Ffilm newydd yn archwilio newyddion ffug a’i effaith ar ddemocratiaeth yng Nghymru 

0
240
Louise Casella

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cynhyrchu ffilm newydd sy’n archwilio twf camwybodaeth a thwyllwybodaeth a’u heffaith niweidiol ar ddemocratiaeth. Mae Newyddion Ffug yng Nghymru wedi’i gosod yng nghyd-destun ymwybyddiaeth gynyddol o ddatganoli yn ogystal â phandemig y Coronafeirws.

Mae’r ffilm yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng camwybodaeth, twyllwybodaeth a newyddion ffug – term a ddaeth yn gyffredin yn ystod arlywyddiaeth Donald Trump – a’r ffordd y gall pob un o’r rhain effeithio ar y berthynas rhwng democratiaethau a’r cyhoedd.

Yn y ffilm, mae arbenigwyr yn trafod rôl gwleidyddion a’r gwahaniaeth rhwng y ffordd y mae’r cyfryngau yng Nghymru a ledled y DU yn adrodd ar newyddion o Gymru, ac yn ystyried yr heriau sydd wedi codi yn sgil hyn yn ystod y pandemig. Ymhlith y rhain mae ansicrwydd ynghylch ble y caiff penderfyniadau eu gwneud, a’r hyn yr oedd gan bobl yng Nghymru, Lloegr a’r DU hawl i’w wneud ar wahanol adegau.

Mae Newyddion Ffug yng Nghymru yn cynnwys cyfraniadau gan Dr Philip Seargeant, Uwch-ddarlithydd mewn Ieitheg Gymhwysol yng Nghanolfan Iaith a Chyfathrebu’r Brifysgol Agored; Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru; Will Hayward, Golygydd Materion Cymreig WalesOnline; a Shaun Bendle, un o sylfaenwyr cyfrif Twitter @thatsdevolved.

Yn y ffilm, dywedodd Dr Philip Seargeant:

“Ystyr sylfaenol ‘newyddion ffug’ yw gwybodaeth sy’n anwir neu’n ffug ac sy’n cael ei chyfleu fel pe bai’n newyddion, ac felly fel pe bai’n wir. Mae’n rhywbeth a allai effeithio ar bob un ohonom a’r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Ystyr twyllwybodaeth yw gwybodaeth anwir a grëwyd yn fwriadol, ac felly mae’n aml yn fath o bropaganda. Gwybodaeth anwir sy’n fwy damweiniol yw camwybodaeth, ond mae’n dal yn anwir ac felly gall fod yn niweidiol iawn o hyd.

“Mae pandemig COVID-19 yn enghraifft dda iawn, oherwydd rydych yn awyddus iawn i gael gwybodaeth ddibynadwy, fel bod pobl yn gwybod beth y gallant ac y dylent ei wneud. Gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol iawn oherwydd, yn y pen draw, mae’n fater o fywyd a marwolaeth.”

Mae Newyddion Ffug yng Nghymru yn rhan o hyb newyddDinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru a grëwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru ar gyfer OpenLearn, sef llwyfan dysgu am ddim y Brifysgol. Mae’r hyb yn cynnwys erthyglau ar sut i ddarllen y newyddion, chwe ffordd o sicrhau y caiff eich llais ei glywed, a chwrs am ddim ar ddeall datganoli yng Nghymru.

Dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae ein ffilm newydd, Newyddion Ffug yng Nghymru,yn cynnig cipolwg diddorol ar y ffordd y gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth fygwth ein hegwyddorion democrataidd a gwanhau gallu ein dinasyddion i ddwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed. Er mai yn UDA y daeth y cysyniad o ‘newyddion ffug’ i’r amlwg yn wreiddiol, mae’r arbenigwyr sy’n siarad yn ein ffilm yn dangos pam na allwn ni yng Nghymru fforddio i laesu dwylo yn yr ymdrech i sicrhau y gall pobl yn y wlad hon feddwl yn feirniadol am y newyddion y byddant yn eu gweld a’u clywed.

“Ein hyb am ddim Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru yw’r datblygiad diweddaraf yn ein hymdrech i gynnig mwy o gyfleoedd dysgu i’r cyhoedd yng Nghymru a helpu i annog trafodaeth adeiladol. Er mwyn i lywodraeth ddemocrataidd ddatganoledig weithio’n effeithiol, mae angen dinasyddion gwybodus a all ddarllen rhwng y penawdau a chraffu ar waith llunwyr polisïau. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i ddysgwyr a sefydliadau eraill ledled Cymru, ac y bydd yn peri iddynt feddwl.”

Mae Newyddion Ffug yng Nghymru, hyb Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru a mwy na 1000 o gyrsiau am ddim ar gael nawr ar OpenLearn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle