Carcharu dynion wedi i swyddogion ddod o hyd i werth £3,345 o gyffuriau mewn eiddo yng Nghaerfyrddin

0
386

Mae tri dyn wedi’u dedfrydu i gyfanswm o chwe blynedd o garchar ar ôl pledio’n euog i feddu ar gyffuriau â’r bwriad o gyflenwi.

Ddydd Mawrth 10 Mawrth 2020, gweithredodd swyddogion Tîm Plismona Achosion Difrifol Sir Gaerfyrddin Heddlu Dyfed-Powys warant gyffuriau mewn cyfeiriad yn Neuadd y Parc, Caerfyrddin.

Yno, ar ôl chwilio’r eiddo, fe wnaethon nhw arestio’r deiliad, Joshua Davies, ynghyd ag Alex Henry Davies, hefyd o Neuadd y Parc, a Joshua Evans, o Heol y Meinciau, Pont-iets.

Fe wnaeth swyddogion hefyd atafaelu cyffuriau gwerth £3,345 ar y stryd, a oedd yn cynnwys 144 gram o ganabis, 14.53 gram o gocên purdeb uchel a nifer fach o dabledi ecstasi. Yn ogystal, adenillwyd pedwar ffôn symudol, tua £400 mewn arian parod, gwn BB a chyllell hela steil Rambo.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones ei fod yn falch bod ei swyddogion wedi sicrhau erlyniad  chyfnod o garchar ar gyfer pob un o’r dynion.

“Atebodd y tri “dim sylw” yn ystod y cyfweliad a phledio’n euog mewn gwrandawiad cychwynnol, ond cynhyrchodd gwaith rhagorol y Tîm Plismona Achosion Difrifol becyn tystiolaeth na roddodd ddewis iddynt heblaw pledio’n euog yn y llys,” ychwanegodd.

“Gohiriwyd yr ymchwiliad oherwydd gwaith ffôn a fforensig helaeth, yn ogystal â’r pandemig, felly rydym yn falch o gael y canlyniad.

“Bu’r tri dyn hyn yn gysylltiedig â dosbarthu cyffuriau, sy’n lledaenu diflastod drwy ein cymunedau. Ni fydd hyn yn cael ei oddef.

“Ein neges i unrhyw un arall sy’n ystyried gwerthu cyffuriau yw y byddwn yn dod ar eich ôl a byddwch yn cael eich cosbi.”

Pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 31 Ionawr, dedfrydwyd Alex Davies i 36 mis o garchar, dedfrydwyd Joshua Davies i 21 mis o garchar, a dedfrydwyd Evans i 15 mis o garchar. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle