Cyflwynwyd cais cynllunio ar 14 Ionawr ar gyfer partneriaeth ddatblygu gyffrous ar safle adeilad swyddfa blaenorol Haverfordia House yn Hwlffordd.
Y datblygiad arfaethedig yn Winch Lane, sy’n bartneriaeth rhwng Adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro, yn hybrid o fflatiau parhaol i bobl dros 55 oed, a llety ailalluogi tymor byr ar gyfer y rheiny sy’n gwella ar ôl triniaeth ysbyty.
Disgwylir i’r cyfleuster gynnwys cymysgedd o 12 o unedau ailalluogi en-suite a 25 o fflatiau gwarchod i bobl dros 55 oed.
Mae’r datblygiad yn cynnwys gerddi cymunedol, mannau storio sgwteri trydan, ystafell driniaethau, a mannau byw a rennir.
Disgwylir i’r contractwyr fod ar y safle erbyn yr hydref 2022, ac i’r gwaith ddod i ben erbyn diwedd 2023, yn amodol ar dderbyn y caniatâd cynllunio angenrheidiol.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cyngor Sir Penfro dros Dai, “Mae hwn yn parhau i fod yn gam cadarnhaol iawn o ddatblygiad i’r Cyngor ac mae prosiect Haverfordia yn arbennig o gyffrous gan ei fod yn gydweithrediad gwych rhwng Adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro. Mae Sir Benfro yn llawn haeddu cael adnodd fel hwn a bydd cymaint o bobl yn elwa arno – nid yn unig y rheiny sy’n chwilio am gartref newydd, ond y rheiny sy’n gwella ar ôl triniaeth feddygol na allant ddychwelyd i’w cartref eu hunain ar unwaith, ynghyd ag atal derbyniadau diangen i’r ysbyty.
Byddem yn annog aelodau o’r gymuned leol i ymgysylltu â’r broses
gynllunio ac rydym yn awyddus i ystyried safbwyntiau unrhyw un a allai fod â diddordeb yn y datblygiad neu a allai gael eu heffeithio gan y cyfnod adeiladu.
Bydd y cynlluniau ar gael i’w gweld yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd ar Dydd Iau Chwefror 24 a bydd aelodau o Dîm Datblygu Tai y Cyngor wrth law i ateb cwestiynau a thrafod y prosiect.
I wneud cais am fwy o wybodaeth am y datblygiad hwn, anfonwch neges e-bost at housingclo@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 764551.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle