Diolch i grant gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd , llwyddodd Elusennau Iechyd Hywel Dda i brynu eitemau i lenwi Blychau Cwtsh ar gyfer 30 o blant a phobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatreg yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Roedd y blychau yn cynnwys blanced a gobennydd, set ysgrifennu, ffrâm lluniau teulu, siwrnal, eitemau crefft a theganau, ac fe’u hanfonwyd i deuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Dywedodd Dawn Thomas, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatreg Hywel Dda, fod y Blychau Cwtsh hyn wedi rhoi gwen ar wynebau plant a phobl ifanc o fabanod hyd at 25 oed, yn ystod cyfnod anodd iawn gyda heriau COVID-19.
“Rhoddodd y blychau hyn hwb hyfryd i’n plant a’n pobl ifanc ac roeddent yn syndod braf iddynt,” meddai Dawn. Roedd y teuluoedd mor ddiolchgar am yr anrhegion. Fe wnaethom hefyd addasu pedwar blwch i’w rhoi i deuluoedd mewn profedigaeth yn ddiweddar.
“Cefais gymorth yn y prosiect hwn gan Sandra Jones, Pennaeth Gwasanaeth Chwarae Therapiwtig Hywel Dda, ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a alluogodd inni ddarparu’r Blychau Cwtsh hyn.”
Yn y lluniau mae Dawn a Sandra gyda rhai o Flychau Cwtsh a hefyd yn y llun mae Mark Haynes, claf 11 oed o Sir Benfro a oedd wrth ei fodd gyda’i ddanfoniad arbennig.
I gael mwy o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle