Cymorth newydd i fenywod sydd eisiau mwy allan o fywyd

0
259
Katherine Lane, Chwarae Teg

Mae cyfres o sesiynau rhad ac am ddim er mwyn hybu hyder a sgiliau menywod, bellach ar agor i rai sy’n byw yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Phen-y-bont ar Ogwr.

O’r enw ‘Credu a Chyflawni’, gan mai dyna maen nhw’n anelu at helpu menywod i’w wneud, mae’r sesiynau ar-lein ar gael i rai dros 25 oed sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Gall menywod gofrestru os ydynt yn chwilio am waith neu beidio, ond rhaid eu bod wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy.

Cynhelir y sesiynau gan yr elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg a bydd eu hyfforddwyr yn sgwrsio â’r menywod yn unigol cyn iddynt ddechrau er mwyn gael gwybod ychydig mwy amdanynt, gan gynnwys unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Yna cynhelir pum sesiwn ar-lein ysbrydoledig a grymusol, gan ddechrau ym mis Chwefror, er y byddant yn cael eu cynnal sawl gwaith – hyd yr haf. Eu nod yw helpu menywod i feddwl am yr hyn yr hoffent ar gyfer eu dyfodol, sut i weld eu cryfderau eu hunain, credu ynddyn nhw’u hunain a chael gwared ar feddyliau negyddol. Dyfernir tystysgrif sy’n berthnasol i waith ar ôl pob sesiwn a bydd dau alwad hyfforddi arall dros y ffôn er mwyn i fenywod allu mesur eu datblygiad a chael unrhyw gymorth neu wybodaeth bellach.

Meddai Katherine Lane, Partner Ymgysylltu â’r Gymuned, Chwarae Teg: “Yn Chwarae Teg mae gennym 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda menywod, gan eu cefnogi i gredu ynddyn nhw’u hunain a chyflawni eu nodau. Mae unrhyw beth yn bosibl gyda’r gefnogaeth iawn a bydd y sesiynau Credu a Chyflawni yn helpu menywod i wireddu eu potensial, gwneud dewisiadau pwerus am eu dyfodol a dechrau sylweddoli sut y gallan nhw gyflawni eu potensial.

“Bydd popeth fyddwn ni’n ei wneud yn gefnogol, yn gynhwysol ac yn rymusol. Rydym yn deall y rhwystrau y gall menywod eu hwynebu, o gyfrifoldebau gofalu a chyflyrau iechyd i ddibyniaeth ar les a diffyg hyder. Ond byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i roi’r gefnogaeth, y sgiliau a’r cymhelliant sydd eu hangen ar fenywod er mwyn cael y bywyd neu’r gwaith y maen nhw’n ei haeddu.”

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 0300 365 0445, e-bostiwch believe@chwaraeteg.com neu ewch i https://chwaraeteg.com/prosiectau/credu-a-chyflawni/.

Ariennir Credu a Chyflawni gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol drwy CGGC.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle