Lansio Peilot Hyfforddwr Iechyd yn Sir Gaerfyrddin

0
300

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi lansio cynllun peilot Hyfforddwr Iechyd newydd i gefnogi ffordd iach o fyw yn ein cymunedau. Gydag arweiniad gan Strategaeth Gomisiynu Bwrdd Cynllunio Ardal Dyfed, crëwyd y peilot sgrinio ac ymyriad byr hwn gan ddefnyddio Hyfforddwyr Iechyd.

Mae’r peilot yn canolbwyntio ar ymyrryd i gefnogi cleifion sy’n ceisio cymorth gydag alcohol, ysmygu, sigarets electronig, bwyta’n iach, a gweithgaredd corfforol. Bydd meddygon teulu a nyrsys practis yn sgrinio cleifion ac os ydynt yn awyddus i weld Hyfforddwr Iechyd, bydd cyswllt yn cael ei wneud.

Bydd yr Hyfforddwr Iechyd yn defnyddio technegau cyfweld ysgogol ac ymyrraeth fer i gefnogi’r claf i wneud newidiadau bach i gefnogi pobl i ofalu amdanynt eu hunain. Bydd pob claf sy’n mynychu gyda Hyfforddwr Iechyd yn cael cymorth i ddatblygu cynllun gwella ffordd o fyw a bydd yn ymgysylltu â’r Hyfforddwr dros nifer o wythnosau. Gall yr Hyfforddwr Iechyd hefyd gyfeirio cleifion at wasanaethau mwy arbenigol fel Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) os yw’n briodol.

Dywedodd Craig Jones, Rheolwr Atal a Gwella Iechyd y Boblogaeth: “Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn rhoi’r hyder i bobl ennill rhywfaint o gefnogaeth ar gyfer y newidiadau bach y maent yn dymuno eu gwneud i’w ffordd o fyw fel y gallant fyw bywydau hirach ac iachach.

“Bydd yr Hyfforddwyr Iechyd yn darparu’r cymorth sydd ei angen ar y claf ynglŷn â’r materion sy’n bwysig i’r claf. Mae’n ymwneud â gwaith tîm rhwng y person, y meddyg teulu a’r Hyfforddwr Iechyd i ddod o hyd i’r canlyniadau gorau.”

Mae naw meddygfa ar draws Sir Gaerfyrddin wrthi’n rhoi’r peilot hwn ar waith neu’n ei dreialu, gyda’r cam nesaf yn bwriadu ei gyflwyno i Sir Benfro a Cheredigion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle