Mae ymadrodd “Yr hyn a fwytwn a fyddwn” yn berthnasol i ddefaid, hefyd! Gwella perfformiad y ddiadell a chynyddu proffidioldeb gyda chymorth Cyswllt Ffermio

0
293
Aled and Ioan Jones, Dolyfelin

Mae Ioan Jones yn ffermwr mynydd profiadol sy’n ffermio defaid gyda’i wraig, Susan, a’i fab Aled yn Fferm Dolyfelin ger Llanfair-ym-Muallt, ac mae’r fferm wedi bod yn ei deulu ers tair cenhedlaeth. Sylweddolodd y teulu nad oedd y ddiadell o dros 800 o famogiaid Llŷn a chroesfrid Llŷn/Texel, ynghyd â 200 o ŵyn a fagwyd ar y fferm, yn cyrraedd eu lefelau perfformiad disgwyliedig o reidrwydd, yn enwedig yn ystod y cyfnod ŵyna ac yn syth ar ôl hynny.

Gyda chynlluniau i gynyddu’r gyfradd cadw stoc yn Fferm Dolyfelin i 1,000 – ac Aled yn dymuno gweld gwelliannau ar ei dyddyn ef hefyd, lle y mae’n cadw 90 o famogiaid ar hyn o bryd – roeddent yn benderfynol o sicrhau eu bod yn darparu’r union elfennau hybrin y mae eu hangen ar y ddiadell cyn prynu rhagor o ddefaid.

Yn gynharach eleni, ymunodd Ioan a Grŵp Trafod Defaid Brycheiniog a oedd newydd ei sefydlu, a gaiff ei redeg gan Cyswllt Ffermio. Canfu nifer o ffermwyr yn y grŵp eu bod yn profi problemau tebyg o ran lefelau sganio is na’r hyn a fyddai’n ddelfrydol. Roedd rhai yn gweld nifer annerbyniol o uchel o ddefaid yn bwrw’r llawes goch a defaid cloff, ac roedd pawb yn ansicr ynghylch a oedd rhywbeth yn ddiffygiol yn y cyflenwadau mwynau i’r diadelloedd.

Gan benderfynu mabwysiadu dull gweithredu holistig er mwyn nodi’r achosion ac adfer y sefyllfa, ymunodd Ioan gyda dau ffermwr arall o’r grŵp. Gyda’i gilydd, aethant ati i gyflwyno cais fel grŵp am gyngor technegol ynghylch perfformiad a rheoli anifeiliaid trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio – a oedd yn golygu bod gan bob un ohonynt yr hawl i gael archwiliad wedi’i ariannu’n llawn o’r holl fwynau a gyflenwir i’r ddiadell.

“Rydym yn byw yn eithaf agos i’n gilydd, mae ein tir a’r tywydd yr ydym yn ei gael yr un fath, ac oherwydd ein bod yn siarad â’n gilydd yn rheolaidd trwy gyfrwng y grŵp trafod, sylweddolom yn gyflym ein bod oll yn delio gyda phroblemau tebyg.

“Er gwaethaf ein hymdrechion, roeddem oll yn cydnabod bod rhywbeth o’i le, felly roeddem yn benderfynol o ganfod yr union beth y gallem ei wneud i wella perfformiad y stoc, cadw ein stoc yn y cyflwr gorau a chadw lefel ein helw ar y trywydd iawn,” dywedodd Ioan.

Trwy gyfrwng y Gwasanaeth Cynghori, cynhaliodd Dr Fiona Lovatt, milfeddyg arbenigol o gwmni Flock Health Ltd archwiliad ‘fferm gyfan’ (a elwir yn ‘brofi elfennau hybrin’, hefyd) ar y tair fferm. Roedd hyn yn golygu dadansoddi samplau dŵr, porthiant a glaswellt, yn ogystal â holl fewnbwn y ddiadell, megis y bwyd anifeiliaid, atchwanegiadau, bwcedi, llyfleoedd, deunydd drensio a bolysau.

Bu Dr Lovatt a’i thîm yn coladu gwybodaeth benodol am y ddiadell, gan ystyried yr holl gymarebau rhwng mwynau allweddol. Yna, buont yn cymharu’r hyn a gyflenwyd gyda gofynion mamogiaid ac ŵyn trwy gydol y flwyddyn, cyn rhoi adroddiad manwl ac argymhellion i bob ffermwr ar gyfer pob diadell a fferm.

Canfu’r archwiliad yn Fferm Dolyfelin nad oedd unrhyw bryder go iawn ynghylch cyflenwad mwyafrif y macro-fwynau. Fodd bynnag, ar adegau penodol o’r flwyddyn, gwelwyd rhai problemau gyda chyflenwad copr, seleniwm, cobalt, ïodin a sinc – yn enwedig pan fyddai’r defaid yn pori glaswellt yn unig. Roedd diffyg yn ystod y cyfnod pori dros yr haf yn golygu bod y mamogiaid o bosibl yn llai abl i frwydo yn erbyn clefydau nag y byddent pe bai eu cyflenwad mwynau yn gywir.

Argymhellwyd nifer o gamau gweithredu gan yr adroddiad, gan gynnwys yr angen i gasglu rhagor o wybodaeth am y cyflenwad copr. O ganlyniad, argymhellir y dylid cyflwyno samplau afu (wrth y pwynt lladd neu o stoc marw) er mwyn dadansoddi lefel copr go iawn y defaid.

Oherwydd y lefelau potasiwm uchel, argymhellwyd llyfleoedd halen ar gyfer y mamogiaid, yn ogystal â gweithgarwch monitro agos am achosion o’r ddera, a allai olygu bod angen rhoi bwcedi magnesiwm. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r hyn yr oedd Ioan wedi’i arsylwi yn ystod y tymor ŵyna blaenorol, ac roedd hi’n galonogol bod yr archwiliad wedi nodi’r rheswm dros nifer uwch yr achosion o’r ddera.

Er bod bron i orgyflenwad o fwynau yn y diet yn ystod y gaeaf, awgrymwyd y dylid rhoi’r bolws i famogiaid yn gynharach yn yr haf. Byddai hyn wedyn sicrhau cyflenwad digonol o elfennau hybrin hanfodol trwy gydol y cyfnod pori.

Yn ogystal, trafododd Dr Lovatt fanteision ac anfanteision y llu o wahanol gynhyrchion, gan gymharu’r dewisiadau amrywiol sydd ar gael ynghylch sut a phryd i ystyried rhoi atchwanegiadau i ŵyn.

“Ar ffermydd lle y ceir mwynau digonol yn y tir pori, nid oes angen rhoi atchwanegiadau.

“Fodd bynnag, pan geir prinder yn y tir pori a dim didol-borthi, mae’n bwysig ystyried rhywbeth sy’n para am y tymor pori cyfan.

“Ceir cymaint o gynhyrchion ar y farchnad, ac mae nifer yn darparu lefelau llawer uwch nag y mae eu

hangen – er nad am hyd y cyfnod y bydd angen i ni eu cael yn aml.

“Bydd drensio, er enghraifft, yn rhoi cyflenwad digonol o gobalt, ïodin neu sinc am ychydig wythnosau, er y byddai lefelau seleniwm yn parhau i fod yn ddigonol am tua chwe wythnos,” dywedodd Dr Lovatt.

Dywedodd Ioan ac Aled bod y dadansoddiad o elfennau hybrin wedi cadarnhau pam eu bod wedi gweld achosion o’r ddera yn ystod tymhorau ŵyna blaenorol. Fodd bynnag, roedd ganddynt esboniad am hyn bellach, a chynllun gweithredu a fyddai’n eu galluogi i weithredu gweithdrefnau newydd.

“Mae’n ddyddiau cynnar o hyd, ond rydym eisoes yn dechrau gweld canlyniadau gwell ar gyfer y mamogiaid, sy’n argoeli’n dda ar gyfer y tymor ŵyna’r gwanwyn nesaf.

“Ni ddylai ffermwyr fyth stopio dysgu, a byddwn yn cynghori pob ffermwr i geisio cyngor proffesiynol trwy Cyswllt Ffermio. Peidiwch â pharhau i wneud yr hyn yr ydych chi wastad wedi ei wneud – os nad ydych chi’n credu ei fod yn gweithio, mae’n debygol iawn nad ydyw!

“Bellach, rydw i’n gwario fy arian ac yn treulio fy amser mewn ffordd wedi’i thargedu yn fwy. Mae’r ddiadell yn Fferm Dolyfelin yn mynd o nerth i nerth unwaith eto, ac mae’r holl welliannau hyn yn helpu i leihau ôl troed carbon y fferm hefyd.”

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle