Milfeddygon yn cynghori ffermwyr am fagu lloi teirw o’r fuches odro yn llwyddiannus

0
353
Photo by Tima Miroshnichenko from Pexels

Bydd technegau magu da yn allweddol i economeg a lles cynhyrchu lloi teirw o’r fuches odro pan fydd Cymru yn symud i system o fagu’r anifeiliaid hyn nes byddant o leiaf wyth wythnos oed.

Wrth i ffermwyr llaeth baratoi ar gyfer y rheolau newydd o 2023, mae NADIS wedi datblygu gweithdai magu lloi, a chymeradwywyd y rhain gan Lantra Awards. Darparir y gweithdai hyn ar draws Cymru gan bractisau milfeddygon lleol, ac fe’u rheolir gan Gyswllt Ffermio.

Mae rhaglen y gweithdai wedi cael cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Yn ystod un o’r digwyddiadau hyn a gynhaliwyd yn Sir Benfro yn ddiweddar, dywedodd Cath Tudor o Filfeddygon Prostock fod cyfraddau clefydau a marwolaethau ymhlith lloi teirw llaeth yn uwch nag y maent ymhlith treisiedi yn ôl ystadegau. Gall hyn fod o ganlyniad i’r ffaith y gall eu pwysau geni uwch arwain at loia anodd, ond gall hefyd fod yn ganlyniad i’r ffaith nad yw teirw yn cael yr un lefel o ran gofal a maeth ag y mae treisiedi yn ei chael.

Dywedodd Ms Tudor fod angen strategaethau magu cyfrifol nawr, er mwyn sicrhau bod pob llo yn cyflawni ei darged o ran pwysau er mwyn cynyddu llwyddiant magu gymaint ag y bo modd, a lleihau marwolaethau gymaint ag y bo modd. Prif achosion marwolaethau yw niwmonia, sgwrio, heintiau ar y bogail, hypothermia, septisemia a chlefydau clostridiol, yn deillio o gyflenwad annigonol colostrwm o ansawdd da a hylendid ac awyru gwael.

Mae costau magu i 30 diwrnod yn ychwanegu hyd at £73.90 y llo, felly er mwyn sicrhau elw ar y buddsoddiad hwnnw, mae’n bwysig gwneud popeth yn iawn. Bu Ms Tudor a’i chydweithiwr, Francesca Pera, yn cynnig cyngor i’r sawl a fynychodd y gweithdy ynghylch sut mae cyflawni hynny.

Bwydo a rheoli colostrwm

·        Dylid gorchuddio bwcedi colostrwm er mwyn atal halogiad – gall baw neu lwch gyflwyno clefyd i lo ar yr adeg pan fydd fwyaf agored i niwed.

Dylid mesur lefelau gwrthgyrff mewn colostrwm gan ddefnyddio dyfeisiau fel reffractomedr Brix neu ddwysfesurydd (y gellir eu prynu am lai na £10) – dylai lefel yr imiwnoglobiwlin (Ig) fod yn 50g/litr.

·        Gellir storio colostrwm yn yr oergell am hyd at 24 awr.

·        Bydd pasteureiddio colostrwm yn atal clefydau megis mycoplasma bovis a Johne’s rhag trosglwyddo o’r fuwch i’r llo, ond yn wahanol i laeth, ni ddylid ei basteureiddio ar dymheredd dros 60 gradd Celsius, neu caiff y gwrthgyrff eu dinistrio.

·        Ni ddylech ddefnyddio tethi wedi’u difrodi er mwyn bwydo colostrwm, oherwydd y bydd y rhain yn cynnwys bacteria.

·        Dylech rinsio tethi mewn dŵr claear (nid poeth), gan fod tymheredd uchel yn creu bioffilm sy’n denu bacteria.

·        Dylech fwydo gwerth 10% o bwysau corff llo mewn colostrwm iddynt yn ystod y ddwy awr gyntaf – neu os na fydd modd gwneud hyn, cyn pen y chwe awr gyntaf fan bellaf.

·        Os gadewir llo llaeth i sugno’i fam, dim ond 31% o’i ofynion colostrwm y bydd yn eu cael ar gyfartaledd, felly mae’n bwysig ychwanegu ato.

·        Gall milfeddyg fonitro cymeriant trwy samplu gwaed pan fo llo rhwng un a saith diwrnod oed. Ar ôl saith diwrnod, bydd y llo yn cynhyrchu ei wrthgyrff ei hun, a bydd hyn yn effeithio ar ganlyniad y prawf; os bydd bwydo colostrwm yn gweithio’n llwyddiannus, dylai fod gan isafswm o 80% o loi lefelau digonol.

Rheoli bogeiliau

Dylid ymdrochi llinyn bogail llo newydd-anedig mewn ïodin yn llawn yn ystod y 15 munud gyntaf, gan ailadrodd hyn ar ôl dwy i bedair awr. Os bydd arwyddion haint, dylid trin hyn yn brydlon.

Mae sarn glân yn hanfodol i iechyd lloi newydd-anedig. “Sicrhewch fod digon o sarn dan y lloi;  dylai llo ddiflannu i mewn i’r gwellt, a pho lanaf yw’r sarn, yr haws y bydd hyn i chi,” dywedodd Ms Tudor.

“Rydw i’n gwybod bod gwellt yn ddrud, ond mae’n rhad os yw’n atal clefyd.

“Os byddwch yn pen-glinio ar y sarn ac os bydd eich pengliniau yn gwlychu, nid oes digon o sarn, neu efallai bod angen archwilio’r draeniad.”

Brechu

Mae brechu gwartheg cyn iddynt gael llo, trwy roi brechiad sy’n diogelu rhag rotafirws, coronafeirws ac E. coli yn effeithiol iawn os yw lloi yn cael colostrwm gan yr anifeiliaid hynny.

Awyru

Os bydd gweoedd pryfed cop yn bresennol mewn adeilad, mae’r awyru yn annigonol.

Mae angen diogelu lloi hefyd rhag tymheredd cyfnewidiol.

“Rydw i’n gefnogwr mawr siacedi lloi,” dywedodd Ms Tudor.

Bwydo

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod lloi yn cael eu bwydo ddwywaith y dydd yn ystod y pedair wythnos gyntaf.

Mae effeithlonrwydd trosi bwyd ar ei uchaf yn ystod y ddau fis cyntaf, felly manteisiwch i’r eithaf ar y cyfle hwnnw i fagu pwysau byw yn ddyddiol yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Os byddwch yn tyfu lloi yn dda iawn, ceir tystiolaeth bod hyn yn cyfateb â chyfansymiau llaetha uwch yn ystod cyfnod llaetha cyntaf treisiad,” dywedodd Ms Tudor.

Mae bwydo gan ddefnyddio teth yn gallu bod yn well na bwydo gan ddefnyddio bwced, gan ei fod yn atal llowcio ac yn atal llaeth rhag cyrraedd y rwmen, pan na fydd wedi datblygu eto.

“Y wyddor sy’n sail i hyn yw bod sugno yn helpu’r llaeth i fynd i’r lle iawn,” dywedodd Ms Tudor.

Fodd bynnag, ychwanegodd, “Os ydych chi’n bwydo gan ddefnyddio bwced, ac mae’ch system yn gweithio i chi, ni ddylech ei newid.”

Mae cysondeb (cyfanswm, crynodiad a thymheredd) yn bwysig, os ydych yn defnyddio rhywbeth yn lle llaeth.

Dylech fwydo 15% o bwysau’r corff bob dydd, gan ddefnyddio dull graddol neu ddiddyfnu fesul cam wrth ddiddyfnu pan fydd lloi yn bwyta 1 cilogram o ddwysfwyd y dydd.

Dylid darparu mynediad rhydd i ddŵr glân o’r cychwyn; gellir cyflwyno didol-borthi o’r trydydd diwrnod, gan fwydo cymysgedd a luniwyd yn benodol ar gyfer lloi – ni ddylech ddefnyddio dwysfwyd gwartheg yn lle hynny.

Dylech gynnig gwair neu wellt ar ôl pythefnos er mwyn helpu gydag elastigrwydd yn y stumog.

Darparir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle