Sion Evans wedi codi £525 i’r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) a’r elusen Bliss.
Trwy gydol mis Medi 2021 cymerodd Stephanie a Sion, 29 o Aberaeron, ran yn her ‘Go the Distance’ Bliss, gan feicio 100 milltir trwy gydol y mis.
Beiciodd Stephanie a Sion ffyrdd lleol o amgylch Aberaeron ynghyd â chymryd rhan mewn sesiynau beicio yn y gampfa. Cwblhawyd y rhan fwyaf o’r teithiau gyda’i gilydd.
Dywedodd Stephanie: “Rydyn ni wedi dewis Ysbyty Glangwili a Bliss gan fod ein mab Elgan wedi ei eni’n gynamserol ac angen gofal newyddenedigol brys am gyfnod estynedig yn Ysbyty Glangwili.
“Derbyniodd Elgan, finnau a fy ngŵr wybodaeth a chefnogaeth wych gan Bliss a gofal rhagorol gan dîm newyddenedigol Glangwili.
“Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd ac a roddodd yn y gymuned leol.”
Ganwyd Elgan ar 1 Medi 2020 a derbyniodd ofal hanfodol yn Uned Arbennig Glangwili sydd ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid, gydag uned newydd a gwell ar fin agor y flwyddyn nesaf.
Wrth dderbyn y siec, dywedodd Abigail Jones a Louise Hughes o’r Uned: “Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i Stephanie a Sion am y rhodd i’r Uned Gofal Arbennig Babanod. Mae’n arbennig o deimladwy wrth i’r rhodd gyrraedd ar Ddiwrnod Babanod Cynamserol y Byd (17/11/21).
“Bydd y rhodd yn ein helpu i ddarparu offer a gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y babanod a’u teuluoedd sy’n dod trwy’r uned i wneud yr amser maen nhw’n ei dreulio yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle