Cynllun Llywodraeth Cymru i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

0
356

Ar 17 Mawrth 2021, nodais sut y byddwn yn gweithredu ar sail canfyddiadau’r adolygiad o’n polisi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol i lunio cynigion ynghylch sut i ddatblygu ein polisi ymhellach.

Gofynnais hefyd i’r grŵp am gyngor a syniadau ynghylch sut y gellid gwneud y defnydd gorau o £500,000 ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Hoffwn ddiolch i’r grŵp am ei waith.

Un o gynigion allweddol y grŵp oedd datblygu cynllun pwrpasol sydd bellach ar y gweill. Bydd hwn yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a materion eraill sy’n achosi gofid i blant, gan gynnwys hiliaeth, gwahaniaethu a thlodi. Bydd hefyd yn rhoi eglurder a chyfeiriad i sefydliadau ar eu rôl wrth fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol a’r camau i’w cymryd.

Rwy’n bwriadu cyhoeddi’r cynllun yn yr haf, ochr yn ochr â fframwaith ymarfer newydd yn seiliedig ar drawma, sy’n cael ei ddatblygu gan Straen Trawmatig Cymru a Chanolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Byddant yn ymgynghori ar fframwaith drafft yn y gwanwyn.

Bydd y fframwaith yn rhan bwysig o gynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a bydd yn helpu i wella dealltwriaeth gwasanaethau o faterion sy’n achosi gofid a thrawma i blant, a’u hymateb i hynny.

O ran y £500,000 ychwanegol, mae’n bleser gennyf gyhoeddi:

  • £60,000 i Barnardo’s Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer grwpiau hunangymorth a chydgymorth yn y gymuned, i’w helpu i fabwysiadu arferion sy’n seiliedig ar drawma;
  • £60,000 i Gymorth i Ferched Cymru i wella’r cymorth i blant a phobl ifanc er mwyn lleihau effaith hirdymor profiad o gam-drin domestig;
  • £180,000 i gefnogi gweithgarwch cydweithredol, sy’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau strategol o ran cyfiawnder a chydraddoldeb i bobl sydd wedi profi ac wedi cael eu heffeithio gan faterion sy’n achosi gofid a thrawma i blant;
  • £200,000 i gynllun grant ar gyfer sefydliadau cymunedol, ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael â materion sy’n achosi gofid a thrawma i blant, i liniaru eu heffaith ac i feithrin gwydnwch. Mae’r cyllid yn cael ei weinyddu gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Chanolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae grantiau gwerth cyfanswm o £183,000 eisoes wedi’u dyfarnu i 15 sefydliad ledled Cymru, yn amrywio o £5,487 i Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Marc yn Hwlffordd, i gefnogi gweithgareddau cyfoethogi ar gyfer disgyblion sy’n profi materion sy’n achosi gofid iddynt, i £30,000 i’r Gymuned Affricanaidd yn Abertawe, ar gyfer prosiect cydweithredol i gefnogi teuluoedd sydd wedi profi trawma.

Rwy’n falch ein bod wedi gallu ariannu cynifer o brosiectau cymunedol gwerthfawr, gan helpu i fynd i’r afael â materion sy’n achosi gofid a thrawma i blant, a lliniaru eu heffaith. Byddwn yn gwerthuso effaith y prosiectau ac yn defnyddio unrhyw wersi a ddysgwn i lywio’r gwaith o ddatblygu’r cynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Byddaf yn ceisio rhoi adroddiad i’r Aelodau cyn cyhoeddi’r cynllun a’r fframwaith ymarfer.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle