Trafod lles trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r cyngor sir 

0
433

Mae Comisiynydd y Gymraeg eisiau clywed beth yw profiadau pobl o gael cyfarfodydd gyda’u cyngor sir lleol trwy gyfrwng y Gymraeg am faterion sy’n ymwneud â’u lles nhw neu berson maent yn gofalu amdanynt.

Trwy gynnal yr arolwg lles, mae’r Comisiynydd yn arbennig o awyddus clywed am brofiadau plant a phobl ifanc a phobl hŷn ynghylch cyfarfodydd am addysg, gofal neu wasanaethau cymdeithasol.

Mae dyletswydd ar gynghorau sir i ofyn i bobl a ydynt yn dymuno defnyddio’r Gymraeg pan maent yn eu gwahodd i gyfarfod i drafod mater sy’n ymwneud â’u lles. Os yw rhywun yn dweud eu bod yn dymuno cael cyfarfod trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg. Gall hynny ddigwydd drwy wasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn rhai amgylchiadau.

Wrth lansio’r arolwg, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: ‘Rwyf eisiau clywed profiadau pobl ar draws Cymru o geisio defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd gyda’u cyngor sir lleol, a beth yw effaith hynny ar eu gallu i fynegi eu hunain yn Gymraeg. Hoffwn glywed am unrhyw rwystrau, os o gwbl, sy’n wynebu pobl wrth geisio siarad Cymraeg yn y cyfarfod, a beth yw effaith hynny ar ganlyniad y cyfarfod a’u lles nhw.

‘Fy mwriad yw sefydlu dealltwriaeth lawn o’r sefyllfa, a defnyddio’r wybodaeth er mwyn gwella profiadau siaradwyr Cymraeg wrth gael cyfarfodydd gyda’u cynghorau sir lleol yn y dyfodol, ac er mwyn sicrhau nad yw unigolion yn cael eu rhoi dan anfantais wrth geisio defnyddio’r Gymraeg wrth drafod eu lles.’

Gall unigolion ymateb i’r arolwg ar wefan y Comisiynydd erbyn 18 Chwefror 2022, Arolwg Lles (comisiynyddygymraeg.cymru).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle