Dŵr Cymru’n cyflwyno rhodd o fainc gymunedol sy’n edrych dros argae fwyaf Ewrop â chraidd clai ym Mannau Brycheiniog

0
390
Dwr Cymru Welsh Water News
  • Dŵr Cymru’n cyflwyno mainc gymunedol yn rhodd i atyniad ymwelwyr poblogaidd yn sgil prosiect buddsoddi £1.8 miliwn.
  • Y gorlifan 300tr yng Nghronfa Llyn Brianne yw un o’r mwyaf o’i fath yn y byd.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wrth eu bodd i gyflwyno mainc ar lan cronfa ddŵr Llyn Brianne yn rhodd i’r gymuned yn dilyn buddsoddiad o £1.8 miliwn i adfer y gorlifan yn yr atyniad twristiaid poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gwaith ar y gorlifan, sef y strwythur a ddefnyddir i reoli faint o ddŵr sy’n cael ei ryddhau o’r gronfa gan helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd, yn cynnwys trwsio’r sgwd a’r waliau sylfaen. Mae’r gwaith wedi gwella llif y dŵr i mewn i Afon Tywi, gyda’r dŵr yn cael ei ryddhau i mewn i’r afon trwy’r Orsaf Hydrodrydan a adeiladwyd ar waelod yr argae.  Adeiladwyd Llyn Brianne rhwng 1968 a 1972 ac mae’n gartref i argae mwyaf Ewrop â chraidd clai, ac yn sefyll ar uchder o ychydig dros 300 troedfedd (91 metr).

Cafodd y fainc ei gosod gan Ddŵr Cymru a Lewis Civil Engineering Ltd, sef y contractwyr oedd yn gweithio ar y datblygiad, dydd Gwener 22 Hydref 2021.  Mae’r fainc gymunedol newydd yn edrych allan dros un o orlifannau mwyaf y DU, a’r argae talaf yn y DU â thaldra o 91m, yng nghronfa ddŵr Llyn Brianne.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Handel Davies o Sir Gâr, a ddaeth i ymweld â safle’r fainc, “Mae’r fainc newydd yn y lle delfrydol i fwynhau argae a gorlifan Llyn Brianne yn eu holl ogoniant. Fel plentyn ysgol, rwy’n cofio’r argae’n cael ei adeiladu am i lawer o’r gweithwyr aros yn yr ardal, gan gynnwys ambell un a ddaeth i letya yn ein tŷ ni yng Nghynghordy. Fuodd fy mrawd hŷn yn gweithio ar y gorlifan dros wyliau’r haf pan oedd e’n fyfyriwr, felly daw atgofion wrth ddod yma heddiw i weld y gwaith trwsio helaeth sydd wedi cael ei gyflawni ar y gorlifan rhyw hanner can mlynedd yn ddiweddarach.”

Dywedodd Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru, Dean Williams; “Bydd ein buddsoddiad o £1.8 miliwn yn cadw’r ased yma mewn cyflwr da er mwyn i ni sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal. Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn ein hasedau er mwyn eu gwneud yn fwy gwydn, ac er mwyn parhau i wella’n gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle