Ffair Nadolig gyntaf yn paratoi’r ffordd ar gyfer ffeiriau crefftau pellach yng Nghanolfan Ymwelwyr Llys y Frân

0
407
Stall at LYF Christmas Fair stall 5th Dec 2021
Dwr Cymru Welsh Water News

Dydd Sul, 5 Rhagfyr, cynhaliodd Llys y Frân ei ffair grefftau gyntaf ar ôl agor ym mis Gorffennaf. Hwn oedd yr achlysur cyntaf i gael ei drefnu gan staff y Ganolfan. Denodd yr awyrgylch dymhorol hyfryd, ag ugain o stondinau yn y ganolfan ymwelwyr, bobl yn llu i chwilio am roddion Nadolig unigryw. Daeth dros 1200 o bobl i’r ffair ac roedd y stondinwyr ar ben eu digon gyda’r niferoedd. Roedd digonedd o ddewis i’r ymwelwyr gyda thlysau, canhwyllau, dillad, rhoddion i anifeiliaid, cardiau, addurniadau Nadolig, addurniadau i’r cartref a chrefftau cain.

Dogem Glass stall at Christmas Fair 5th Dec 2021

Dywedodd Emma Bourton o Rhosfach, sy’n creu ac yn gwerthu tlysau “Cefais i ddiwrnod bendigedig, daeth nifer hynod o bobl ac roedd yr ymwelwyr yn hawddgar ac yn gwisgo mygydau bob amser. Hoffwn i ddiolch i staff y ganolfan am eu croeso cynnes a’u gwaith caled – nid dim ond ar y diwrnod ei hun, ond am eu gwaith trefnu rhagorol hefyd.  Mae’r cyfleusterau newydd yn Llys y Frân yn hollol wych.”

Busnes newydd sy’n gwerthu rhoddion asio gwydr yn Aberteifi yw Dogem Glass. Dywedodd y perchennog, Emma “Mae niferoedd yr ymwelwyr wedi bod yn gyson er gwaetha’r tywydd, sy’n dangos bod y diwrnod wedi cael ei hysbysebu’n dda.  Fel rhywun sy’n newydd i’r byd crefftau, mae rhai digwyddiadau wedi bod yn anodd i mi, ond rydych chi wedi meddwl am bopeth ac wedi gosod popeth allan i’r dim.”

Hilary Evans Clarby Soaps Christmas Fair stall 5th Dec 2021

Roedd Hilary Evans o Clarby Soaps wrth ei bodd ar y niferoedd a ddenwyd ac meddai “Diolch Llys y Frân am gynnal Ffair Nadolig fendigedig, fe welsom ni lawer o ymwelwyr ac roeddem ni’n brysur drwy’r dydd. Cadwodd y trefnwyr bawb yn ddiogel a chafodd pawb ddiwrnod i’w gofio.”

Diolchodd y rheolwr, Mark Hillary, y stondinwyr am eu cefnogaeth ac am wneud y ffair yn gymaint o lwyddiant. Cadarnhaodd y byddai Llys y Frân yn cynnal rhagor o ffeiriau crefftau tymhorol yn 2022, a’u bod yn bwriadu cynnal Ffair Nadolig estynedig dros ychydig ddyddiau yn Rhagfyr 2022.

Emma Bourton Jewellery at LYF Christmas Fair 5th Dec 2021

Roedd Caffi Glan y Llyn yn Llys y Frân yn ferw o ymwelwyr yn mwynhau’r fwydlen dymhorol. Gwerthwyd y ffefryn cynnes Cymreig, ‘Cawl gyda bara a chaws’ i gyd, ac roedd y rholion selsig tymhorol cartref yn boblogaidd dros ben gyda’r ymwelwyr.  Roedd y plant wrth eu boddau ar siocled gwyn poeth y dyn eira, ac roedd digonedd o ddewis i’r plant mwy gyda lattes bara sinsir, cappuccinos sinamon a’r Biscoffi bendigedig.

Christmas decoration stall up close Christmas Fair 5th Dec 2021

Mae ein bwydlen aeafol flasus a’n diodydd cynnes ar gael pob dydd rhwng 11am a 3pm. Mwynhewch un o’r llu o lwybrau cerdded o amgylch llyn Llys y Frân, wedyn ewch nôl i mewn i’r caffi cynnes am ddiod gynnes a byrbryd. Galwch draw i’r siop anrhegion sy’n cynnig syniadau anarferol am anrhegion Nadolig o safon. Ewch i’n gwefan am fanylion: <https://llys-y-fran.co.uk/>

Dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter @llysyfranlake.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle