Plaid yn rhybuddio y bydd Mesur Etholiadau San Steffan yn “niweidio democratiaeth a rhyddid pleidleiswyr”

0
176
Rhys ab Owen MS

 

Dywed AS Plaid Cymru Rhys ab Owen fod yn rhaid i Gymru amddiffyn hawliau pleidleisio a chreu system decach Gymreig

 

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd Mesur Etholiadau dadleuol San Steffan yn “niweidio democratiaeth a rhyddid pleidleiswyr”.

Dywedodd Rhys ab Owen AS, llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad a chyfiawnder, fod yn rhaid i Gymru amddiffyn hawliau pleidleisio ei dinasyddion ac ymrwymo i greu system decach ei hun.

Bydd y Mesur Etholiadau, os caiff ei basio,  yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau a gadwyd yn ôl, gan gynnwys cyflwyno dogfennau adnabod ffotograffig gorfodol i bleidleisio.

Roedd Mr ab Owen yn siarad cyn dadl yn y Senedd a gynhaliwyd heddiw (dydd Mercher 26 Ionawr) sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu’r Bil yn ffurfiol.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros y Cyfansoddiad a Chyfiawnder Rhys ab Owen AS,

“O leihau’r hawl i brotestio’n heddychlon, bygwth dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, cwtogi adolygiad barnwrol a gwanhau’r Ddeddf Hawliau Dynol a bellach ymgais drwy’r Mesur Etholiadau hwn i danseilio sylfeini democratiaeth ei hun.

“Pleidleisio yw sylfaen democratiaeth yma ac ym mhob man, mae’n rhoi llais i’r bobl, a’r pŵer i ddwyn gwleidyddion i gyfrif. Mae unrhyw gwtogi ar hyn nid yn unig yn bygwth tanseilio ein holl hawliau, mae’n bygwth niweidio ein democratiaeth a rhyddid i bleidleiswyr.

“Os bu prawf erioed o’r bwlch cynyddol rhwng y dulliau o ymdrin â gwleidyddiaeth mewn gwledydd datganoledig a San Steffan, y Mesur Etholiadau yw hwnnw. Nid yn unig yw’r Bil yn dileu system bleidleisio fwy cymesur drwy newid y ffordd y caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu hethol i system ‘Cyntaf i’r Felin’, mae hefyd yn cyflwyno gofyniad am ddogfennau adnabod ffotograffig i bleidleisio, sydd eisoes wedi’i profi ei fod yn lleihau cyfranogiad democrataidd.

“Yng Nghymru, mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wrthod yr ymgais hon i ddifreinio ein dinasyddion. Yn hytrach, rhaid inni addo creu gwell system yng Nghymru, lle mae etholiadau’n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr.

“Efallai nad yw San Steffan yn gweithio i unrhyw un ar hyn o bryd ond gallwn ni yng Nghymru ddewis gwneud pethau’n wahanol – ac yn well.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle