Chwe awgrym defnyddiol gan Cymru’n Gweithio ar ysgrifennu CV ar gyfer y flwyddyn newydd

0
344

I lawer ohonom, daw ymdeimlad o gymhelliant law yn llaw â’r flwyddyn newydd, yn enwedig o ran gwneud penderfyniadau mawr, fel newid swyddi.

I helpu pobl Cymru i fanteisio ar eu cymhelliant ‘blwyddyn newydd, dalen newydd’, mae Cymru’n Gweithio (a ddarperir gan Gyrfa Cymru) wedi rhannu ei chwe awgrym defnyddiol ar gyfer ysgrifennu CV effeithiol.

Meddai Denise Currell, pennaeth datblygu pobl: “Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion cyswllt proffesiynol cyfredol, nid y cyfeiriad e-bost amhriodol y gwnaethoch ei greu pan oeddech chi’n 13 oed. Gallech greu cyfrif e-bost ar wahân ar gyfer eich chwiliad er mwyn sicrhau bod eich negeseuon e-bost am swyddi i gyd mewn un lle ac yn haws cael gafael arnynt.

“Er ei bod yn demtasiwn ceisio dangos popeth rydych chi’n ei wneud, ceisiwch osgoi rhestru’r holl dasgau yr ydych yn gyfrifol amdanynt ac yn lle hynny cynnwys y sgiliau sydd eu hangen gan roi enghreifftiau ohonynt.

“Dylai ceiswyr gwaith hefyd deilwra eu CV i bob cais, nid dim ond y llythyr eglurhaol.

“Hefyd, os oes gennych fwlch mawr yn eich CV, peidiwch â bod ofn ei egluro. Nid oes angen i chi roi gormod o fanylion a gall ‘materion personol yn fy atal rhag gweithio’, er enghraifft, fod yn ddigonol.

“Dylech ei gwneud yn haws i’r person sy’n ei ddarllen felly ceisiwch ddefnyddio pwyntiau bwled i restru sgiliau a dyletswyddau yn lle paragraffau.

“Fy awgrym olaf yw anfon eich CV fel dogfen PDF bob tro, oni bai y gofynnir i chi ei anfon mewn fformat arall. Bydd hyn yn sicrhau nad oes fformatio rhyfedd y pen arall a bod y sawl sy’n ei dderbyn yn y fformat priodol.”

Mae canolfannau Cymru’n Gweithio ledled Cymru ar agor ac yn barod i’ch cefnogi. Gellir dod o hyd i restr lawn o ganolfannau yma. Ffoniwch 0800 028 4844 i drefnu apwyntiad neu edrychwch ar dudalen gyswllt Gyrfa Cymru am fwy o ffyrdd o gysylltu â ni.

11


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle