Diweddariadau ar Apel Chemo Bronglais

0
511

Wrth i Apêl Cemo Bronglais fagu momentwm yn 2022, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn apelio am gefnogaeth cymunedau lleol ledled Ceredigion, Gwynedd a Powys i helpu i gyrraedd targed yr apêl o £500,000.

Os ydych wedi gosod adduned blwyddyn newydd i fod yn ffit, beth am ystyried ymgymryd â her chwaraeon er budd yr apêl? Mae’r elusen yn cynnig lleoedd mewn sawl digwyddiad yn ystod 2022.

Neu beth am gael eich noddi i wneud her gartref?

O foreau coffi rhithwir, i gwisiau a phobi, mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda lawer o syniadau i’ch helpu chi i godi arian.

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian yr elusen: “Wrth i’r flwyddyn newydd ddechrau, bydd llawer ohonom yn canolbwyntio ar ‘blwyddyn newydd, fi newydd ’ac yn meddwl am hyfforddi ar gyfer her chwaraeon neu cadw’n ffit.

“Byddai’n wych pe bai pobl yn ystyried codi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais wrth ymgymryd ag addunedau blwyddyn newydd.

“Mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda leoedd elusennol cyfyngedig mewn sawl digwyddiad eleni, ac mae gennym hefyd lawer o syniadau creadigol a llawn hwyl ar sut i godi arian yn ein Pecyn Codi Arian Rhithwir.

“Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn derbyn triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais, cyfanswm o tua 300 o bobl y flwyddyn o bob rhan o Ceredigion, Gwynedd a Powys.

“Bydd pob ceiniog a godir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hapêl am uned dydd cemotherapi bwrpasol, uned addas ar gyfer y dyfodol i wella profiad y claf.”

Mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda leoedd elusennol ym Mhenwythnos Cwrs Hir Cymru yn Ninbych-y-pysgod ym mis Gorffennaf a Hanner Marathon Caerdydd ym mis Mawrth a mis Hydref.

Mae Penwythnos Cwrs Hir yn cael ei gynnal yn Ninbych-y-pysgod yn ystod penwythnos gyntaf mis Gorffennaf a gall yr elusen gynnig lleoedd cyfyngedig ar gyfer Marathon Cymru, Hanner Marathon, 10k neu 5k ar y dydd Sul; y Sportive Cymru, gydag opsiynau 40 milltir, 70 milltir neu 112 milltir ar y dydd Sadwrn; a digwyddiad plant Nofio Cymru a LCW Kinder ar y dydd Gwener.

Mae gan yr elusen hefyd leoedd yn nwy Hanner Marathon Caerdydd, a gynhelir ym mis Mawrth a Hydref 2022.

Os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau hyn i godi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais, cysylltwch â’r tîm trwy bronglaischemoappeal.hdd@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01970 613881.

Os byddai’n well gennych godi arian yn eich cartref, yna mae llawer o syniadau a gwybodaeth ar wefan yr elusen www.hywelddahealthcharities.org.uk.

Ychwanegodd Bridget: “A’i eich adduned blwyddyn newydd yw i wneud mwy o ymarfer corff neu golli pwysau? Beth am gychwyn ar daith feicio, addo cerdded neu redeg nifer o filltiroedd ym mis Ionawr, neu fe allech chi wneud rhai press-ups? Gallwch wahodd eich teulu a’ch ffrindiau i’ch noddi, a’n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion canser trwy Apêl Cemo Bronglais.

“Beth am gynnal ocsiwn ar-lein i godi arian ar gyfer yr apêl? Fe allech chi gynnal noson ffilm neu gwis rithwir – mae’r syniadau codi arian yn ddiddiwedd. ”

Mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’r uned gemotherapi aros yn ei lleoliad bresennol ac i ôl troed yr uned gael ei hymestyn a’i hadnewyddu’n llawn.

Nawr bod y cynllun wedi’i gymeradwyo, y nod yw i’r gwaith adeiladu ddechrau ar yr uned newydd ym mis Chwefror 2023. Ond mae angen codi’r £500,000 terfynol er mwyn i hyn ddigwydd. I roi, ewch i: www.bit.ly/BronglaisChemoAppeal

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach, ymweld â’n tudalen apêl codi arian a sefydlu tudalen codi arian ar-lein yn www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle