Heddiw yw diwrnod Paned Dydd Llun, diwrnod mwyaf anodd y flwyddyn yn ôl yr honiad. Ond mae’r elusen atal hunanladdiad flaenllaw yn dweud y gall rhywun deimlo’n isel ar unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn, a bod angen inni fod yn ymwybodol o’r ffordd mae’r pandemig yn cynyddu’r teimladau hynny ymysg llawer ohonom ni. Wrth i ansicrwydd y pandemig barhau, mae Samariaid Cymru’n annog pobl i estyn eu cwpanau a rhannu diod gyda ffrind, cymydog neu gydweithiwr sydd efallai’n cael trafferth i ymdopi.
Er y credir mai’r gaeaf yw un o’r tymhorau mwyaf anodd, gyda’i ddyddiau tywyll a’i nosweithiau rhewllyd, mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn clywed pryderon tebyg trwy gydol y flwyddyn gan y rhai sy’n cysylltu â’r elusen. Mae’r prif bryderon yn cynnwys iechyd a salwch meddwl (46%), teulu (34%) ac unigrwydd (28%)*.
Mae’r trysor cenedlaethol y Fonesig Julie Walters yn ymuno â phobl o feysydd teledu a chomedi, gan gynnwys James Acaster a Keith Lemon, ac artistiaid talentog ledled y Deyrnas Unedig, i gael paned a sgwrs gyda rhywun maen nhw’n malio amdano ar ddiwrnod Paned Dydd Llun y Samariaid.
Mae llysgennad y Samariaid, y Fonesig Julie Walters, yn meddwl y gall pobl wneud gwahaniaeth go iawn i ddiwrnod rhywun arall dim ond trwy ofyn a yw’n iawn. Dywedodd: “Mae pobl yn mynd trwy amrywiaeth o emosiynau trwy gydol y flwyddyn, felly mae’r syniad o deimlo’n isel ar un diwrnod yn ddwli pur. Dwi wedi cael mwy na digon o ddiwrnodau isel, ac wedi cael cysur o siarad gydag anwyliaid dros wydraid neu ddau.
“Mae’n weithred syml a all fynd ymhell, yn enwedig nawr pan mae cymaint o bobl yn dal i deimlo wedi’u hynysu ac yn unig. Does dim rhaid iddi fod yn ddydd Llun, nac yn baned. Mae cysylltu â rhywun ar unrhyw adeg o’r flwyddyn yn dangos iddo eich bod chi yno ac yn barod i wrando.”
Mae artistiaid talentog sydd â phrofiad o drafferthion iechyd meddwl, gan gynnwys Nathan Wyburn o Gaerdydd a gystadlodd yn “Britain’s Got Talent”, hefyd wedi bod yn defnyddio eu brwshys a’u pensiliau i dynnu lluniau calonogol sy’n rhannu neges o gysylltu ag eraill dros baned o rywbeth a sgwrs.
Mae Nathan Wyburn wedi cael ei drafferthion iechyd meddwl ei hun a gorbryder a ataliodd ei greadigrwydd ar adegau, ond mae’n canmol pŵer siarad yn ei ymadferiad. Mae Nathan yn adnabyddus am greu gweithiau celf o fwyd, gan gynnwys portreadau o Mariah Carey a Tim Peake. Felly ar gyfer diwrnod Paned Dydd Llun felly, creodd Nathan bortread calonogol sy’n dangos dau o bobl yn cysylltu, llun sydd wedi’i wneud o goffi a bisgedi. Dywedodd Nathan:
“Gan fy mod i wedi dioddef â gorbryder, pyliau panig a chyfnodau o iselder dros lawer o flynyddoedd, dwi’n gwybod fy hun pa mor anodd y gall fod i wneud unrhyw beth ar yr adegau hynny, heb sôn am siarad. Ond credwch chi fi, unwaith y byddwch chi’n siarad yn agored am y ffordd rydych chi’n teimlo, gall drawsnewid eich bywyd. Dwi’n falch iawn i gefnogi ymgyrch Paned Dydd Llun a dwi wir yn gobeithio y bydd fy ngwaith celf coffi yn dal llygad rhywun ac yn gwneud iddo ystyried codi’r ffôn i siarad â ffrind. Dydych chi byth yn gwybod faint y gallai sgwrs
syml helpu rhywun.”
Mae Samariaid Cymru yn parhau i dynnu sylw at y ffordd mae’r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r nifer o hunanladdiadau. Mae byw mewn tlodi, ansicrwydd swydd ac unigrwydd ac ynysigrwydd yn broblemau cymdeithasol sydd wedi cynyddu yn ystod y pandemig, ond mae’n bwysig cydnabod bod y rhain i gyd yn ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad. Gallai estyn allan i’r rhai o’n cwmpas a gofyn sut ydyn nhw dros baned o de neu goffi achub bywyd.
Gyda chymorth gan Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach, bydd y Samariaid yn bresennol mewn gorsafoedd rheilffordd ar draws Cymru trwy gydol mis Ionawr, yn cefnogi gweithwyr allweddol a theithwyr, yn darparu bagiau te ac awgrymiadau ar sut i fod yn wrandäwr gwell ynghyd â manylion eu llinell gymorth.
Dywedodd Bethan Jelfs, Cyfarwyddwr Pobl a Newid Trafnidiaeth Cymru:
“Unwaith yn rhagor, rydym ni’n falch i gefnogi ymgyrch Paned Dydd Llun y Samariaid mewn gorsafoedd ar draws Cymru, er mwyn helpu i ledu’r neges ei bod yn bwysig i bawb estyn allan i gysylltu â’u ffrindiau a’u teuluoedd a hefyd cymryd amser i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain. Ar ôl bron dwy flynedd o gyfyngiadau cysylltiedig â Covid, sydd wedi effeithio ar rai pobl yn fwy nac ar eraill, mae angen yr ymgyrch ymwybyddiaeth hollbwysig hon yn fwy nag erioed.”
Ychwanegodd Krista Sexton, Pennaeth Risgiau Gweithredol Network Rail:
“Rydym ni’n falch i gefnogi ymgyrch Paned Dydd Llun y Samariaid gan ei bod yn cynnig ffordd syml ond effeithiol inni estyn allan i’n cydweithwyr ar y rheilffyrdd a’n hanwyliaid sydd efallai angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod y pandemig, wedi bod yn anodd i iechyd meddwl llawer o bobl, ond gwyddom nad yw pawb eisiau rhannu eu pryderon bob amser.
Mae’r ymgyrch deimladwy hon yn ein hatgoffa i aros a gwrando ac annog y rhai sy’n cael trafferth i siarad yn agored am eu teimladau a chael sgwrs dros gwpanaid o de.”
Cewch wybod mwy ar samaritans.org/brewmonday neu ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #PanedDyddLlun. Beth am roi rhodd ariannol tra byddwch yno, gallech helpu i achub bywyd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle