Datganiad Ysgrifenedig: Achosion o Ffliw Adar Cymru: Adroddiad Sefyllfa

0
460
Welsh Government News

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cadarnhawyd ffliw adar am y tro cyntaf ym Mhrydain Fawr ar 26 Hydref 2021. Ar 3 Tachwedd, cyhoeddais Barth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan i’w weithredu mewn ymateb i’r risg gynyddol o ffliw adar i’n diwydiant dofednod yng Nghymru.  Roedd hyn yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i bob un ceidwaid adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i helpu i ddiogelu eu hadar.

Ar 29 Tachwedd 2021, wrth i’r risg i ddofednod barhau i godi, cafodd y datganiad hwn ei wneud a daeth yn orfodol i bob ceidwaid gadw eu hadar dan do neu eu cadw ar wahân i adar gwyllt mewn ffyrdd eraill.

Mae’r mesurau hyn wedi’u cydgysylltu â Defra a’r Llywodraethau Datganoledig ac yn gymwys ar draws Prydain Fawr.

O 13.00 ar 8 Rhagfyr 2021, mae ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) H5N1 wedi’i gadarnhau mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn 36 safle ym Mhrydain Fawr, gyda dros 276 o ganfyddiadau mewn adar gwyllt mewn 80 lleoliad ar wahân. Dyma’r achosion mwyaf erioed yn y DU o Ffliw Adar erbyn hyn, ac nid oes unrhyw arwydd uniongyrchol o’r sefyllfa’n gwella.

Hyd yma, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau tri achos gwahanol o Ffliw Adar mewn dofednod domestig ledled Cymru. Y rhain yw:

  • ger Y Waun, Wrecsam ar Dachwedd 1af
  • ger Gaerwen, Ynys Môn ar Dachwedd 25ain
  • ger Crughywel, Powys ar Ragfyr 3ydd

Ers cyflwyno’r Parth Atal a llety gorfodol, mae’r achosion wedi parhau i godi ledled Prydain Fawr mewn adar sy’n cael eu cadw (domestig) ac mae’r feirws yn parhau i gael ei ganfod mewn rhai adar gwyllt a gyflwynir ar gyfer gwyliadwriaeth o’r clefyd. Mae hyn i’w ddisgwyl, yng ngoleuni lefel y risg ac yn y ffaith bod ceidwaid yn fwy gwyliadwrus ac effro i arwyddion o glefydau.

Fodd bynnag, wrth inni barhau i fonitro’r canfyddiadau cynyddol hyn, rwyf yn adolygu ein trefniadau brys ar gyfer clefydau i sicrhau ein bod yn darparu ymateb effeithiol ac effeithlon.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r diwydiant a’r proffesiwn milfeddygol am eu hymdrechion parhaus i fodloni ein gofynion, gan fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn o glefyd. Er fy mod yn parhau i ofyn i geidwaid ledled Cymru gymryd pob cam posibl i atal lledaeniad clefydau, rwyf wedi edrych ar ein gallu i ymateb o fewn y Llywodraeth yn erbyn pwysau sy’n cystadlu â’i gilydd, ac rwyf wedi penderfynu sefydlu Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru (ECCW) ‘gryno’.

Mae ymateb i glefyd yn gofyn am ymdrech gydgysylltiedig rhyngom ni yn y Llywodraeth ynghyd â phartneriaid gweithredol, diwydiant a rhanddeiliaid.  Ymdriniwyd â’r tri achos domestig hwn yng Nghymru ar unwaith ac yn effeithiol, gyda mesurau rheoli clefydau a reoleiddir yn cael eu gweithredu’n effeithiol.  Fodd bynnag, mae’r camau hyn wedi gofyn am lawer o adnoddau ac mae ganddynt oblygiadau sylweddol i bob un ohonom.  Gan nad ydym yn gwybod pa mor hir y bydd FFLIW ADAR yn parhau i fod ar ei lefel risg bresennol, mae angen i ni sicrhau y gallwn gynnal yr ymateb a gyflwynwyd gennym hyd yma. 

Bydd ECCW gryno yn sicrhau y gall fy swyddogion barhau i ddarparu ymateb cydgysylltiedig ac effeithiol i fygythiad y clefyd drwy gydol yr achosion hyn.  Bydd yn rhoi’r gallu iddynt reoli a blaenoriaethu adnoddau’n well, rhannu cyfrifoldebau a chyfathrebu â phawb dan sylw.  Fel y gwyddom i gyd, mae sefyllfaoedd clefydau’n datblygu ac yn newid yn aml a bydd sefydlu ECCW cryno yn ein galluogi i sicrhau y gallwn ymateb i’r amgylchiadau sy’n newid yn brydlon a pharhau i ddarparu ymateb priodol a chymesur i glefydau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ymateb i’r sefyllfa hon. Rwy’n parhau i ofyn i bob un o’r ceidwaid gyflawni eu rhwymedigaethau, i gynnal y safonau uchaf o fioddiogelwch, cadw eu hadar dan do a bod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd. Hoffwn atgoffaf ceidwaid sydd â mwy na 50 o adar i gofrestru eu haid. Hefyd, byddwn yn argymell yn gryf i bob ceidwad gofrestru eu adar waeth beth fo’u niferoedd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Aelodau rannu gwybodaeth a ryddhawyd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru neu drwy’r wefan (Ffliw adar | Is-bwnc | LLYW.CYMRU) gyda’u hetholwyr ar sut i amddiffyn adar rhag Ffliw Adar.  Rwyf yn hyderus bod gennym, gyda’n gilydd, y cyfle gorau i ddelio â’r epidemig hwn a diogelu ein haid genedlaethol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle