Mae Clwb Pêl-droed Hakin United wedi rhoi £1,000 i Elusennau Iechyd Hywel Dda er cof annwyl am Alan Roach. 

0
223

“Ni fydd byth yn cael ei anghofio a bydd ganddo le yn ein calonnau i gyd bob amser.”
Mae Clwb Pêl-droed Hakin United wedi rhoi £1,000 i Elusennau Iechyd Hywel Dda er cof annwyl am Alan Roach.

Mae Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg wedi cael £1,000 er cof annwyl am Alan Roach a’i wraig. Mae hynny trwy ddiolch i Glwb Pêl-droed Hakin United a Manderwood Timber Engineering LTD.

Rhoddodd Clwb Pêl-droed Hakin United £1,000, a oedd yn cynnwys cyfraniad gan Manderwood Timber Engineering LTD, i Elusennau Iechyd Hywel Dda er cof annwyl am Alan Roach a fu farw, yn drist iawn, yn 2019.

Roedd Roach yn gefnogwr hirsefydlog i Glwb Pêl-droed Hakin, ac yn aelod o bwyllgor Cyngor Cynghrair Pêl-droed Sir Benfro Manderwood am ddegawdau lawer.

Bydd y rhodd hael yn mynd i Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro mewn teyrnged i wraig Alan, a fu farw o ganser chwe mis ar ei ôl ef.

Dywedodd un o hoelion wyth Clwb Hakin, Daisy Picton: “Roedd Alan Roach yn cael ei adnabod, yn gywir iawn, fel ‘Mr. Hakin’; mae ei gyfraniad i’r clwb wedi bod yn aruthrol, mae colled fawr ar ei ôl, ond bydd y fainc goffa ar y safle yn golygu na fydd byth yn cael ei anghofio a bydd ganddo le yn ein calonnau i gyd bob amser.”

Ychwanegodd mab Alan, Alan Roach y mab: “Efallai mai dyn byr oedd fy nhad, ond o ran yr hyn a roddodd i’r clwb hwn (Hakin) roedd yn bendant yn gawr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle