Prif Gwnstabl newydd yn glir bod bob amser mwy i’w wneud ac yn dechrau fel y mae’n bwriadu mynd ymlaen

0
344
Chief Constable Dr Richard Lewis

Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Dr Richard Lewis, yn nodi ei ddychweliad i’r heddlu â sifft nos Sadwrn yn ôl ar strydoedd Aberystwyth, lle y dechreuodd ei yrfa gyda’r heddlu.

Wedi’i gyhoeddi fel ymgeisydd o ddewis Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, i arwain yr heddlu yn dilyn ymddeoliad Mark Collins yn gynharach eleni, mae Dr Lewis wedi bod yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland ers mis Ebrill 2019.

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dechreuodd ei yrfa gyda’r heddlu yn 2000. Yn ystod ei 18 mlynedd gyda Heddlu Dyfed-Powys, gwasanaethodd ym mhob rheng hyd at Ddirprwy Brif Gwnstabl, gan weithio ym mhob un o bedair sir yr ardal heddlu. Y mae hefyd wedi bod yn bennaeth yr adran safonau proffesiynol a chadeirydd Gweithgor Gwrthderfysgaeth Cymru.

Gan siarad cyn iddo ddychwelyd adref, rhannodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis neges â’r sefydliad am ei fwriadau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a phwysigrwydd rhoi llais i’n cymunedau a’r gweithlu mewn llunio’r cynlluniau hynny ar gyfer y dyfodol.

Meddai:

“Ers imi gael fy mhenodi, mae sawl un wedi dweud wrthyf nad oes rheswm pam na all Heddlu Dyfed-Powys fod yn sefydliad a gwasanaeth cyhoeddus neilltuol ar gyfer ein cymunedau – a gwir bob gair, ond mae’r amser wedi dod i stopio mynnu beth allem fod, a gweithio’n galetach i wella’n barhaus. Y cam cyntaf ar gyfer gwneud hyn yw ymgynghori ar flaenoriaethau, a byddaf yn gwneud hyn yn ystod fy 100 diwrnod cyntaf; heb anghofio bod yn rhaid inni weithio hefyd i gyflenwi Cynllun Heddlu a Throseddu CHTh, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’n cymunedau.

“Fy nod wrth dreulio fy sifft gyntaf nôl yn yr heddlu, allan ar y strydoedd gyda’n cydweithwyr ar y rheng flaen, yw ei gweld a’i chlywed fel y mae. Rwyf eisiau’r gwir ac rwyf eisiau her.”

Mae cynllun y Prif Gwnstabl i ymgynghori o fewn y sefydliad a thu allan iddo’n ei dywys i ddiwedd Mawrth, pan fydd yn gweithredu’r darlun mae’n gobeithio cael o gamau nesaf Heddlu Dyfed-Powys a’r cynllun ar gyfer cyflenwi’r weledigaeth.

Ychwanegodd Dr Lewis:

“Unwaith y byddwn wedi cytuno ar flaenoriaethau, byddwn yn eu dilyn yn ddi-baid fel un tîm, gydag eglurder a ffocws. Mae blaenoriaethu rhai pethau’n golygu cyfaddef nad yw pethau eraill, er eu bod yn bwysig, ar dop ein hagenda.

“Fodd bynnag, ni all ymgynghori olygu bod ein gwaith yn dod i stop yn y cyfamser – mae rhythm sefydliad angen i waith fynd ymlaen yn ddi-oed.

“Pan fyddwn ni wedi sefydlu’n blaenoriaethau a phenderfynu sut y byddwn ni’n mesur cynnydd, ni fyddwn yn gosod targedau. Yn hytrach, byddwn ni’n anelu i fod yn well bob dydd. Ni fyddwn yn diffinio’n hunain yn erbyn canlyniadau eraill. Yn lle hynny, byddwn yn anelu i wella’n barhaus.”

Mae rhaglen yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod cyfle ar gael i bawb gyfrannu i’r sgwrs. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu drwy’r cyfryngau lleol ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – Twitter @DyfedPowys Facebook @DPPolice Instagram @dyfedpowyspolice


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle