Digwyddiad poblogaidd Deffro gyda’r Deinos Amgueddfa Cymru yn ôl

0
305

Sach gysgu? Tic. Fflachlamp? Tic. Danteithion? Tic! Mae popeth yn barod ar gyfer ‘Amgueddfa dros Nos’ newydd Amgueddfa Cymru.

Caiff Amgueddfa Dros Nos: Deffro gydar Deinos!, a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, ei gynnal ar 5-6 Chwefror 2022. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 1pm ac yn gorffen am 10am y diwrnod wedyn.

Bydd y digwyddiad yn mynd a theuluoedd ar daith drwy amser i oes y deinosoriaid, drwy gymysgedd o ddeunydd byw a deunydd wedi eu recordio o flaen llaw yn cynnwys eitemau o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Enillodd digwyddiad tebyg yn 2021 wobr Amgueddfa i’r Teulu am y Digwyddiad Digidol Gorau.

Mae Amgueddfa Dros Nos: Deffro gydar Deinos! yn addas ar gyfer plant rhwng 6-12 oed, a bydd y digwyddiad yn cynnwys opsiwn tocyn Iaith Arwyddo Prydain, ynghyd ag opsiwn i gymryd rhan yn Gymraeg neu’n Saesneg. Bydd y digwyddiad, a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, yn rhoi cyfle i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd ac yn creu atgofion i’w trysori.

Bu Cindy Howells, Curadur Palaeontoleg yn Amgueddfa Cymru, yn helpu i greu’r digwyddiad a dywedodd:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi amser i nifer ohonom ystyried yr hyn sy’n bwysig, megis treulio amser gyda’n teuluoedd. Gobeithio y bydd y digwyddiad yn dod â theuluoedd ynghyd mewn ffordd ddiogel, gan ysbrydoli pawb gyda rhyfeddodau gwyddoniaeth y cynfyd.”

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn £5.00 (+ ffi archebu drwy Eventbrite) ar gyfer y teulu cyfan a byddant ar gael i’w prynu nawr o wefan yr Amgueddfa: www.amgueddfa.cymru

Diwedd


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle