Mae gweithiwr y cyngor a mam i ddau o blant, Emma Evans, yn codi arian ar gyfer ApĂȘl Cemo Bronglais er cof am ei gĆ”r Gareth ac fel diolch i staff yr ysbyty sydd, meddai, yn ârhyfeddolâ ac yn âgwneud gwaith mor wychâ.
Bu farwâr adeiladwr Gareth Evans ym mis Mawrth 2020, yn ddim ond 45 oed, ar ĂŽl cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint Cam 4 a oedd wedi lledu iâw iau.
Cafodd Gareth, oedd hefyd yn ddyfarnwr pĂȘl-droed ac yn chwarae i Crannog FC, driniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais am ddwy flynedd, gan dderbyn cemotherapi ac imiwnotherapi.
âMae cael uned cemotherapi yn agos iâch cartref mor bwysig a dyna pam rydw iân cefnogiâr apĂȘl am uned ddydd cemotherapi newydd pwrpasol yn Aberystwyth,â meddai Emma, 41, o Bontgarreg, sydd Ăą merch Ella, 19, a mab Luke, 15. âRoedd yn golygu y gallwn gefnogi Gareth, wrth dal i weithio a bod gyda’n dau blentyn.
âRoeddwn i eisiau codi arian i ddiolch i staff Ysbyty Bronglais. Dros y ddwy flynedd y treuliodd Gareth a fi lan yn yr uned cemotherapi, roedd y staff yn anhygoel. Cawsom y fath groeso. Maeân lle mor agos at ein calonnau.â
Mae Emma eisoes wedi codi mwy na ÂŁ3,000 ar gyfer yr uned cemotherapi a gallwch barhau i gyfrannu https://hyweldda.enthuse.com/pf/emma-evans-garethevans-57cb5
Ychwanegodd: âEr maiâr gofal oedd y gorau, roedd yr uned cemotherapi yn fach ac roedd problemau preifatrwydd. Felly, byddai uned ddydd newydd yn newyddion gwych i gleifion ac i staff. Rwyân gobeithio y bydd fy nghodi arian yn helpu i godi ymwybyddiaeth a dangos pa mor ddiolchgar ydym fel teulu iâr holl staff.â
Lansiwyd ApĂȘl Cemo Bronglais gan Elusennau Iechyd Hywel Dda ddiwedd mis Tachwedd y llynedd, gydaâr nod o godiâr ÂŁ500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer adeiladu i ddechrau ar gyfer uned ddydd cemotherapi syân addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer cleifion canser yn Ysbyty Bronglais o Geredigion, Gwynedd a Phowys.
Bydd un o bob dau o bobl ledled Cymru yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod eu hoes; mae’n gyflwr sydd yn anffodus yn effeithio ar bron bob teulu. Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn derbyn triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais, cyfanswm o tua 300 o bobl y flwyddyn o ganolbarth, gorllewin a gogledd Cymru.
Bydd datblygu uned newydd yn costio tua ÂŁ2.2m, gyda chyfanswm o bron i ÂŁ1.7m eisoes wediâi gadarnhau ar gyfer y cynllun, yn bennaf diolch i haelioni ein cymunedau lleol.
Os hoffech gymryd rhan yn yr apĂȘl, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, sefydlu tudalen codi arian ar-lein neu gyfrannu yma www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Gallwch hefyd gyfrannu’n uniongyrchol i’r apĂȘl yma https://hyweldda.enthuse.com/cf/bronglais-chemo-appeal
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle