Mae apĂȘl codi arian yn cael ei lansio heddiw i godi ÂŁ500,000, sef y swm syân weddill oâr cyfanswm sydd ei angen i allu darparu Uned Gemotherapi bwrpasol i gleifion allanol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Gyda chymorth a chefnogaeth pobl o bob cwr o Geredigion a thu hwnt, gellir gwiredduâr weledigaeth o gael uned gemotherapi newydd sbon ar gyfer pobl leol. Bydd un o bob dau berson yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn eu bywyd; yn anffodus, maeân glefyd syân effeithio ar bron bob teulu. Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn cael triniaeth gwrth-ganser hollbwysig yn Ysbyty Bronglais, sef cyfanswm o ryw 300 o bobl y flwyddyn o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys. Bydd datblygu uned newydd yn costio oddeutu ÂŁ2.2 filiwn, ac mae cyfanswm o bron ÂŁ1.7 miliwn wediâi gadarnhau eisoes ar gyfer y cynllun, diolch yn bennaf i haelioni ein cymunedau lleol. Trwy ApĂȘl Cemo Bronglais, mae un ymdrech olaf yn cael ei gwneud yn awr i godiâr ÂŁ500,000 syân weddill. Prif nod y datblygiad yw darparu uned gemotherapi i gleifion allanol, syân fodern ac yn addas iâr dyfodol, er mwyn gwella profiad cleifion. Nid ywâr uned gemotherapi bresennol i gleifion allanol wediâi dylunio naâi bwriadu i ddarparu triniaeth gwrth-ganser. Ar hyn o bryd, maeâr uned mewn ardal agored, hen ffasiwn gyda nifer o glinigau eraill i gleifion allanol oâi chwmpas, ac mae angen cryn dipyn o waith moderneiddio arni er mwyn gallu darparu triniaeth gwrth-ganser yno yn y dyfodol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo cynlluniau iâr uned gemotherapi aros yn ei lleoliad presennol ac iddi gael ei hehangu aâi hailwampioân llwyr. Maeâr angen am y datblygiad hwn wediâi drafod ers sawl blwyddyn. Gan fod y cynllun wediâi gymeradwyo erbyn hyn, y nod yw iâr gwaith adeiladu ddechrau ar yr uned newydd ym mis Chwefror 2023. Mae ApĂȘl Cemo Bronglais yn cael ei lansio gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â ac mae angen codi ÂŁ500,000 er mwyn iâr gwaith adeiladu ddechrau. Meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: âPan fyddwn yn siarad Ăą chleifion, byddwn yn clywed llawer o bethau gwych am y gofal aâr gefnogaeth a gynigir gan y staff ac am y modd y maent yn gwneud mwy nag sydd raid yn aml i helpu cleifion. Ond mae angen iâr ardal y maeâr uned ynddi gael ei diweddaru er mwyn adlewyrchuâr gofal rhagorol syân cael ei ddarparu aâr bobl ymroddedig syân gweithio yma. âByddai uned gemotherapi newydd i gleifion allanol yn golygu ein bod yn rhoi profiad gwell iân cleifion mewn cyfleuster modern syân addas iâr dyfodol ac sydd wediâi deilwra ar gyfer cleifion Ăą chanser sydd wedi cyrraedd amryw gyfnodau, gan gynnig lle mwy cysurus a chynnig mwy o breifatrwydd ac urddas. âY staff fydd yn arwain y gwaith o gadarnhau dyluniad terfynol yr uned newydd, gan mai nhw syân gwybod orau beth y dylaiâr uned ei ddarparu a sut fath o amgylchedd y dylid ei greu. Bydd cleifion a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael eu cynnwys yn y broses hefyd.â Meddai Gina Beard, Nyrs Arweiniol - Canser: âMaeâr apĂȘl hon yn golygu cymaint iâr staff. Mae aelodauâr tĂźm yn Ysbyty Bronglais yn darparu gwasanaeth ardderchog ond maent yn gwybod y gallent ddarparu gwasanaeth gwell fyth o wellaâr amgylchedd a chreu lle mwy cadarnhaol a golau. âByddai cael uned bwrpasol yn golygu bod modd cael mwy o breifatrwydd i ddiwallu anghenion gwahanol ein cleifion wrth iddynt fynd trwy eu triniaeth. Mae gwir angen help ein cymunedau lleol arnom gan ein bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y gwaith adeiladuân dechrau!â Meddai Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: âMae ein cymunedau lleol wedi bod mor hael yn barod, ac mae dros dri chwarter y cyllid wediâi sicrhau. Dim ond ÂŁ500,000 sydd ei angen arnom yn awr i gyrraedd ein targed a gallu darparu uned newydd, ac rydym yn apelio am gymorth y cyhoedd i godiâr cyllid hanfodol hwn aân cynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosibl. âGydaân gilydd, gallwn helpu i wella profiad cleifion canser, a gwiredduâr freuddwyd o gael uned gemotherapi newydd syân addas iâr dyfodol.â Sut mae cefnogiâr apĂȘl/ffyrdd o roi arian: Ar-lein: Y ffordd hawsaf a chyflymaf o roi arian yw trwy fynd i dudalen yr apĂȘl codi arian ar y we, sef lle gallwch wneud un taliad diogel neu drefnu taliad misol rheolaidd drwy gydol cyfnod yr apĂȘl. Drwyâr post: Gellir anfon sieciauân daladwy i âApĂȘl Uned Gemotherapi Bronglais T392â i bencadlys yr elusen, sef Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt a pheidiwch ag anfon unrhyw arian parod drwyâr post. Codi arian ar gyfer yr apĂȘl: Gellir creu tudalennau codi arian ar-lein trwy dudalen yr apĂȘl ar y we, sef www.hywelddahealthcharities.org.uk. Fel arall, gellir darparu ffurflenni nawdd a blychau a bwcedi casglu arian i gefnogwyr, o gael cais amdanynt. Cysylltwch Ăąâr TĂźm Codi Arian i gael rhagor o wybodaeth drwy anfon ebost i neu ffonio 01970 613881. BACS: Gellir darparu manylion banc i gefnogwyr ar gyfer taliadau BACS/trosglwyddo arian ar-lein, o gael cais amdanynt. Cysylltwch Ăąâr TĂźm Codi Arian i gael mwy o wybodaeth drwy anfon ebost i neu ffonio 01970 613881.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle