Diolch i Cyswllt Ffermio, dysgodd Beccie Williams, amaethwr o Bowys, sut i redeg menter ddofednod fasnachol lwyddiannus

0
309
Farming Connect - Technical Bulletin: poultry case study. Rebecca Williams pictured at her family farm, rough area such as llanbister or llandrindod wells. Beccie is pictured with her flock, collecting eggs and undertaking online learning. Pic by: RICHARD STANTON. Tel: (01432) 358215 / Mob: (07774) 286733. Email: richard@stantonphotographic.com All rights 25/11/21, (please see terms of repro use). www.stantonphotographic.com Image is copyrighted - © 2021.

Mae Beccie Williams yn wraig, yn fam i dri o blant bach ac yn ffermwr dofednod llawn amser hefyd erbyn hyn. Yn 2010, gwnaeth Beccie a’i gŵr Matthew gymryd yr awenau ar fferm rent cig eidion a defaid rhieni Matthew yn Llanbister, ger Llandrindod. Prynodd y pâr y fferm yn ddiweddarach ac maent bellach yn bartneriaid busnes yn y fferm 280 acer lle maen nhw’n cadw 700 o ddefaid croesryw Cymreig, buches o 30 o wartheg a menter ieir maes a sefydlwyd yn 2019 ac sydd bellach yn cael ei rheoli gan Beccie.

“Rydw i wedi gorfod dysgu llawer iawn, yn gyflym iawn, am sut i reoli a rhoi’r gofal gorau posibl i 16,000 o ieir dodwy, ond mae Cyswllt Ffermio wedi fy helpu bob cam o’r ffordd.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Rydw i wedi bod ar lawer o gyrsiau hyfforddi, gan gynnwys rheoli iechyd a lles dofednod, ac mae’r rhain wedi rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a’r hyder i mi redeg menter newydd fel hon, ac rydw i bellach yn rhoi’r holl bethau wnes i eu dysgu ar waith bob dydd.”

Roedd Beccie yn arfer gweithio ym maes yswiriant amaethyddol. Cafodd ei magu yn Swydd Wiltshire ac ar ôl gadael y coleg yng Nghaerefrog lle bu’n astudio cerddoriaeth a busnes, cafodd yrfa lwyddiannus gydag un o gwmnïau yswiriant mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig yn Norwich cyn dychwelyd i Drefyclo, lle’r oedd ei theulu wedi symud pan oedd hi yn ei harddegau cynnar.

“Fe wnes i ddod o hyd i swydd yn y sector yswiriant yn lleol ac roeddwn wrth fy modd, ond gyda dau o blant ifanc ac un arall ar y ffordd, roedd yn mynd yn fwy anodd i mi weithio’n llawn-amser a chydbwyso anghenion y teulu ar yr un pryd.

“Roeddwn eisiau swydd heriol a diddorol a fyddai’n darparu incwm, ond a fyddai hefyd yn rhoi cyfle i mi weithio yn y cartref gan roi’r hyblygrwydd i mi weithio o amgylch anghenion fy nheulu.”

Ar ôl llawer o waith ymchwil, penderfynodd y pâr sefydlu menter ddofednod newydd ar y fferm. Gwnaethant gyflwyno cais cynllunio llwyddiannus a sicrhau’r cyllid angenrheidiol cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Yn 2019, derbyniodd Beccie 16,000 o ieir dodwy croesryw Lohmann Brown ‘Classic’, sy’n cael eu hystyried yn ieir dodwy effeithiol iawn ac sy’n addas iawn i systemau cynhyrchu’r farchnad Brydeinig.

Yn ogystal â dysgu o’i phrofiadau ar y fferm, roedd Beccie yn benderfynol o ddysgu popeth o fewn ei gallu am theori cadw dofednod. Derbyniodd hyfforddiant gan gwmni Jimmy Hughes Services Ltd, darparwr hyfforddiant sydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio yn Llandrindod. Mae pob cwrs yn derbyn cymhorthdal o 80% a dywedodd Beccie y byddai hi wedi bod yn amhosibl iddi ddilyn cynifer o

gyrsiau heb y cymhelliant ariannol hwn.

Roedd y cwrs ‘Paratoi ar gyfer Rheoliadau IPPC (Dofednod)’ yn sicrhau ei bod wedi rhoi sylw i’r holl faterion amgylcheddol hanfodol a’i bod yn cydymffurfio â meysydd fel ymdrin â gwastraff ieir, dŵr ffo, arbed dŵr, llygredd sŵn a bioddiogelwch.

Mae’r cwrs ‘Rheoli Cnofilod ar y fferm’ wedi talu ar ei ganfed yn barod.

“Unwaith roeddwn i’n gwybod y gweithdrefnau angenrheidiol ac wedi derbyn fy nhystysgrif am gwblhau’r cwrs, roeddwn yn gallu gwneud y gwaith hwn fy hun yn hytrach na thalu contractwyr.”

Mae’r cwrs ‘Defnydd diogel o filfeddygon a meddyginiaethau’ wedi dysgu Beccie sut i drin yr holl feddyginiaethau ar y fferm; pryd a sut i’w gweinyddu a dealltwriaeth o’u cynhwysion actif rhag ofn y bydd rhywun yn eu llyncu ar ddamwain.

“Mae’r cwrs ‘Gweithio’n Ddiogel ym maes Amaethyddiaeth/Garddwriaeth’ wedi rhoi sicrwydd i mi fy mod yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gadw pawb yn ddiogel ar y fferm, ac mae’r cwrs yn ymdrin â meysydd fel gweithio ar uchder, trin da byw, trin peiriannau a cherbydau ar y fferm a llawer mwy.”

Yn ôl Beccie, mae’r cwrs ‘Cymorth Cyntaf yn y gweithle mewn argyfwng’ hefyd wedi rhoi mwy o hyder iddi ddelio â mân ddigwyddiadau ac mae ganddi flwch cymorth cyntaf sy’n llawn offer.

“Rydw i’n llawer mwy ymwybodol bellach pa mor bwysig yw gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng, sut i roi cymorth cyntaf a phryd i alw am y gwasanaethau brys.

“Mae’r hyfforddiant hwn hefyd wedi gwneud i mi ystyried gosod diffibrilydd ar ochr y sied ddofednod, a’r gobaith yw y gallai achub bywyd rhywun mewn angen yn yr ardal.”

Mae Beccie hefyd yn sicrhau ei bod hi’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn cyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio sydd wedi’u hariannu’n llawn, gan astudio modiwlau ar afiechydon resbiradol dofednod; plâu; brechiadau a rheoli tail dofednod.

“Mae e-ddysgu yn ffordd gyfleus o ddysgu, gallwch ddewis amser sy’n addas i chi, mynd yn ôl dros yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu’n barod mor aml ag yr hoffwch ac mae’r cwis byr ar ddiwedd pob modiwl yn rhoi llawer o sicrwydd i chi.

“Mae cael cynllun datblygiad personol a defnyddio Storfa Sgiliau, pecyn storio data ar-lein Cyswllt Ffermio sy’n cofnodi fy holl gyflawniadau a dysgu, wedi fy ngalluogi i adnabod fy nghryfderau a’m gwendidau gan dynnu sylw at y math o hyfforddiant y dylwn wneud cais amdano yn y dyfodol.”

Bydd cyfnod ymgeisio sgiliau nesaf Cyswllt Ffermio ar agor rhwng 09:00 dydd Llun, 3 Ionawr a 17:00 dydd Gwener, 28 Ionawr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle