Y rhagolygon ar gyfer y sector porc 2022

0
411

Yn dilyn blwyddyn heriol ac ansicr, mae’r rhagolygon ar gyfer 2022 yn edrych yn fwy positif yn ôl dadansoddwr y diwydiant moch, Mick Sloyan. Bydd y rhai sydd wedi cael eu heffeithio  gan ‘Y Storm Berffaith’ yn sicr yn edrych ymlaen at adferiad y diwydiant.

Mae busnesi sydd heb gael eu heffeithio  gan y farchnad ehangach ac wedi adrodd iddynt gael blwyddyn lwyddiannus yn 2021, gyda rhagolygon mwy positif yn enwedig os yw’r tuedd o brynu porc lleol am barhau yn 2022.

Mae’r erthygl lawn Y Rhagolygon ar gyfer y sector porc yn 2022 ar gael ar wefan Menter Moch Cymru -Mae Menter Moch Cymru yn brosiect sydd yn cyd-weithio gyda phob adran o’r gadwyn cyflenwi i ddatblygu diwydiant moch mwy cynaliadwy, proffidiol a chadarn yng Nghymru.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Roedd 2021 yn flwyddyn heriol i’r diwydiant moch  ledled y DU. Yn gyffredinol, roedd Cymru wedi’i warchod rhywfaint rhag y materion ehangach ond mae rhai cynhyrchwyr yn dal i ddweud bod gwneud elw o dan bwysau difrifol. Mae hyn yn cael ei esbonio gan Mick Sloyan yn erthygl dechnegol  rhifyn mis Ionawr o newyddlen Menter Moch Cymru.

“Roedd hyn bron yn gyfan gwbl oherwydd y cynnydd mewn costau porthiant ac yn fwy diweddar costau ynni, a gafodd effaith negyddol yn y rhan fwyaf o’r Byd. Efallai ei fod yn gysur cyfyngedig ond gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth i gynhyrchwyr yng Nghymru. Bu i gefnogaeth i borc a chynnyrch porc yn lleol gyrraedd y galw yma yng Nghymru, tra bod gan Loegr a’r Alban moch wrth gefn

Y rhagolygon ar gyfer 2022 yw heriau parhaus i gyrraedd proffidioldeb yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn gan ei bod yn edrych yn debyg y bydd costau porthiant ac ynni yn parhau i fod yn hanesyddol uchel. Ond dylai fod rhywfaint o welliant yn ail hanner y flwyddyn gan y bydd prisiau’n gwella’n gyffredinol a bydd prisiau porthiant yn gwanhau rhywfaint.

Wrth gwrs, bydd dau ansicrwydd yn parhau gydag effaith Covid 19 ar adferiad economaidd a phrisiau nwyddau ledled y byd yn ogystal â lledaeniad clwy Affricanaidd y moch.

Wrth i ni edrych ar y rhagolygon ar gyfer 2022 mae rhai ffactorau a allai wella prisiau moch a gwrthbwyso costau porthiant uchel.

Mae Mick Sloyan yn esbonio: “Mae adferiad rhannol prisiau moch yn Tsieina yn galonogol. Er eu bod yn annhebygol o ddychwelyd i’r uchafbwyntiau a welwyd yn 2020, byddai marchnad gryfach yn arwain at fwy o alw am fewnforio.

“Bydd unrhyw welliant ym marchnad yr UE yn lleddfu’r pwysau ar y farchnad yng Nghymru a Lloegr. Mae arwyddion calonogol hefyd bod y normal newydd yn sgil Covid-19 yn gyffredinol yn cael effaith fuddiol ar y galw am borc a chynhyrchion porc a gynhyrchir yn lleol a fyddai’n arbennig o dda i gynhyrchwyr yng Nghymru.

“Mae’r DU yn dal i fewnforio tua 40% o’r holl gynnyrch porc a phorc a fwyteir yn y wlad o’r UE ac felly mae prisiau moch Ewropeaidd wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein marchnad. Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld bod llawer o’r pwysau hwn wedi’i wrthwynebu ac nad yw prisiau mochyn cyfartalog y DU wedi dilyn yr UE i’r un graddau. Ar ddiwedd haf 2021, roedd pris cyfeirio’r DU dros 40c/kg yn uwch nag yn yr UE. Tra bod pris y DU wedi disgyn yn ystod yr hydref fe lwyddodd i gau’r flwyddyn o hyd ar tua 35c/kg yn uwch na’r UE.”

Wrth i ni wynebu 2022 mae’r rhagolygon yn fwy cadarnhaol ac mae nawr yn gyfle da i gael golwg ar eich busnes presennol a pherfformiad y genfaint i sicrhau eich bod yn gweithredu mor effeithlon ac mor broffidiol â phosibl. I helpu busnesau i wneud hyn, mae Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio wedi lansio rhaglen meincnodi Moch ar-lein newydd rhad ac am ddim yn ddiweddar fel rhan o ‘Mesur i Reoli’.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle