TUC Cymru yn rhybuddio y gallai technoleg newydd ehangu’r bwlch anghydraddoldeb oni bai fod gan weithwyr lais
· Mae technolegau newydd ac awtomeiddio wedi newid byd gwaith yn gyflym, ac mae’r newid hwn yn cyflymu, yn ôl adroddiad newydd a gomisiynwyd gan TUC Cymru.
· Mae gwaith eisoes yn cael ei ail-lunio gan dechnoleg newydd, yn ôl yr ymchwil, sy’n rhybuddio bod hyn yn risg ac yn gyfle i’r gweithlu.
· Gall technolegau newydd wneud y gwaith yn fwy gwerth chweil, diogel a hyblyg, ond mae angen i reolwyr weithio gydag undebau llafur fel bod y buddiannau’n cael eu rhannu ac nad yw gweithwyr yn cael eu gadael ar ôl.
Mae cyflogwyr yn mabwysiadu technolegau newydd yn gyflym iawn, yn ôl adroddiad newydd a gomisiynwyd gan TUC Cymru, a rhaid rhoi mesurau diogelu ar waith fel nad yw gweithwyr yn cael eu gadael ar ôl.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan yr Adran Ymchwil Llafur, i archwilio sut y dylai gweithwyr baratoi ar gyfer dyfodol gwaith. Mae’n nodi sut mae gweithwyr yn y DU a gweddill y byd yn paratoi ar gyfer trawsnewid technolegol, ac yn negodi eu cyfran deg o’r buddiannau.
Daeth awduron yr adroddiad i’r casgliad bod ymyrraeth lwyddiannus yn bosibl ond bod angen gweithredu nawr. Mae angen i undebau llafur fod yn paratoi’r ffordd ac ymgysylltu ag aelodau ynghylch sut mae technoleg yn newid y gweithle, a chymryd rhan mewn deialog ar lefel y gweithle ac ar lefel polisi.
Mae technoleg newydd yn risg ac yn gyfle i weithwyr yng Nghymru
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at lawer iawn o ymchwil i effaith bosibl technoleg newydd ar nifer a natur swyddi. Mae’n tynnu sylw at ymchwil a rybuddiodd y gellid colli hyd at draean o swyddi yng Nghymru o ganlyniad i awtomeiddio, sy’n cael effaith anghymesur ar sectorau fel gweithgynhyrchu a manwerthu, ond mae’n wyliadwrus ynghylch ai dyma fydd y realiti.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae’n amlwg bod cyflwyno technolegau newydd yn gyflym yn newid gwaith mewn cymaint o ffyrdd – mae’n effeithio ar y ffordd rydyn ni’n gwneud ein gwaith, yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n cael ein rheoli. Ond mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio mai’r cyflogwr sy’n dewis cyflwyno technoleg, ac nid yw’n fater un dimensiwn. Mae goblygiadau tymor byr a thymor hir, ac mae llawer ohonyn nhw’n bwysig i weithwyr.
“Mae’n bwysig nad ydyn ni’n ystyried y mater fel swyddi sy’n cael eu colli yn erbyn swyddi a enillir, ond yn hytrach, dylen ni ystyried sut mae modd defnyddio technoleg newydd i wella
profiadau gweithwyr. Dylem ganolbwyntio ar sut mae negodi mwy o hyblygrwydd, mwy o waith boddhaus a manteision eraill y gall technoleg newydd eu cynnig.
“Mae llais y gweithiwr yn allweddol. Mae angen i gyflogwyr eistedd o amgylch bwrdd gyda chynrychiolwyr gweithwyr i drafod y broses o gyflwyno technoleg newydd. Bydd ailsgilio yn rhan greiddiol o hyn, a rhaid gwobrwyo cyfrifoldebau ychwanegol a thrawsnewid swyddi yn deg. Bydd y chwyldro technolegol yn fethiant os bydd yn arwain at weithwyr yn gwneud mwy ond yn cael llai o dâl.”
Mae’r adroddiad yn edrych ar ragfynegiadau y bydd diwydiant 4.0 yn cynhyrchu enillion ariannol a chynhyrchiant sylweddol, ac y dylai manteision y rhain gael eu rhannu’n deg â’r gweithlu. Mae hefyd yn edrych ar rai o’r materion sy’n dod i’r amlwg o ran technoleg newydd ac awtomeiddio, gan gynnwys y goblygiadau i iechyd a diogelwch, problemau rheoli data a monitro gormodol, yn ogystal â’r posibiliadau y mae wedi’u creu ar gyfer gweithio o bell.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle