Stori galonogol am achub mochyn daear yn Llys-y-Frân

0
213
Llys-Y-Fran-Visitor-Centre
Dwr Cymru Welsh Water News
Mae gennym fywyd gwyllt anhygoel yn Llys-y-Frân, ac yn ddiweddar bu modd i ni helpu anifail mewn angen.
Toc cyn y Flwyddyn Newydd, ffoniodd aelod o’r cyhoedd Lys-y-Frân i ddweud eu bod wedi gweld mochyn daear ag anaf ar y prif lwybr o amgylch y gronfa. Aeth Katie Sutton, sy’n un o’r Gofalwyr, yn syth draw lle ffeindiodd y mochyn daear mewn cyflwr truenus. Gan ofni’r gwaethaf, ffoniodd Katie yr RSPCA, a daethant allan i gasglu’r mochyn daear (oedd wedi ei enwi’n Brian erbyn hynny) a mynd â hi i ganolfan adfer.
Bryony the badger found at Llys Y Fran Jan 2022-4
Bryony the badger found at Llys Y Fran Jan 2022 2-2

Ymlaen â ni i 22 Ionawr, a chafodd Katie alwad ffôn hyfryd i roi gwybod iddi fod Brian wedi dod drwyddi er gwaetha 48 awr cyntaf anodd. Erbyn hyn mae Brian wedi gwella’n llwyr… ac fel mae’n digwydd, Bryony yw Brian wedi’r cyfan!

Neithiwr aeth Katie allan gyda’r RSPCA i ryddhau Bryony nôl i’r gwyllt, lle mae hi i fod. Daliwyd y foment fendigedig ar gamera, ac mae’r ffilm i’w gweld ar sianel YouTube Anturiaethau Dŵr Cymru:

Dywedodd Katie “Roedd cael clywed bod Bryony wedi gwella’n llwyr, a chael ymuno â’r RSPCA i’w rhyddhau hi, yn arbennig iawn. Roedd hi’n hyfryd gweld Bryony’n cerdded i ffwrdd i fyw bywyd i’r eithaf yn Llys-y-Frân!”

Hoffai Llys-y-Frân ddiolch i bawb am eu cymorth ar y diwrnod. Cafodd bawb effaith fawr ar fywyd y mochyn daear bach.

Ynghyd â moch daear, mae Llys-y-Frân yn gartref i lwynogod, dyfrgwn, ffwlbartiaid, carlymod, gwiwerod a chwningod, ynghyd ag amrywiaeth eang o ystlumod a mamaliaid bychain. Mae yna amrywiaeth aruthrol o bryfed, o loÿnnod byw i chwilod, a sawl rhywogaeth o’n hoff beillwyr ni i gyd – y gwenyn.

Os ydych chi’n ymweld â Llys-y-Frân a chennych bryderon mawr neu fach am fywyd gwyllt, ar ffurf peryglon neu anifeiliaid mewn trallod, croeso i chi roi gwybod i’n tîm o ofalwyr. Byddai’n dda ganddynt glywed hefyd am unrhyw rywogaethau o anifeiliaid/planhigion/ffwng y byddwch yn dod ar eu traws yn Llys-y-Frân hefyd, fel y gallant greu darlun clir o’r pethau anhygoel sy’n byw yno. E-bostiwch llysyfran@dwrcymru.com <mailto:llysyfran@dwrcymru.com>, neu siaradwch ag un o’r gofalwyr os gwelwch chi nhw allan ar y safle, byddan nhw’n fwy na hapus i sgwrsio â chi.

I gael rhagor o wybodaeth am Lyn Llys-y-Frân, ewc


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle