Diweddariad cyflwyno brechlyn atgyfnerthu COVID-19 gan BIP Hywel Dda

0
397

Yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan y JCVI, mae tîm brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio ar gyflymder i sicrhau bod ei gyfleusterau presennol yn cael eu defnyddio hyd eithaf eu gallu. Mae’r bwrdd iechyd yn hyderus y bydd pawb sy’n gymwys i gael dos atgyfnerthu yn derbyn cynnig erbyn diwedd mis Ionawr 2022.

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i flaenoriaethu pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gyfer eu hapwyntiad atgyfnerthu yn erbyn yr amserlen ers cwblhau eu cwrs cynradd, a oedd yn ei dro yn cael ei yrru gan oedran a bregusrwydd. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd ac am ddod i’w hapwyntiad pan fydd yn eu tro. 

Gofynnir hefyd i’r bobl sy’n mynychu eu hapwyntiad ddangos eu cefnogaeth a’u caredigrwydd tuag at y staff gweithgar, diogelwch a gwirfoddolwyr, a fydd yn treulio ail gyfnod ŵyl yn helpu i gadw Cymru’n ddiogel.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus yn BIP Hywel Dda: “Yn dilyn diweddariad sylweddol yr wythnos diwethaf i gymhwyster y dos atgyfnerthu, mae ein hymdrechion wedi bod yn canolbwyntio ar gyflawni’r rhaglen hynod uchelgeisiol hon trwy gynyddu nifer yr apwyntiadau ar draws ein saith canolfan frechu torfol a recriwtio staff a gwirfoddolwyr ychwanegol. 

“Mae gan ein cymunedau ledled Hywel Dda ran fawr i’w chwarae wrth ein helpu i gynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb 18 oed a hŷn a’r rhai mwyaf agored i niwed yn glinigol erbyn diwedd mis Ionawr. 

“Yn gyntaf, byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â mynychu unrhyw un o’n canolfannau heb apwyntiad. Mae ein canolfan alwadau ffôn hefyd yn derbyn llawer o alwadau ac mae hyn yn achosi oedi wrth ateb, felly rydym yn cynghori’n gryf na ddylech gysylltu â’r bwrdd iechyd na’ch meddyg teulu i ofyn am eich brechlyn. 

“Ein blaenoriaeth yw cynyddu nifer yr apwyntiadau sydd ar gael a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd yn eich tro chi. Gwneir hyn trwy lythyr, neu neges destun, a gall fod ar fyr rybudd. 

“Rydym yn deall bod gan bobl ymrwymiadau, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn, ond rhaid i ni ofyn i bobl flaenoriaethu eu hapwyntiad cyn belled ag y bo modd. Oherwydd y nifer uchel o bobl yr ydym yn eu brechu ar hyn o bryd, os bydd yn rhaid i chi ganslo eich apwyntiad, neu newid y dyddiad, gall fod rhai wythnosau cyn y gellir ei aildrefnu. 

“Ar hyn o bryd mae mwyafrif llethol y boblogaeth yn derbyn eu hapwyntiad atgyfnerthu ar neu cyn 26 wythnos ers eu hail ddos. Wrth i fwy apwyntiadau fod ar gael ar draws ein saith canolfan, bydd y bwlch hwn yn lleihau’n sylweddol. Byddwch yn amyneddgar a ni. 

“Gallwch hefyd helpu trwy gyrraedd eich apwyntiad mewn pryd a dim cynharach na 10 munud cyn eich amser penodedig. Bydd hyn yn helpu i gadw ein meysydd parcio i lifo a chyfyngu hyd giwiau. Ymddiheurwn os oes oedi, ond cofiwch fod yn amyneddgar a gwisgo am dywydd oerach rhag ofn y gofynnir ichi aros y tu allan.” 

Mae’r bwrdd iechyd yn deall bod llawer o bobl wedi bod yn cysylltu’n bryderus a’n Canolfan Reoli COVID-19 i ofyn cwestiynau neu i aildrefnu apwyntiad sy’n bodoli eisoes, sydd wedi arwain at arosiadau hir i siarad â rhywun. 

Mae’r bwrdd iechyd yn cynyddu nifer y trinwyr galwadau ac e-bost ond os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn COVID-19, ewch i https://biphdd.gig.cymru/brechlyn-covid19 yn y lle cyntaf i ddod o hyd i’r ateb i’ch ymholi neu ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/

Unwaith eto, gofynnwn i bobl beidio â chysylltu â ni i ofyn am eu brechlyn atgyfnerthu, ond mae’n bwysig iawn nad ydym yn gadael neb ar ôl. Yng ngoleuni’r cyhoeddiad gweinidogol ddoe, os ydych chi dros 65 oed a heb gael apwyntiad atgyfnerthu eto, neu os yw wedi bod yn fwy na 26 wythnos ers eich ail ddos ac nad ydych wedi derbyn apwyntiad, cysylltwch â’r bwrdd iechyd yn uniongyrchol. 

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn blaenoriaethu’r rhai sy’n dal i fod angen eu brechlynnau cyntaf ac ail. Mae pawb 12 oed a hŷn yn gymwys i gael brechiad COVID-19 ac ni fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. 

Ewch i https://biphdd.gig.cymru/brechlyn-covid19 i ofyn am eich brechlyn neu os na allwch ofyn am un ar-lein, ffoniwch 0300 303 8322.

Os hoffech chi weithio mewn canolfan frechu torfol, mae gan y bwrdd iechyd oriau llawn a rhan amser ar gael yn ogystal â chyfleoedd banc. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/swyddi/ i wneud cais.

Am gyfleoedd gwirfoddoli cysylltwch â thîm gwirfoddoli’r bwrdd iechyd trwy e-bostiwch hdd.volunteerforhealth@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01267 244 401.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle