Gorsaf Heddlu Llanelli’n cau dros dro ar gyfer gwaith gwella.

0
1192
Bydd Gorsaf Heddlu Llanell

Bydd Gorsaf Heddlu Llanelli ar gau o ddydd Llun 10 Ionawr 2022, ac yn ailagor ddydd Llun 31 Ionawr 2022, er mwyn cynnal gwaith ar gyfer gwella’r adeilad yn ddiogel.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd trefniadau amgen mewn grym er mwyn i wasanaeth arferol barhau.

Bydd staff y swyddfa flaen yn gweithio o orsaf heddlu Llwynhendy yn ystod y cyfnod hwn er mwyn ymdrin ag ymholiadau cyhoeddus.

Bydd y Tîm Plismona Bro’n parhau i weithio o adeilad wrth ymyl yr orsaf heddlu, a byddant mor hygyrch ag y maent yn awr.

Bydd swyddogion ymateb yn parhau i weithio o’r hen orsaf heddlu er mwyn ateb galwadau am wasanaeth, a byddant hefyd yn defnyddio gorsafoedd heddlu Porth Tywyn a Llwynhendy.

Bydd y Man Gwasanaeth Cyhoeddus tu allan i’r orsaf heddlu dal yn gweithio hefyd.

Gellir cysylltu â’r heddlu ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/ neu drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.pnn.police.uk hefyd.

Dywedodd yr Arolygydd Mark Davies, “Mae’r lefel hwn o fuddsoddiad yng ngorsaf heddlu Llanelli’n dangos yn glir ein hymrwymiad tuag at gadw canolfan blismona leol yn y dref a’n hawydd i sicrhau bod ein cyfleusterau’n addas ar gyfer defnydd gweithredol yn y dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle