Llongyfarchiadau i Nigel Miller MBE

0
331
Nigel during is investiture at Windsor Castl

Llongyfarchiadau i Nigel Miller, Arweinydd Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar gael ei benodi’n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE).

Derbyniodd Nigel ei MBE yn ystod ei arwisgiad yng Nghastell Windsor ar 16 Tachwedd i gydnabod ei wasanaeth i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydw i wedi fy synnu braidd o gael fy enwebu am yr anrhydedd hon,” meddai Nigel. “Nid oes amheuaeth na fyddwn wedi ei chael pe na bawn wedi cael cyfle i weithio gyda rhai pobl anhygoel sy’n digwydd bod wedi cael eu labelu â’r term ‘anabledd dysgu’, yn ogystal â chydweithwyr rhagorol a thalentog, sefydliad blaengar a theulu gwirioneddol gefnogol.”

Dechreuodd Nigel weithio yn Sir Gaerfyrddin ym 1986 fel yr unig Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl / anableddau dysgu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Yn ddiweddarach, adeiladodd dĂŽm o 14 o Therapyddion a Chynorthwywyr arbenigol yn y maes.

Ymunodd Nigel â’r gwasanaeth anableddau dysgu ym 1992 ac mae’n aelod o’r GrĹľp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu.

Cafodd ei gydnabod yn ffurfiol gan y Cyngor Proffesiynau Atodol i Feddygaeth pan gynorthwyodd wrth iddo drosglwyddo i fod y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Nigel and his wife at Windsor Castle

Yn 2003 mynychodd Nigel dderbyniad yn 10 Downing Street i gydnabod ei waith yn hyrwyddo gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Bu’n gadeirydd ar reolwyr Therapi Iaith a Lleferydd ar hyd a lled Cymru, ac fel cynrychiolydd Pwyllgor Cynghori TherapĂŻau Cymru yn 2007/08, roedd hefyd yn allweddol wrth ddatblygu achos dros sefydlu a phenodi cyfarwyddwyr therapi gweithredol ar y Byrddau Iechyd a oedd newydd eu ffurfio yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, cyflwynwyd Gwobr Cymrodoriaeth Therapi Iaith a Lleferydd y Coleg Brenhinol i Nigel mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn San Steffan ym mis Hydref 2011.

Ymhellach, chwaraeodd ran hanfodol yn natblygiad yr arwyddion cyfeirbwyntiau yn Ysbyty Llwynhelyg i ddechrau ac yna mewn nifer o ysbytai ledled y DU. Dyluniwyd y rhain i helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas ysbytai yn haws.

Cafodd y canlyniad ymateb cadarnhaol ymhlith pobl ag anableddau dysgu a’r cyhoedd. Enillodd y prosiect hwn sylw rhyngwladol ac anrhydeddau gan ei gyfoedion a llywodraeth Cymru, gan ennill y wobr ‘Dinasyddion wrth wraidd Ail-ddylunio a Chyflenwi Gwasanaeth’ yng Ngwobrau’r GIG 2013.

“Mae gen i hemoffilia difrifol, sy’n golygu nad yw fy ngwaed yn ceulo heb driniaeth, felly treuliais lawer o fy mywyd cynnar ar ward plant yn Nyfnaint. Gwelais lawer o feddygon, nyrsys a therapyddion yn blentyn, fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i weithio yn y GIG,” ychwanegodd Nigel.

Yn 2019 derbyniodd Nigel Wobr GIG Cymru, am ‘rymuso pobl i gyd-gynhyrchu gofal’.

Mae angerdd Nigel dros gynnwys pobl ag anableddau dysgu yn natblygiad gwasanaethau yn ei arwain i arloesi cynllun gwirfoddoli i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn archwiliadau a datblygu strategaeth.

Mae Nigel yn gefnogwr brwd o’r ‘Dream Team’; sy’n cynnwys pobl ag anableddau dysgu sy’n cynrychioli’r boblogaeth anabledd dysgu ehangach yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth Ranbarthol. Datblygodd y ‘Dream Team’ y Siarter Anableddau Dysgu, sy’n nodi’r hyn y mae pobl ei eisiau gan wasanaethau.

Esboniodd “Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o’r ‘Dream Team’ ac rwy’n falch o fod yn rhan o sefydliad (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) sydd wedi ymuno â’r Siarter ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth”. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle