Astudiaeth yn datgelu cysylltiad rhwng datblygiad celloedd yr ymennydd a’r risg o sgitsoffrenia

0
280
Cardiff University Campus Building

Astudiaeth Prifysgol Caerdydd yn ‘gam mawr ymlaen’ wrth chwilio am darddiad datblygiad anhwylderau seiciatrig

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod cysylltiadau newydd rhwng nam ar ddatblygiad celloedd yr ymennydd a’r risg o sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig eraill.

Gwyddwn fod ffactorau risg genetig yn amharu ar ddatblygiad yr ymennydd mewn nifer o’r anhwylderau hyn, ond ychydig a wyddwn ynghylch pa agweddau ar y broses hon sy’n cael eu heffeithio.

Yr ymchwil hon yw’r tro cyntaf i amharu genetig ar brosesau celloedd penodol sy’n hanfodol i ddatblygiad yr ymennydd, gael ei gysylltu â’r risg o glefyd, a hynny mewn ystod eang o anhwylderau seiciatrig.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau heddiw yng nghyfnodolyn Nature Communications.

Bu i’r Dr Andrew Pocklington o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Eunju Jenny Shin o’r Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd bellach ym Mhrifysgol Keele, gyd-arwain yr astudiaeth.

Dywedodd Dr Pocklington: “Mae ffactorau genetig yn mynnu lle sylweddol o ran faint o risg y bydd yr unigolyn yn datblygu anhwylderau seiciatrig. Mae dod ar draws prosesau biolegol sy’n cael eu heffeithio gan y ffactorau risg genetig hyn yn gam mawr tuag at ddeall achosion clefydau.”

Dywedodd Dr Shin: “Er mwyn deall achosion sylfaenol anhwylderau seiciatrig yn fanwl, canolbwyntiwyd ar astudio datblygiad celloedd yn yr ymennydd. Mae’n bosib y gallai’r wybodaeth a gawson drwy ddefnyddio’r dull hwn, helpu i ddatblygu therapïau newydd yn y pen draw neu helpu i egluro pam mae rhai unigolion yn ymateb i rai triniaethau ond nid eraill.”

Astudiodd y gwyddonwyr enedigaeth a datblygiad cynnar celloedd o’r ymennydd dynol – proses a elwir yn niwrogenesis. Gwnaethant hynny in vitro (mewn tiwbiau profi), gan ddefnyddio bôn-gelloedd amlbotensial.

Nodwyd sawl set o enynnau sy’n cael eu tanio ymlaen yn ystod niwrogenesis – hynny in vitro, ac mewn ymennydd ffoetws dynol – gyda phob set yn ymddangos fel pe baent yn chwarae rôl swyddogaethol benodol. Dangosodd yr ymchwilwyr fod ffactorau risg genetig sy’n cyfrannu at sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig eraill, yn hynod grynodedig yn y setiau hyn.

Dywedodd Dr Shin: “Daeth i’r amlwg mewn arbrofion in vitro fod siâp, symudiad a gweithgarwch trydanol celloedd yr ymennydd sydd wrthi’n datblygu yn cael eu newid pan amharir ar y tanio yn y setiau hyn. Mae hyn yn dangos bod cysylltiad rhwng newidiadau o ran y nodweddion hyn â chlefydau.”

Roedd cyflyrau cynnar (oedi datblygiadol, awtistiaeth ac ADHD) ac, yn fwy annisgwyl, cyflyrau sy’n dechrau’n ddiweddarach mewn bywyd (anhwylder deubegynol, iselder difrifol), ymhlith yr anhwylderau sy’n gysylltiedig ag amhariadau ar y genynnau hyn. Ni chredir yn gyffredinol hyd yn hyn bod amhariadau ar ddatblygiad cynnar yr ymennydd yn chwarae rhan fawr o ran y rhain.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn: a yw rhai o’r genynnau hyn – sy’n cael eu tanio ymlaen ymhell cyn genedigaeth – yn parhau i fod yn weithredol yn ddiweddarach mewn bywyd gan gyfrannu at swyddogaethau yr ymennydd aeddfed, ble y mae’n bosib y gellid eu targedu’n therapiwtig.

Dywedodd Dr Pocklington: “Dangosodd astudiaethau blaenorol fod genynnau sy’n weithredol mewn celloedd ymennydd aeddfed yn cael eu gorfaethu yng nghyd-destun amrywiolion genetig cyffredin sy’n cyfrannu at sgitsoffrenia. Cafodd llawer o’r gorfaethu hwn ei weld yn y setiau genynnau sy’n datblygu’n gynnar, sy’n ymddangos fel petaent yn cynnwys mwy o ffactorau risg genetig cyffredin.

“Mae hyn yn awgrymu y gallai rhai llwybrau biolegol a daniwyd gyntaf yn yr ymennydd cynnar cyn i’r person gael ei eni, barhau i fod yn weithredol yn ddiweddarach mewn bywyd, gydag amrywiadau genetig yn y llwybrau hyn yn cyfrannu at glefydau, drwy amharu ar ddatblygiad a swyddogaeth aeddfed yr ymennydd.”

Mae angen rhagor o waith i fapio’r ystod lawn o brosesau datblygu sy’n cael eu hamharu, o ran gwahanol anhwylderau seiciatrig, yn ogystal ag archwilio eu heffeithiau tymor-hwy ar yr ymennydd.

Dywedodd Dr Shin: “Er bod llawer i’w ganfod o hyd, mae’r canfyddiadau hyn gennym yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i darddiad datblygiad anhwylderau seiciatrig fel sgitsoffrenia.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle