Astudiaeth yn awgrymu bod gwisgo masgiau wyneb yn ‘gwneud i bobl edrych yn fwy deniadol’

0
301

Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn canfod fod pobl yn credu bod gwisgo masgiau meddygol yn gwneud pobl yn fwy deniadol

Masgiau wyneb.

Dau air sydd wedi ysgogi trafodaeth danllyd yn ystod pandemig COVID-19.

Dyw’r drafodaeth ddim ar ben – a nawr mae arbenigwyr Prifysgol Caerdydd wedi darganfod rheswm newydd annisgwyl dros wisgo masg.

Maen nhw wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy’n awgrymu bod masgiau wyneb amddiffynnol yn gwneud i bobl edrych yn fwy deniadol.

Fe wnaeth eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Cognitive Research: Principles and Implications, mesur pa effaith roedd gwahanol fathau o fasgiau wyneb yn cael ar ba mor atyniadol oedd 40 o wynebau gwrywaidd.

Darganfuwyd fod y math o orchudd yn gwneud gwahaniaeth – roedd masgiau meddygol glas yn gwneud i berson edrych yn fwy deniadol na masgiau eraill.

Dywedodd Dr Michael Lewis, Darllenydd o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac arbenigwr ym maes seicoleg wynebau: “Canfu ymchwil a gynhaliwyd cyn y pandemig fod masgiau wyneb meddygol yn gwneud i berson edrych yn llai atyniadol – felly roeddem am brofi i weld a oedd hyn wedi newid ers i orchuddion wyneb ddod yn rhywbeth arferol ac i ddeall a yw’r math o fasg yn cael unrhyw effaith.

“Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod wynebau’n cael eu hystyried fwyaf deniadol y tu ôl i fasgiau wyneb meddygol. Gall hyn fod oherwydd ein bod yn arfer gweld gweithwyr gofal iechyd yn gwisgo masgiau glas ac erbyn hyn rydym yn cysylltu’r rhain â phobl mewn proffesiynau gofalgar neu feddygol. Ar adeg pan fyddwn yn teimlo’n agored i niwed, efallai ein bod ni’n teimlo fod gweld rhywun yn gwisgo masgiau meddygol yn gysur ac felly ein bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol tuag at y bobl sy’n eu gwisgo.

“Canfuom hefyd fod wynebau’n cael eu hystyried yn llawer mwy deniadol os oeddent wedi’u gorchuddio gan fygydau defnydd na phan nad oeddent wedi’u gorchuddio. Gall rhywfaint o’r effaith hon fod o ganlyniad i allu cuddio nodweddion annymunol yn rhan isaf yr wyneb – ond roedd yr effaith hon yn bresennol ar gyfer pobl llai deniadol a mwy deniadol.”

Yn yr astudiaeth, rhoddodd 43 o gyfranogwyr benywaidd eu barn am ba mor atyniadol oedd lluniau o wynebau gwrywaidd heb fasg; yn gwisgo mwgwd defnydd; mwgwd wyneb meddygol glas ac yn dal llyfr du plaen yn gorchuddio’r man lle byddai masg wyneb yn gorchuddio, ar raddfa o un i 10.

Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Chwefror 2021, saith mis ar ôl i fasgiau wyneb ddod yn orfodol yn y DU.

“Mae’r canlyniadau’n mynd yn groes i’r ymchwil cyn y pandemig* lle tybiwyd bod masgiau’n gwneud i bobl feddwl am glefyd a dylid osgoi’r person,” meddai Dr Lewis.

“Mae’r ymchwil presennol yn dangos bod y pandemig wedi newid ein seicoleg o ran sut rydym yn gweld pobl sy’n gwisgo masgiau. Pan rydym yn gweld rhywun yn gwisgo masg, dydyn ni ddim bellach yn meddwl ‘mae gan y person yna glefyd, mae angen i mi gadw draw’.

“Mae hyn yn ymwneud â seicoleg esblygol a pham rydym yn dewis y partneriaid rydym yn eu dewis. Gall clefydau a thystiolaeth o glefydau chwarae rhan fawr yn y broses o ddewis partneriaid – yn y gorffennol byddai unrhyw awgrym o glefydau wedi dylanwadu’n negyddol ar fwriad rhywun. Erbyn hyn, gallwn weld newid yn ein seicoleg lle nad yw masgiau wyneb bellach yn gwneud i ni feddwl am ledaenu haint.”

Mae gwaith pellach yn cael ei wneud gyda chyfranogwyr benywaidd a gwrywaidd i weld a yw’r canlyniadau’n wir am y ddau ryw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle