£21m ar gyfer dyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru

0
239
Welsh Government News

Fe gaiff £7m y flwyddyn ei roi i gefnogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru dros dymor presennol Llywodraeth Cymru, ymrwymiad o dros £21m dros y tair blynedd nesaf.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil cyhoeddi’r gyllideb ddrafft gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans yr wythnos diwethaf [Dydd Llun 20 Rhagfyr].

Mae hyn yn ychwanegol at tua £7m sy’n cael ei roi bob blwyddyn gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, cynllun grant o hyd at £250,000 ar gyfer gwella cyfleusterau a phrosiectau cymunedol lleol.

Bydd y cyllid blynyddol o £7m, sy’n cychwyn yn 2022, yn cael ei roi i Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’r bartneriaeth hon yn cynnwys 20 o sefydliadau – 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol, sy’n cefnogi pob ardal sirol, a’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, sef Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae’r sefydliadau hyn yn rhoi seilwaith i holl sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru o dan bedair colofn o weithgareddau a nodwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: gwirfoddoli; llywodraethu da; cyllido cynaliadwy; ac ymgysylltu a dylanwadu.

Yn ychwanegol, bydd y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, sydd wedi hen ennill ei phlwyf, yn parhau i roi grantiau bychain a mawr i brosiectau cymunedol sy’n cael defnydd da, er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy a darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Dyma’r rhai diweddaraf i gael cyllid o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cyllid sy’n cael ei gyhoeddi bob 3 mis ac yn cael ei rannu’n ddau, i gynlluniau o dan £25,000 a hyd at £250,000:

Hyd at £250,000:

  • £250,000 ar gyfer Krishna Cymru, Caerdydd i ailwampio a throi’r adeilad rhestredig Gradd II yn safle treftadaeth ddiwylliannol a chanolfan les gymunedol i Dre-biwt, sy’n hybu lles corfforol a meddyliol drwy hyfforddiant hwylus mewn ioga a myfyrdod
  • £250,000 ar gyfer Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni, Caerdydd i greu canolfan iechyd a lles
  • £250,000 ar gyfer Newport Mind i gwblhau’r cam nesaf o’r prosiect, sef creu canolfan addas gydag ystafelloedd ymgynghori, hyfforddi ac i grwpiau, ac ardal noddfa ar y llawr cyntaf

Hyd at £25,000:

  • £25,000 ar gyfer Mentoring for All, Caerdydd i adnewyddu ac atgyweirio’r to, y gegin, y toiledau ac i osod drysau a ffenestri newydd
  • £25,000 ar gyfer Grŵp Cymunedol yr Ysgoldy, Ceredigion i ddarparu ardal barcio ddiogel a chynaliadwy, nad yw ar y ffordd, gan gynnwys plannu coed a pherthi cynhenid, a fydd yn creu amgylchedd i fflora a ffawna, yn hwb i fioamrywiaeth ac yn lleihau ôl-troed carbon y prosiect
  • £25,000 ar gyfer Clwb Rygbi Rhuthun, Sir Ddinbych i adnewyddu cyfleusterau’r clwb drwy ddarparu mwy o le i eistedd, cegin newydd a diweddaru’r toiledau/cyfleusterau’r ystafelloedd newid i sicrhau hwylustod mynediad i bawb
  • £20,000 ar gyfer Ymddiriedolaeth Gymunedol y Fenni, Sir Fynwy i osod paneli solar yn y ganolfan gymunedol fel rhan o’r cynlluniau i fod yn sero net erbyn 2030
  • £25,000 ar gyfer Sied Nwyddau Llanelli Goods Shed, Sir Gaerfyrddin i greu caffi cymunedol ac ardal dehongli treftadaeth
  • £25,000 ar gyfer Tabernacl Caerdydd, Caerdydd, i atgyweirio’r adeilad rhestredig Gradd II, gan gynnwys y to fflat, y gwaith cerrig a’r goleuadau ar y to
  • £8,000 ar gyfer Bedwas Rugby 2011, Caerffili i osod system llifoleuadau carbon isel newydd
  • £25,000 ar gyfer plwyf Abercynon, Rhondda Cynon Taf i osod cegin broffesiynol er mwyn datblygu caffi mentergarwch cymdeithasol

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb dros y trydydd sector yng Nghymru:

“Mae hon, eto, wedi bod yn flwyddyn anodd i’r rhan fwyaf ohonom ni, ond mae’r sefydliadau cymunedol, elusennol a sefydliadau’r trydydd sector wedi parhau i ddangos dycnwch yn cefnogi pawb.

“Bydd parhau i ymrwymo cyllid sylweddol drwy rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru a’n Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn caniatáu i’n prosiectau lleol gwych, sy’n canolbwyntio ar gymunedau bychain, yn ogystal â sefydliadau ag ystod ehangach i esblygu a thyfu yn eu hardaloedd, gan sicrhau eu bod yn parhau’n addas at eu diben ac ar gael i bawb sydd eu hangen.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn bartneriaeth unigryw, sy’n cefnogi gweithredu gwirfoddol ac elusennol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n haelodau’n weithgar ym mhob cymuned ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i bawb.

“Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni gynnal a datblygu ein gwasanaethau i fodloni anghenion y sector ar hyn o bryd a’r anghenion sy’n dod i’r amlwg.”

Mae modd anfon cais i’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy’r flwyddyn, ac am ragor o wybodaeth dylai sefydliadau chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar www.llyw.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle